Gallai perchnogion ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin orfod talu dwywaith y dreth gyngor fel rhan o gynigion sydd wedi’u cymeradwyo gan Gabinet y Cyngor Sir.
Yr argymhelliad ar gyfer ail gartrefi yw cyflwyno premiwm treth gyngor o 50% neu 100%, yn ddibynnol ar ymgynghoriad cyhoeddus a sêl bendith y Cyngor llawn.
Mae hyn ychydig yn wahanol i’r argymhelliad gafodd ei gyflwyno yn adroddiad y Cabinet.
Mae aelodau’r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo argymhelliad o ran cyflwyno premiwm treth gyngor ar gyfer perchnogion tai sy’n wag am gyfnod hir.
Byddai perchnogion eiddo sydd wedi bod yn wag ers blwyddyn neu ddwy yn talu premiwm o 50%, fyddai’n codi i 100% ar gyfer y rheiny sydd wedi bod yn wag ers dwy i bum mlynedd.
Byddai cynnydd pellach i 200% ar gyfer eiddo sydd yn wag ers o leiaf bum mlynedd.
Mae’r Cyngor Plaid Cymru-Annibynnol wedi ymatal hyd yn hyn rhag cyflwyno premiwm ar ail gartrefi, er gwaetha’r pryderon am eu heffaith ar argaeledd eiddo fforddiadwy mewn ardaloedd poblogaidd, hyd nes bod newidiadau rheoleiddiol wedi’u cyflwyno yng Nghymru.
“Dyma dechrau’r daith honno,” meddai Darren Price, arweinydd y Cyngor, ar ôl i’r argymhellion gael eu cymeradwyo.
Mae naw allan o 22 o gynghorau yng Nghymru wedi cyflwyno premiwm treth gyngor ar ail gartrefi i raddau gwahanol, tra bod gan 11 ohonyn nhw bremiwm ar gyfer tai sy’n wag am gyfnodau hir.
O fis Ebrill, bydd modd cyflwyno premiwm o hyd at 300% ar ail gartrefi.
Amlinellu’r dirwedd reoleiddio
Ychydig iawn o drafodaeth fuodd rhwng aelodau’r Cabinet ar ôl i’r Cynghorydd Alun Lenny, sy’n gyfrifol am gyllid, amlinellu’r dirwedd reoleiddio newydd.
Mae hyn yn cynnwys y meini prawf fel bod angen talu cyfraddau busnes ar gyfer llety hunanarlwyo yn hytrach na’r dreth gyngor, fydd yn newid o fis Ebrill.
Ar hyn o bryd, mae eiddo sydd ar gael i’w rentu am o leiaf 140 diwrnod ac sy’n cael eu rhentu am o leiaf 70 diwrnod, yn talu cyfraddau yn hytrach na’r dreth gyngor.
Bydd y newid yn golygu cynyddu’r trothwy fel eu bod nhw ar gael i’w rhentu am o leiaf 252 o ddiwrnodau ac yn cael eu rhentu am o leiaf 182 o ddiwrnodau dros gyfnod o 12 mis.
Mae oddeutu 1,060 o ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin, ond dim ond 860 ohonyn nhw, am sawl rheswm, sy’n debygol o fod yn destun premiwm.
O ran tai gwag, dywed Alun Lenny fod gan gynghorau gyfrifoldeb a phwerau i ddod â nhw’n ôl i ddefnydd, ond fod yn well ganddyn nhw ymdrin â pherchnogion yn anffurfiol fel arfer.
Mae oddeutu 2,310 o dai gwag yn Sir Gaerfyrddin, gyda 1,310 ohonyn nhw’n wag ers dros flwyddyn, ac felly bydden nhw’n gymwys i orfod talu premiwm newydd.
Fyddai’r premiwm ail gartrefi na’r premiwm eiddo gwag hirdymor ddim yn gorfod cael ei dalu cyn Ebrill 2024.
Troi pobol i ffwrdd?
Yn ôl aelod o staff yn asiantaeth Clee Tompkinson Francis yng Nghaerfyrddin, fydd premiwm ail gartrefi ddim yn troi pobol i ffwrdd rhag prynu eiddo mwy drud, ond mae’n bosib y gallai troi’r rheiny i ffwrdd sydd ag ail gartref sy’n dŷ teras gwerth £150,000 er enghraifft.
Dywed ei fod yn gwerthfawrogi fod angen tai ar bobol leol i fyw ynddyn nhw, ond fod perchnogion ail gartrefi’n gwneud lles wrth wario arian mewn bwytai a chaffis lleol hefyd.
“Mae angen yr arian ar fentrau masnachol,” meddai, gan ychwanegu y byddai sgil effaith pe bai’r incwm hwnnw’n cael ei dorri.
Dywed yr adroddiad sydd wedi mynd gerbron y Cabinet fod peth ymchwil wedi nodi rhai effeithiau positif o gael ail gartrefi, ond fod casgliadau mwy diweddar yn herio i ba raddau mae hynny’n wir.