Mae’r cynlluniau ar gyfer meithrinfa Gymraeg yn Nhŷ-du wedi cael eu gwrthod gan adran gynllunio Cyngor Sir Casnewydd, o ganlyniad i bryderon am ddiogelwch.
Roedd disgwyl y byddai lle i 50 o blant ar yr un pryd yn y feithrinfa mewn bloc o swyddfeydd yng Nghanolfan Fusnes y Wern.
Mae cwmni Tots-Play wedi’i leoli ar lawr gwaelod yr adeilad ar yr ystad ddiwydiannol, ond mae’r Cyngor wedi cadarnhau mai at ddefnydd swyddfeydd yn unig mae ganddyn nhw ganiatâd.
Wrth wrthod y feithrinfa, nododd y Cyngor na fyddai gan y safle “drefniadau mynediad addas a diogel” ar gyfer plant, gan fod yr ardal yn cael ei defnyddio gan gerbydau trwm.
Wedi’i gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio, nododd y datganiad dylunio a mynediad fod yr ardal yn “llewyrchus”, gan ei bod yn newid o fod yn ardal ddiwydiannol i fod yn gymuned.
Ychwanegodd nad oes yna “hanes o broblemau” yno.
Roedd disgwyl i derfyn cyflymder o 5m.y.a. a system un-ffordd gael eu cyflwyno ar gyfer y rhai fyddai’n gyrru i’r feithrinfa, pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo.
Roedd disgwyl y byddai’r feithrinfa ar agor rhwng 7.30yb a 6yh o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac y byddai deg aelod o staff yn cael eu cyflogi.
Ymateb y Cyngor
“Roedd diogelwch defnyddwyr posib y feithrinfa yn fater o’r pwys mwyaf pan ddaeth i ystyried y cais hwn,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd.
“Mae lleoliad arfaethedig y feithrinfa ar ystad ddiwydiannol brysur, mewn ardal sy’n cael ei defnyddio ar gyfer storio a dosbarthu, gyda cherbydau trwm yn symud yn gyson.
“Cododd hyn bryderon sylweddol o ran defnyddwyr y feithrinfa a’r potensial am wrthdaro o ystyried gosodiad a gweithrediadau’r safle arfaethedig.
“Dydy’r safle arfaethedig ddim yn cael ei ystyried yn lleoliad addas ar gyfer gofal plant neu weithgareddau sy’n cylchdroi o amgylch plant.
“Cafodd cais blaenorol ar gyfer ardal chwarae i blant a chaffi ei wrthod o fewn yr ystad ddiwydiannol.”
Yn y cais cynllunio, mae’r ceisiwr yn nodi bod Tots-Play yn fusnes presennol sy’n denu plant i’r ystad ddiwydiannol.
“Does dim caniatâd cynllunio ar gyfer yr adeilad sy’n cael ei ddefnyddio gan Tots-Play i’w ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau i blant neu sesiynau i blant a rhieni,” meddai’r Cyngor.
“Mae’r awdurdod yn deall bod y safle’n cael ei ddefnyddio fel swyddfa i’r cwmni.
“Pe bai eisoes yn cael ei ddefnyddio fel unrhyw beth ar wahân i swyddfeydd, yna bydd ymchwiliad i dorri [rheoliadau] cynllunio posib yn cael ei gynnal.”