Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Ysgrifennydd Iechyd Cymru am “awgrymu bod pobol ar fai am ddefnyddio’r Gwasanaeth Iechyd”.

Wrth siarad â BBC Cymru heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 10), dywedodd Eluned Morgan ei bod hi wedi gofyn i fyrddau iechyd osod eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf, a galwodd ar y cyhoedd i wneud mwy i helpu eu hunain drwy wneud mwy o ymarfer corff, stopio ysmygu a bwyta’n iachach.

Os nad ydy pobol yn newid eu hymddygiad, efallai y bydd rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gynnig llai o wasanaethau, meddai.

Wrth ymateb, dywed llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig bod yr awgrym yn un ffuantus.

“Er y byddai’n well i gleifion a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol pe bai pobol yn bwyta’n iachach ac yn gwneud mwy o ymarfer corff, mae’n ffuantus i Lafur awgrymu eu bod nhw ar fai am fod angen defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd sy’n cael ei ariannu gan drethdalwyr,” meddai Russell George.

“Roedd atal gwasanaethau yn ystod y pandemig wastad am arwain at gynnydd mewn galw, a dyna pam ei bod hi’n syndod fod gweinidog iechyd Llafur ar y pryd yn dweud y byddai’n ‘hurt’ cyhoeddi cynllun adfer tra’r oedd y pandemig dal yn digwydd.

“Dyma’n union pam fod Llafur wedi bod mor anghywir wrth anwybyddu ein Cynllun Mynediad at Feddygon Teulu, Pecyn Technoleg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ystafelloedd cynnes dros y gaeaf a chynigion ar gyfer hybiau meddygol.

“Does dim rhyfedd bod Cymru, dan Lafur, yn gweld yr amseroedd aros gwaethaf mewn adrannau brys dros Gymru, amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf ar record, a rhestrau aros lle mae 55,000 o bobol yn aros ers dros ddwy flynedd am driniaeth.”

‘Cynnig llai o wasanaethau’

Mae yna “lefelau uchel” o iechyd gwael yng Nghymru, meddai Eluned Morgan wrth BBC Cymru, a “gall pobol helpu eu hunain, gwneud mwy o ymarfer corff, stopio ysmygu, bwyta’n iachach”.

“Os nad ydyn ni’n mynd i weld newid yn ymddygiad y cyhoedd hefyd, yna byddwn ni mewn sefyllfa lle y bydd rhaid cynnig llai o wasanaethau o bosib,” meddai.

“Rydyn ni wedi gofyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ganolbwyntio ar bump neu chwe maes sy’n flaenoriaeth y flwyddyn nesaf, ac os ydyn nhw’n gallu gwneud rhywbeth tu hwnt i hynny, bydd hynny’n wych.

“Rydyn ni angen deall mai dim ond hyn a hyn o arian sy’n mynd tuag at y system, ac y bydd gennym ni feysydd blaenoriaeth y bydd rhaid i ni ganolbwyntio arnyn nhw.

“A bydd hynny’n golygu penderfyniadau anodd iawn, iawn i’r byrddau iechyd.”

Bydd nyrsys yn cwrdd â Llywodraeth Cymru ddiwedd yr wythnos er mwyn trafod gwell cyflog ac amodau gwaith.

Yn y cyfamser, mae disgwyl i weithwyr ambiwlans yng Nghymru streicio dros dâl hefyd.