Mae cynlluniau ar gyfer creu labordy meddygaeth niwclear cenedlaethol yn y gogledd-orllewin wedi cael eu datgelu gan Lywodraeth Cymru.

Pwrpas y labordy fyddai cyflenwi sylweddau ymbelydrol sydd eu hangen ar gyfer gwneud diagnosis a thrin clefydau fel canser.

Byddai gan y ‘Labordy Cenedlaethol’, fyddai’n eiddo i’r sector gyhoeddus, ei adweithydd niwclear ei hun.

Ar hyn o bryd, mae cyfleusterau sy’n creu’r sylweddau ymbelydrol, sef radioisotopau meddygol, dros y Deyrnas Unedig a thu hwnt yn dod i ddiwedd eu hoes cynhyrchu ac yn cau.

O ganlyniad, erbyn 2030, mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu peidio â bod ag unrhyw radioisotopau meddygol neu’n wynebu “hunllef foesol” o orfod eu dogni.

Byddai colli’r cyflenwad yn cael effaith niweidiol “sylweddol” ar ganlyniad a goroesiad cleifion, yn enwedig rhai â chanser.

‘Creu Cymru iachach’

Wrth ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynlluniau i sicrhau’r cyflenwad o radioisotopau meddygol i Gymru a’r Deyrnas Unedig drwy ddatblygu prosiect ARTHUR (Advanced Radioisotope Technology for Health Utility Reactor).

“Heddiw, rwy’n falch o amlinellu uchelgais glir ar gyfer creu clwstwr technolegol mawr arall yma yng Nghymru, gan hefyd fynd i’r afael ag argyfwng sy’n prysur agosáu ar gyfer triniaeth feddygol ledled y byd,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Ein gweledigaeth yw creu prosiect ARTHUR – cyfleuster meddygaeth niwclear sy’n arwain y byd, ac a fydd yn dwyn ynghyd màs critigol o waith ymchwil, datblygu, ac arloesi ym maes gwyddorau niwclear.

“Yn sgil y datblygiad hwn, nid yn unig y gall Cymru ddod yn lleoliad blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol – drwy gynhyrchu radioisotopau meddygol sy’n achub bywydau sy’n hanfodol ar gyfer gwneud diagnosis a thrin canser – ond gallwn hefyd ddenu swyddi hynod fedrus, creu seilwaith amgylchynol, cefnogi cymunedau lleol, ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol.

“Bydd y prosiect hwn yn hanfodol o ran ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i greu Cymru iachach a mwy ffyniannus, drwy greu’r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobol i wneud eu dyfodol yma yng Nghymru.”

‘Angen cyllid sylweddol’

Mae gweledigaeth y prosiect yn cynnwys creu ‘campws technoleg’ yn y gogledd, yn debyg i gampysau eraill yn y Deyrnas Unedig sydd ag elfen niwclear.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae angen cyllid o wahanol ffynonellau, gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i ariannu’r prosiect.

“Mae maint y buddsoddiad sydd ei angen i wireddu Prosiect ARTHUR yn sylweddol,” meddai Vaughan Gething.

“Rwy’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gydweithredu i gefnogi ein hymdrechion, gan fod y datblygiad hwn yn cefnogi ac o fudd i ddiagnosteg a thrin canser yn y dyfodol ar draws y Deyrnas Unedig.

“Nawr yw’r amser ar gyfer camau gweithredu ac ymrwymiad pendant.

“Bydd goblygiadau peidio â gweithredu’n cael eu cyfrif mewn bywydau dynol ac mewn pwysau economaidd hirdymor ar wasanaethau iechyd, drwy driniaethau iechyd anghynaladwy.”