Mae Adra, cymdeithas dai fwya’r gogledd, wedi croesawu penderfyniad Cyngor Gwynedd i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad tai newydd yng Nghaernarfon.

Roedd Adra wedi cyflwyno cais i ailddatblygu Garej Lleiod, safle garej ar Ffordd Llanberis, Caernarfon a chreu adeilad preswyl pedwar llawr a fyddai’n cynnwys 21 o fflatiau i unigolion dros 55 oed, yn ogystal â lolfa gymunedol, storfa bygis/beic, storfa finiau, mannau parcio ar gyfer 16 o gerbydau ac ardaloedd wedi’u tirlunio.

Bydd yr adeilad yn cynnwys saith fflat un ystafell wely ar gyfer dau berson, a 14 fflat dwy ystafell wely i dri o bobol.

“Rydym wrth ein bodd bod y Pwyllgor Cynllunio wedi cytuno i’r datblygiad, mae yn bleser gallu cydweithio gyda Chyngor Gwynedd i allu paratoi mwy o dai fforddiadwy i’r Sir i geisio gyfarch yr angen cryf sydd yn bodoli yn lleol,’’ meddai Daniel Parry, Cyfarwyddwr Datblygu Adra.

“Mae’r safle wedi ei gynnwys yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a bydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyfarch y galw uchel am dai sy’n bodoli yn y sir.

“Mae Adra hefyd wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ei Chynllun Corfforaethol i adeiladu 900 o gartrefi newydd erbyn 2025, gan gynyddu nifer ei heiddo i dros 7,500, yn ogystal â buddsoddi £60 miliwn yn ei heiddo presennol.”