Byddai’n bosib cynnig codiad cyflog o 8% i nyrsys gan ddefnyddio arian wrth gefn a chyllid sydd heb ei ariannu, yn ôl Plaid Cymru.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig rhoi codiad o tua 4.8% ar gyfartaledd i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Maen nhw hefyd wedi cynnig rhoi taliad untro i weithwyr iechyd er mwyn ceisio dod â streiciau i ben.
Er mwyn cyrraedd cynnig cychwynnol o 8% byddai angen £176m ychwanegol yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac yn ôl Plaid Cymru mae’r wybodaeth maen nhw wedi’i chael gan Weinidog Cyllid Cymru’n profi bod digon o arian i’w gynnig.
Gallai’r arian ddod o gyfuniad o £152.3m o gyllid sydd heb ei ddyrannu o gyllideb Llywodraeth Cymru, o Gronfa Wrth Gefn Cymru, yn ogystal ag o unrhyw danwariant a ragwelir, meddai’r blaid.
‘Hanfodol a phosib’
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, dydy’r cynnig presennol i roi taliad untro i nyrsys ddim am wella cynaliadwyedd hirdymor y proffesiwn na helpu i ddenu staff newydd.
“Mae codiad cyflog tecach yn hanfodol ac yn bosib – beth bynnag mae Llywodraeth San Steffan yn ei benderfynu,” meddai Adam Price.
“Pan fo ffordd glir ymlaen i gynyddu’r dyfarniad cyflog i nyrsys, yr unig gwestiwn sydd ar ôl yw a oes gan Lywodraeth Cymru yr ewyllys i fuddsoddi yn ein nyrsys.
“Mae angen cyflog teg ar nyrsys, ac mae angen dyfarnu’r tâl hwn mewn ffordd sy’n helpu i sicrhau cynaliadwyedd y proffesiwn.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyflym i frolio ein bod ni’n gwneud pethau’n wahanol yng Nghymru.
“Ond pan ddaw i driniaeth nyrsys, parafeddygon a staff eraill y gwasanaeth iechyd sy’n ymladd am gyflog tecach, mae’n ymddangos bod Llywodraeth Lafur Cymru yn rhy barod i ailadrodd camgymeriadau’r Torïaid yn San Steffan.
“Yn yr un penwythnos cyhoeddodd y Torïaid daliad untro i nyrsys yn Lloegr, heb gynyddu’r dyfarniad cyflog, clywn fod Llywodraeth Lafur Cymru yn bwriadu gwneud yr un peth i nyrsys yma yng Nghymru.
“Ni fydd taliad untro yn helpu i gadw nyrsys yn y swydd, ac ni fydd ychwaith yn denu pobol newydd i nyrsio.
“Nid yw ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ddim byd heb ei weithwyr, a byddai cynnig cyflog llawer gwell – sy’n gwbl gyraeddadwy – yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol y gwasanaeth cyhoeddus hanfodol hwn yr ydym i gyd yn dibynnu arno.”