Mae ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Arfon yn San Steffan yn credu mai’r “argyfwng hinsawdd ydy’r argyfwng mwyaf sy’n ein hwynebu ni fel dynol ryw”.

Paul Rowlinson yw cynghorydd ardal Rachub, ac mae wedi cyflwyno’i enw i geisio olynu Hywel Williams, Aelod Seneddol yr etholaeth, sydd wedi penderfynu peidio sefyll eto, yn rhannol oherwydd ymrwymiadau teuluol.

Mae Paul Rowlinson yn bryderus iawn am ddyfodol y blaned oherwydd yr argyfwng hinsawdd, yn gwneud gwaith i leihau ôl traed carbon ar lefel gymunedol yn Nyffryn Ogwen, ac yn bryderus am yr hyn mae’r Llywodraeth yn San Steffan yn ei wneud i helpu.

“Hwn ydy’r argyfwng mwyaf sy’n wynebu ni fel dynol ryw,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig achub ar bob cyfle i bwysleisio hynny.

“Yn Nyffryn Ogwen, rydym yn gwneud llawer o waith ar lefel gymunedol.

“Mae un o sylfaenwyr Ynni Ogwen hydro cymunedol yn helpu i leihau ôl troed carbon Dyffryn Ogwen, wedyn mae’r elw yn mynd er budd cymunedol.

“Mae’n bwysig bod Aelod Seneddol yn dal Llywodraeth San Steffan i gyfri.

“Os dydyn nhw ddim yn llwyddo i gyrraedd y targed yma, mae’r canlyniadau yn gallu bod yn ddifrifol.

“Yr amgylchedd fydd un o fy mlaenoriaethau, dim ots ar ba lefel wleidyddol rwy’n gweithredu.”

Gwella bywydau pobol

Sail gwleidyddiaeth Paul Rowlinson yw gwella bywyd i bobol ar lefel gymunedol.

Mae’r gymuned yn Nyffryn Ogwen yn ei ysbrydoli, meddai, gyda phobol yn helpu ei gilydd trwy’r pandemig.

Er ei fod yn credu bod cefnogaeth i waith cymunedol gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, nid yw’n credu bod yr un gefnogaeth yn dod gan San Steffan ond fod Plaid Cymru’n blaid sy’n gweithredu’n gymunedol ac yn wleidyddol.

“Rwy’n sefyll dros wella bywydau pobol a gwneud hynny ar lefel cymunedol,” meddai wedyn.

“Mae llawer o bethau yn digwydd yn Nyffryn Ogwen.

“Rydym wedi gweld yn ystod y pandemig, er enghraifft, fod pobol yn dod at ei gilydd i gynorthwyo’i gilydd.

“Roedd pobol yn hel siopa i’w gilydd pan oedden nhw yn methu mynd allan ac mae hyn yn digwydd ledled y wlad.

“Mae angen cefnogaeth i’r mentrau cymunedol gan y Llywodraeth, ar lefel y sir, gan Lywodraeth Cymru a San Steffan.

“Rwy’n credu’n bod ni’n cael y gefnogaeth gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru, ond ddim felly San Steffan.

“Mae gennyf brofiad fel ymgeisydd a dw i’n gwneud llawer yn y gymuned.

“Rwy’n credu fy mod yn gallu cynrychioli pobol yn effeithiol a gwella bywydau pobol.

“Rwy’n ceisio gweithredu yn y gymuned, a gweithredu yn wleidyddol.

“Rwy’n credu bod Plaid Cymru yn blaid y cymunedau a phobol sy’n byw yng Nghymru.

“Rwy’n cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, nid i dynnu sylw ataf fi fy hun, ond oherwydd fy mod eisiau gwella bywydau’r bobol sy’n byw yn ein cymunedau.

“Rwy’n meddwl bod wir angen llais Plaid Cymru yn San Steffan, yn siarad dros anghenion y cymunedau.”

