Mae Cyngor Gwynedd yn paratoi i wneud “penderfyniadau anodd” allai effeithio ar y rhai mwyaf bregus, gan eu bod yn wynebu bwlch gwerth £12m yn eu cyllid.
Dyma’r bwlch mwyaf mae’r Cyngor wedi’i wynebu mewn cyfnod o flwyddyn.
Ychydig cyn y Nadolig, dechreuodd y gwaith o ymchwilio i ba wasanaethau roedd modd eu torri yn y flwyddyn newydd.
“Mae Cyngor Gwynedd yn parhau i fod mewn sefyllfa anodd, rydym yn wynebu gorfod gosod cyllideb gytbwys ond eto dal i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y rhai mwyaf bregus,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.
“Ganol mis Rhagfyr, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd ein cyllideb yn cynyddu 7% ar gyfer 2023-24.
“Mae hyn ychydig yn is na’r cyfartaledd ar gyfer cynghorau Cymru ar 7.9% ac nid yw’n cynnwys chwyddiant na chwaith y cynnydd yn y galw am wasanaethau a achosir gan yr argyfwng costau byw.
“Felly, rydym yn edrych ar fwlch ariannu gwerth £12m, y gwaethaf erioed mewn un flwyddyn.
“Fel Cyngor, does dim dewis gennym ond dod o hyd i’r cydbwysedd cyfrifol rhwng toriadau i wasanaethau a chynnydd yn y Dreth Gyngor, mae’n rhaid gwneud penderfyniad anodd iawn.”
‘Setliad ymhlith y gwaethaf mewn termau’
“Ers cyllideb Llywodraeth San Steffan yn yr Hydref roedden ni wedi rhagweld y bydd pethau’n llwm i ni, mae’r cyhoeddiad yn cadarnhau y byddwn ni’n wynebu diffyg ariannol sylweddol yn 2023/24,” meddai Dyfrig Siencyn, arweinydd y Cyngor, yn dilyn y cyhoeddiad am setliad ariannol llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru.
“Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos na fydd pethau cyn waethed â’r rhagolygon ychydig wythnosau yn ôl ac y bydd Gwynedd yn derbyn mwy o arian y flwyddyn nesaf.
“Mewn gwirionedd, mae’r setliad hwn ymhlith y gwaethaf mewn termau real yr ydym ni fel Cyngor erioed wedi’i dderbyn.
“Mae costau popeth sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau lleol i Wynedd – fel ynni, nwyddau a llafur wedi cynyddu 11% ers yr hydref, sydd yn gost ychwanegol o tua £22m.
“Ar yr un pryd mae’r galw am wasanaethau fel digartrefedd wedi cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.
“Yn syml, nid yw’r cynnydd o £14m yn y setliad yn ddigon i liniaru hyn.
“Does dim dewis gennym ond naill ai torri gwasanaethau, cynyddu’r Dreth Cyngor yn sylweddol neu daro cydbwysedd cyfrifol.
“Rydym yn benderfynol o barhau i warchod ein preswylwyr mwyaf bregus a’n gwasanaethau allweddol.”