Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn dweud eu bod yn fodlon cyfaddawdu gyda Llywodraeth Cymru dros gyflogau.
Fodd bynnag, mae’r undeb yn rhybuddio y bydd yna weithredu diwydiannol pellach os na fydd datrysiad i’r anghydfod.
Maen nhw’n mynnu bod angen i lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig gynnal trafodaethau cyn i streiciau allu dirwyn i ben.
‘Cynnig ystyrlon’
“Rydym wedi bod yn gofyn am (gynnydd ar lefel) chwyddiant a 5% ar ben hynny,” meddai Helen Whyley, cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru.
“Ers y ceisiadau gwreiddiol hynny, mae’r sefyllfa economaidd wedi newid yn sylweddol, ac mae’r nyrsys yn teimlo’r effaith.
“Mae’r aelodau yn deall yr hinsawdd economaidd rydyn ni gyd yn ei wynebu – felly be ni’n ddweud yw ein bod yn barod i fod yn real am yr hinsawdd economaidd ac rydym yn barod i gyfaddawdu rywfaint drwy drafod setliad – ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud hynny mor fuan â phosib.
“Yr hyn dw i angen yw cynnig ystyrlon dwi’n gallu ei roi i’n haelodau – un maen nhw’n gallu ei dderbyn ac sy’n eu galluogi i barhau i wneud y gwaith maen nhw’n ei wneud mor dda.
“Rydyn ni angen fformiwla fydd yn dechrau datrys y prinder dybryd o nyrsys cofrestredig yng Nghymru.
“Mewn unrhyw drafodaethau, mae’n rhaid cael cyfaddawd gan y ddwy ochr. Rydym yn barod i gael y drafodaeth yna.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr ddod at y bwrdd a datrys yr anghydfod yma.”
‘Dim dewis ond cyhoeddi rhagor o ddyddiau streic’
Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb yn hytrach na beio Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn llwyr am yr anghydfod, yn ôl Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru.
“Os na ddaw datrysiad, bydd yn rhaid i ni weithredu’n ddiwydiannol eto a bydd y dyddiadau hynny’n cael eu cyhoeddi yn y dyddiau i ddod,” meddai Helen Whyley.
“Rydym yn gofyn iddyn nhw ddychwelyd at y bwrdd, a dechrau trafodaeth ystyrlon ynghylch tâl nyrsys.
“Os nad ydych chi’n barod i wneud hynny, os rydych chi’n parhau i ddweud nad problem Llywodraeth Cymru yw hi, yna bydd dim dewis ond cyhoeddi rhagor o ddyddiau streic yng Nghymru.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Byddwn ni’n parhau i weithio i ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a’r llywodraeth ynghyd i sicrhau’r canlyniad gorau posib i weithwyr, tra’n parhau i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddefnyddio’r cyllid sydd ganddynt i ddarparu cynnig tâl teg i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a galluogi ni i wneud yr un peth yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth ymateb.
‘Ni allwn fforddio colli mwy o nyrsys’
“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru ddychwelyd i’r trafodaethau a chyrraedd setliad cyflog teg,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wrth ymateb i’r datganiad.
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wynebu ei argyfwng mwyaf mewn degawdau, ni allwn fforddio colli mwy o nyrsys dros gyflogau ac amodau gwaith.
“Nid dadl rhwng gwasanaethau rheng flaen a nyrsys yw hon oherwydd mai nyrsys yw ein gwasanaethau rheng flaen.”