Mae’n annhebygol y bydd trafodaethau rhwng undebau iechyd a Llywodraeth Cymru’n atal rhagor o streiciau, yn ôl undeb Unsain.

Bydd yr undeb, sy’n cynrychioli degau o filoedd o staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, yn cyfarfod â Llywodraeth Cymru ddydd Iau (Ionawr 12) i drafod tâl ac amodau gwaith gweithwyr iechyd.

Daw’r cyfarfod ag Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi i Lywodraeth Cymru awgrymu’r posibilrwydd o roi taliad untro i weithwyr iechyd.

Mewn llythyr at holl undebau iechyd Cymru, fe wnaethon nhw hefyd awgrymu datrysiadau posib yn ymwneud â chyflogi staff asiantaethau a ffyrdd o adfer hyder yn y corff sy’n adolygu tâl gweithwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog rhwng 4% a 5.5% i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae’r undebau am weld codiad cyflog sy’n cyd-fynd â chwyddiant.

Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Llun, Ionawr 9), dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford na all Llywodraeth Cymru gynnig mwy o godiad cyflog i weithwyr oni bai bod Llywodraeth San Steffan yn rhoi mwy o arian iddyn nhw.

Dywedodd hefyd nad yw’n teimlo chwaith fod y Gwasanaeth Iechyd “mewn argyfwng di-ddiwedd fel mae rhai pobol yn ei awgrymu”, ond ymddiheurodd wrth staff a chleifion am y trafferthion maen nhw wedi eu hwynebu.

‘Angen datrysiad ar unwaith’

Er nad ydy gweithwyr iechyd sy’n aelodau o undeb Unsain wedi bod yn streicio, mae’r undeb wrthi’n cynnal ail bleidlais ymysg gweithwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar dâl ac amodau gwaith.

Dywedodd Dawn Ward, cadeirydd pwyllgor Iechyd Unsain Cymru bod gweithwyr iechyd yng Nghymru ar dorri “gyda galw digynsail ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ynghyd â chyflog sydd ddim yn dod yn agos at allu ymdopi â’r argyfwng costau byw”.

Dywed Hugh McDyer, pennaeth iechyd yr undeb, eu bod nhw’n croesawu ailddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.

“Fodd bynnag, mae hyn yn annhebygol o atal streicio yn y dyfodol na rhoi stop ar yr ail bleidlais sydd yn cael ei chynnal gan Unsain ymhlith gweithwyr ambiwlans Cymru, proses a ddechreuodd ddydd Gwener, Ionawr 6,” meddai.

“Dim ond drwy drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn San Steffan y gellir cael datrysiadau gwirioneddol.

“Mae grym Llywodraeth Cymru’n gyfyngedig, ac rydyn ni angen gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael trafodaethau o ddifrif ynghylch tâl ac amodau gweithwyr nawr, yn ogystal â’r tâl a’r amodau ar eu cyfer yn y dyfodol.”

Mae cyfarwyddwr undeb nyrsio Cymru wedi dweud hefyd na fyddai taliad untro i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd “yn ddigon” i ddod â’r streiciau i ben.

Er bod Helen Whyley, cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi croesawu’r cynnig, dywedodd wrth BBC Cymru ei bod hi’n ansicr am y manylion a’u bod nhw eisiau cyfarfod â Llywodraeth er mwyn trafod rheiny.

Os na ddaw datrysiad, bydd rhaid iddyn nhw streicio eto, meddai yr wythnos ddiwethaf wrth alw am ailagor trafodaethau â Llywodraeth Cymru.

‘Rhoi plaster ar y sefyllfa’

Wrth ymateb i’r newyddion fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig taliad untro i geisio dod â streiciau nyrsys a staff ambiwlansys i ben, dywed y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru mai dim ond rhoi plaster ar y sefyllfa fyddai hynny.

“Ni fyddai’n datrys y problemau hirdymor o ran recriwtio a chadw staff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Jane Dodds, arweinydd y blaid.

“Mae’n bwysig cofio nad pwysau diweddar chwyddiant sydd wrth wraidd hyn, ond bod nyrsys wedi gweld gostyngiad yn eu hincwm dros y degawd diwethaf.

“Mae nifer o nyrsys yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd nawr.

“Gyda nifer y swyddi gwag yn cynyddu a phobol yn gadael nyrsio drwy’r amser, mae’n amlwg bod angen gweithredu i atal y llif.

“Heb ymateb hirdymor i recriwtio, cadw staff a chyflog byddan ni’n ôl yn yr un sefyllfa mewn ychydig fisoedd.”

Streic ambiwlansys

Yn y cyfamser, bydd gweithwyr ambiwlans yng Nghymru sy’n aelodau o undeb Unite yn streicio ar Ionawr 23 a 29.

Mae disgwyl i ryw 1,000 o barafeddygon, technegwyr meddygol a staff ateb galwadau gymryd rhan yn y streiciau.

Wrth ymateb, dywed y Ceidwadwyr Cymreig nad ydy hi’n syndod eu bod nhw’n teimlo’r angen i fynd ar streic.

“Fis diwethaf, gwelodd Cymru’r amseroedd ymateb ambiwlans arafaf ar gofnod,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y blaid.

“Dim bai staff gweithgar Ambiwlans Cymru yw hyn – ond bai gweinidogion Llafur.

“Mae’r argyfwng hwn wedi bod yn hunllef i’r rhai sy’n meddwl a fydd ambiwlans yn cyrraedd i achub eu bywydau ai peidio, neu a fyddan nhw’n cael eu gweld mewn adrannau brys mewn amser rhesymol.

“Yn amlwg, mae’n cael effaith wael ar weithwyr ymroddedig Gwasanaeth Ambiwlans Cymru nawr, sy’n teimlo eu bod nhw’n mynd i faes y gad bob diwrnod ac sydd methu gwneud eu gwaith yn effeithiol nes bod rhywbeth yn newid.”

Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn fodlon cyfaddawdu dros gyflogau

“Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr ddod at y bwrdd a datrys yr anghydfod yma”