Mae dwy ffrind gafodd eu magu yn yr un ardal yn Swydd Efrog cyn byw mewn dwy ardal wahanol o Loegr, wedi closio eto a bellach yn cydweithio ac yn siarad Cymraeg â’i gilydd yng Nghaerdydd.

Cafodd Angharad Alter ac Elizabeth James, sy’n gweithio i Gymwysterau Cymru, eu magu yn Whitby ar arfordir gogledd Efrog, cyn i Angharad a’i theulu symud i Reading.

Hanes Angharad Alter

Daeth Angharad, sydd â mam-gu sy’n siarad Cymraeg, i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2014, a chyfarfod ei gŵr, Dewi, sy’n siarad Cymraeg.

Mi wnaeth Dewi ei hannog i ddysgu Cymraeg ac mae hi bellach yn dilyn cwrs lefel Gloywi gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ar ôl cyrraedd y brifysgol, ond fy ngŵr, Dewi, wnaeth fy annog i ddal ati,” meddai Angharad Alter.

“Mae’r Gymraeg yn rhan mor fawr o’i fywyd felly ro’n i eisiau bod yn rhan o hynny.

“Dw i nawr yn siarad Cymraeg gyda fy ngŵr a’i deulu, fy mam-gu a nifer o fy ffrindiau.”

Hanes Elizabeth James

Penderfynodd Elizabeth James symud i Gymru er mwyn bod gyda’i gŵr, Owain.

Mae Owain yn dod o Gaerdydd ond mi wnaeth y ddau gyfarfod yn Leeds, tra roedd Elizabeth yn dysgu hanes mewn ysgol uwchradd.

“Mi wnes i symud i Gaerdydd ar ôl i fy ngŵr a minnau ddyweddïo achos roedd o eisiau dychwelyd i Gymru ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn astudio yn Lloegr,” meddai.

“Yn ystod y cyfnod clo, ro’n i’n byw gyda theulu fy ngŵr, sy’n siarad Cymraeg, ac mi wnes i ddechrau dilyn gwersi byw ‘Deg am Dri’ ar Facebook gyda Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mi wnes i ddechrau ymarfer siarad Cymraeg o amgylch y bwrdd bwyd, a dyna oedd dechrau’r daith i ddysgu’r iaith!”

Cyfeillgarwch

Mi wnaeth Angharad Alter ac Elizabeth James gadw mewn cysylltiad yn ystod eu harddegau, ac roedd y ddwy yn mynd i wersyll Cristnogol yn y Bala.

Yng Nghaerdydd, maen nhw’n mynd i Eglwys Gymraeg ac yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn wythnosol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Maen nhw hefyd yn defnyddio’r Gymraeg gyda chydweithwyr ac mewn cyfarfodydd yn y gwaith.

“Mae gen i fwy o hyder nawr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, a dw i’n edrych ymlaen at weld hynny’n datblygu ymhellach,” meddai Elizabeth James.

“Mae fy nghyflogwyr wedi bod mor gefnogol ac fe dreuliais i wythnos yn dysgu Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn yn gynharach eleni.

“Mae dysgu Cymraeg a defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith a thu fas i’r gwaith wedi bod yn brofiad gwerth chweil hyd yma.

“Doeddwn i ddim yn meddwl fy mod yn hoff o ddysgu ieithoedd ond mae fy mhrofiad wedi dangos bod pawb yn gallu dysgu iaith newydd.”