‘Mae’n bwysig gweithio mewn tîm’

Pe bai Paul Rowlinson yn sefyll mewn etholiad, teimla ei bod yn angenrheidiol ei fod yn gweithio fel rhan o dîm.

Mae bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yn agos at ei galon, a hwnnw’n helpu’r economi drwy greu swyddi.

Mae eisiau gweld mentrau sydd ar y gweill yn cael eu gwireddu, fel Ysgol Feddygol Bangor.

Yn frwd dros annibyniaeth i Gymru, nid yw’n gweld ei bod yn gwneud synnwyr nad yw holl benderfyniadau Cymru yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, bod tystiolaeth i gefnogi hyn, a hoffai weld newid.

“Fel aelod seneddol, byddai’n bwysig gweithio mewn tîm efo aelodau o’r senedd a cynghorwyr cyngor sir a Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu’r ardal,” meddai.

“Er enghraifft, mae’n bwysig iawn cael swyddi i bobol ac mae gennym ni fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru sy’n gyfuniad o weithio efo’n gilydd rhwng y cynghorau sir a phrifysgolion, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.

“Mae’r ddwy lywodraeth wedi rhoi cryn dipyn o arian mewn i’r cynllun yma.

“Mae hwn yn datblygu dros ogledd Cymru, efo’r bwriad o gynyddu’r economi 3% y flwyddyn.

“Bydd mwy o swyddi.

“Mae gan yr aelodau seneddol gryn dipyn o fewnbwn i gael pobol at ei gilydd.

“Felly siarad efo diwydianwyr i greu’r swyddi yn yr etholaeth. Mae hwn yn bwysig.

“Rwy’ eisiau gweld pethau ar y gweill yn cael eu cyflawni.

“Bydd ysgol feddygol ym Mangor yn agor ymhen dwy flynedd, ysgol ddeintyddol.

“Mae llawer o’r pethau pwysicaf o ran datblygu cymunedol wedi cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.

“Rwy’ eisiau mynd ymhellach a phwyso am ddatganoli cyfiawnder troseddol a’r heddlu ac yn y blaen.

“Yn fy marn i, dydy o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr bod iechyd a thai yn cael eu datganoli, pethau sy’n effeithio ar droseddu a’r heddlu ac yn y blaen, ond fod y grymoedd yma yn aros efo San Steffan.

“Wrth gwrs, yn y pen draw, rwy’ eisiau gweld Cymru yn wlad annibynnol.

“Mae’r comisiwn ar ddyfodol Comisiynydd Cymru wedi edrych ar yr opsiynau mae Plaid Cymru wedi’u cyflawni ac yn dangos, yn fy marn i, fod y sefyllfa bresennol ddim yn gynaladwy a bod system amgenach lle mae Cymru yn cymryd rheolaeth o’i hun nid unig yn bosib ond yn ddymunol ac yn hyfyw yn economaidd hefyd, er gwaethaf rhai yn dweud ein bod ni methu gwneud.”

Llywodraeth San Steffan ar lawr gwlad

Er bod Paul Rowlinson yn feirniadol o rai o wleidyddion a phenderfyniadau San Steffan, mae’n gweld bod llawer o beth sy’n digwydd yno yn cael effaith ar lawr gwlad yn Arfon.

“Gan San Steffan mae’r levers economaidd am un peth,” meddai.

“Rydym wedi gweld effaith drychinebus Kwasi Kwarteng a Liz Truss.

“Mae Brexit hefyd yn rywbeth sydd yn fai ar Lywodraeth San Steffan.

“Mae hyn yn achosi problemau i bobol sydd yn ceisio allforio ffermwyr yn un peth yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Bydd o’n anodd teithio.

“Mae San Steffan yn cael dylanwad mawr ar lawer o bethau.

“Mae llawer o bethau yn cael eu datganoli, ac rwy’n croesawu hynny, ond mae llawer o rym a dylanwad yn San Steffan.

“Elfennau fel cyllid, mae holl gyllid Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar wariant yn San Steffan.

“Mae’r arian sydd ar gael i wasanaethu’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, i raddau helaeth, yn ddibynnol ar San Steffan.”

