Fe fydd Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, yn mynd i gyfarfod rhwng arweinwyr Sbaen a Ffrainc yn Barcelona yr wythnos nesaf, er bod aelodau ei blaid am brotestio yn erbyn y cyfarfod.

Mae disgwyl i Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen, ac Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, gyfarfod yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol Catalwnia ar Ionawr 19.

Dydy hi ddim yn gwbl glir ar hyn o bryd pa ran fydd gan Aragonès yn y cyfarfod, wrth i’w blaid Esquerra baratoi i gynnal protest ochr yn ochr â grwpiau a phleidiau eraill sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia.

Yn ôl Esquerra, dydyn nhw ddim eisiau gwrthod y cyfle i fod yn rhan o’r trafodaethau er gwaethaf eu teimladau am y cyfarfod.

Ond fydd aelodau’r Cabinet ddim yn rhan o’r rali tros annibyniaeth, er eu bod nhw’n “deall a pharchu” rhesymau’r ymgyrchwyr, sy’n cyhuddo pwyllgor gwaith Sbaen o fanteisio ar leoliad y cyfarfod at ddibenion gwrth-annibyniaeth.

Protocol

Yn ôl y protocol, dylai gweinyddiaeth y diriogaeth sy’n cynnal cyfarfodydd o’r fath – Catalwnia yn yr achos hwn – gael y cyfle i arwain y drafodaeth.

Ond Sbaen fydd yn llywio’r cyfarfod, nid Catalwnia.

Bydd Esquerra, felly, yn cymryd rhan mewn protest ochr yn ochr â’r ANC, Òmnium Cultural a Consell per la República gyda’r holl grwpiau’n dadlau bod “yr ymgyrch tros annibyniaeth yn dal yn fyw” ac yn dweud y byddan nhw’n parhau i ymgyrchu tros hunanlywodraeth.

Bydd Junts per Catalunya a CUP, dwy blaid arall sydd o blaid annibyniaeth, hefyd yn cymryd rhan yn y rali – gyda’r holl bleidiau’n uno am y tro cyntaf ers yr anghydfod rai misoedd yn ôl tros strategaeth a chyfeiriad y mudiad annibyniaeth arweiniodd at Junts yn gadael Llywodraeth Catalwnia.

Mae Laura Borràs, llywydd Junts, yn disgrifio’r gwahoddiad i Pere Aragonès a Barcelona gael cynnal y cyfarfod rhwng Sbaen a Ffrainc fel “gwahoddiad gwenwynig” ac fel dull o “brocio” a “dangos i’r byd fod y broses annibyniaeth ar ben”.