Dylai pob mudiad a sefydliad yn y ‘bröydd Cymraeg’ sicrhau bod mwyafrif aelodau eu pwyllgorau’n medru’r Gymraeg ac yn adnabod yr ardal, yn ôl un papur bro.
Mae papur CLEBRAN, papur bro’r Preseli, yn galw ar y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i argymell y dylai mudiadau mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith sicrhau hynny.
Wrth ganmol menter Clwb Pêl-droed Crymych am fwrw ati i brynu tafarn y pentref ar gyfer y gymuned, dywed y papur ei bod hi’n “hanfodol” ethol siaradwyr Cymraeg i redeg y fenter.
Mae’r alwad yn un fyddai’n addas i’w hymestyn i fudiadau dros ardaloedd yn y gorllewin sy’n draddodiadol Gymraeg eu hiaith, yn ôl Hefin Wyn, golygydd y papur.
“Dim ond unigolion sy’n rhan o’r Gymru Gymraeg ac sy’n deall y Gymru Gymraeg all lywio mentrau o’r fath a’u rhwystro rhag mabwysiadu arferion sy’n milwrio yn erbyn dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw. Mawr yw’r cyfrifoldeb,” meddai’r erthygl yn CLEBRAN.
Does yna’r un gymuned yng ngogledd Sir Benfro lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg bellach, ac ychydig dros 50% yw’r ffigwr ar gyfer Crymych ei hun.
Mae’r diffiniad o’r ‘bröydd Cymraeg’ wedi newid dros amser, ond wrth ddiffinio’r ardaloedd lle byddai’r argymhelliad yn addas, dywed Hefin Wyn y byddai’n bosib ystyried yr ardaloedd sydd wedi’u hystyried yn draddodiadol fel ‘bröydd Cymraeg’, ac o bosib, llefydd lle mae yna griwiau o bobol yn gwneud ymdrech i gynnal yr iaith.
Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg, o dan gadeiryddiaeth Dr Simon Brooks, yn casglu tystiolaeth ar hyn o bryd ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn llunio strategaeth i ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg.
‘Creiddiol i bob dim’
Dydy hi ddim yn ddigon dweud y dylai pob dim fod yn ddwyieithog, meddai Hefin Wyn, sy’n dadlau y dylai’r Gymraeg fod yn “iaith y trafod a’r gweinyddu ac yn greiddiol i bob dim”.
“Ni ddisgwylir dim llai yng Nghrymych lle mae gan Ysgol Bro Preseli enw mor dda am fod ymysg y goreuon yng Nghymru ar sawl achlysur,” ychwanega, gan ddefnyddio’i fro a’r tîm pêl-droed fel enghraifft.
Mae Clwb Pêl-droed Crymych wrthi’n prynu tafarn y Crymych Arms er mwyn creu cartref i’r clwb.
“Dros ganrif a mwy yn ôl mynd ati i godi capeli ar eu cost eu hunain a wnâi trigolion y gymuned. Codwyd Antioch yr Annibynwyr yn 1845 a Seion y Bedyddwyr yn 1900.
“Mae’r drysau yn dal ar agor ond pylu wnaeth y gweithgaredd oedd yn gysylltiedig â’r ddau sefydliad.
“Ar yr un pryd oni bai amdanyn nhw, a chapeli cyffelyb ar hyd y fro, ni fyddai’r Gymraeg wedi goroesi cyhyd fel iaith gymunedol.
“Mae’n rhaid i’r Crymych Arms ar ei newydd wedd – cartref [tîm pêl-droed] Y Bustych – wneud mwy na chydnabod bodolaeth y Gymraeg ond sicrhau ei bod yn ffynnu.”
Dwyieithrwydd tocenistaidd?
“Mae dyn yn tueddu i deimlo’n weithiau efo rhai o’r cyrff yma eu bod nhw’n gwneud yn siŵr bod popeth yn ddwyieithog, ond ryw docenistiaeth yw e’n gallu bod yn aml,” meddai Hefin Wyn wrth siarad â golwg360.
“Efallai bod ganddyn nhw ddim y capasiti neu’r bobol i gynnal cyfarfodydd yn y Gymraeg yn gyson ond mae’n gam cadarnhaol ar eu rhan nhw eu bod nhw’n cysylltu â’r cyhoedd yn ddwyieithog, beth bynnag.
“Ond mewn ardal draddodiadol Gymraeg, byddai dyn yn gobeithio’n fawr iawn ei bod hi’n hanfodol erbyn hyn bod yr holl drafodaethau, gweinyddiaeth, yn y cyswllt hwn, yn Gymraeg.”
Mae gan siaradwyr newydd gyfraniad i’w wneud “yn sicr”, meddai Hefin Wyn, “os ydyn nhw’n deall yr ardal ac yn adnabod yr ardal, mae hynny’n bwysig”.
“Dyna sy’n bwysig, eu bod nhw’n cydnabod ei bod hi’n ardal Gymraeg draddodiadol neu ei bod hi’n ardal lle mae rhai pobol yn gwneud ymdrech i gynnal yr iaith.”
Dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith
Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ymgynghori ar sut i gryfhau cymunedau Cymraeg ar hyn o bryd, ac mae’n bosib i bobol ddweud eu dweud cyn dydd Gwener (Ionawr 13).
Mae cryfhau cymunedau Cymraeg yn ganolog i strategaeth Llywodraeth Cymru o ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.
“Rydyn ni am roi cyfle i bawb ddweud eu dweud am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg,” meddai Dr Simon Brooks wrth agor yr ymgynghoriad.
“Bydd tystiolaeth a syniadau sy’n cael eu cyflwyno i ni yn hanfodol wrth i ni weithio ar ein hargymhellion fel comisiwn.
“Dw i’n annog cymaint o bobol â phosib i gymryd rhan, a dw i’n addo y bydd pob syniad yn cael ei ystyried yn ofalus.”