“Annhebygol” y bydd etholiad

Ym marn Paul Rowlinson, mae hi’n annhebygol y bydd etholiad yn cael ei chynnal cyn i’r ffiniau newydd ddod i rym fis Gorffennaf.

Mae’n credu y bydd y ffiniau newydd yn helpu’r Ceidwadwyr yn yr etholiad, ac na fyddan nhw’n galw etholiad cyn newid y ffiniau.

Yn ychwanegol, mae’n credu bod y Ceidwadwyr wedi gwneud cymaint o lanast fel eu bod yn teimlo’u bod nhw’n rhy amhoblogaidd i ennill etholiad.

Ar y llaw arall, mae’n credu oherwydd beth sy’n digwydd yn San Steffan y gallai’r llywodraeth chwalu a’i bod hi’n bosib wedyn y byddai etholiad.

Oherwydd y peryg hwn, roedd angen ymgeiswyr a gofynnodd rhai aelodau iddo a fyddai’n sefyll, yn rhannol oherwydd bod ganddo brofiad fel ymgeisydd seneddol.

“Ar yr un olwg, mae’n anhebygol y bydd etholiad yn cael ei gynal i ethol Aelod Seneddol newydd yn Arfon oherwydd bod ffiniau newydd yn dod i rym yn mis Gorffenaf,” meddai.

“Bydd Arfon yn cael ei dileu fel etholaeth, ac mae’n annhebygol iawn y bydd etholiad cyn hynny.

“Wneith y ffiniau newydd helpu’r Ceidwadwyr, felly mae’n debyg eu bod eisiau aros nes bod y ffiniau newydd yn dod i rym.

“Hefyd, maen nhw ar ôl hi gymaint, ac maen nhw mor amhoblogaidd nes eu bod nhw’n saff o gael cweir os ydyn nhw’n galw etholiad.

“Ar y llaw arall, mae cymaint o lanast yn San Steffan.

“Pan wnaeth Liz Truss sefyll i lawr, roedd Johnson yn siarad am ddod ’nôl.

“Roedd ugeiniau o’i weinidogion wedi ymddiswyddo oherwydd eu bod nhw’n methu gweithio efo fo.

“Roedd rhaid i ni benderfynu bod yn wel dewis ymgeiswyr wrth gefn rhag ofn bod y llywodraeth yn chwalu.

“Wedyn gofynnodd rhai aelodau i mi os byswn yn fodlon rhoi fy enw ymlaen.

“Rwy’ wedi sefyll o’r blaen, yn hen etholaeth Conwy, un o’r ddau etholiad wnaeth wneud Arfon.”

Olynu Hywel Williams?

Ac yntau’n parhau i fod yn llais cryf yn San Steffan, mae gan Hywel Williams ddwy flynedd o waith i’w wneud o hyd, meddai Paul Rowlinson wrth edrych tua’r dyfodol.

“Yn sicr, os gawn ni etholiad yn y misoedd nesaf mae am fod yn her i ni fel plaid i gael yr ymgeisydd newydd i olynu Hywel Williams,” meddai.

“Mae gan Hywel Williams lais personol cryf iawn.

“Mae pobol yn meddwl y byd ohono fo, efo parch mawr tuag ato fo a’r gwaith mae wedi’i wneud.

“Yn ystod y blynyddoedd, mae wedi helpu cannoedd o etholwyr efo problemau.

“Mae wedi siarad yn dda dros anghenion cymunedau.

“Yn San Steffan, mae pobol yn gwerthfawrogi hynny.

“Dydy Hywel Williams heb ymddeol eto.

“Mae ganddo ddwy flynedd o waith [i’w wneud].

“Rwy’n siŵr y bydd o’n gwasanaethu pobol yn dda am y ddwy flynedd nesaf.”

Paul Rowlinson yn cyflwyno’i enw fel darpar-ymgeisydd seneddol

Y Cynghorydd Sir dros ward Rachub yn rhoi enw ymlaen ar ran Plaid Cymru