Mae ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Arfon yn San Steffan yn dweud ei bod hi’n “credu bod yna obaith am newid”.
Mae Catrin Wager yn gynghorydd cymuned Bethesda, ac mae hi wedi cyflwyno’i henw i geisio olynu Hywel Williams, Aelod Seneddol yr etholaeth sydd wedi penderfynu peidio sefyll eto, yn rhannol oherwydd ymrwymiadau teuluol.
Yn fam i ddau o blant, mae Catrin Wager yn gweld bod y dyfodol yn ansicr mewn sawl ffordd i’r genhedlaeth nesaf, ac mae hi hefyd yn sefyll dros gyfiawnder cymdeithasol i bobol yn Arfon, gan wrthwynebu ideoleg y Ceidwadwyr yn San Steffan.
“Fel nifer o rieni rwy’n siŵr, rwy’n bryderus am y dyfodol mae’n plant yn mynd i’w etifeddu,” meddai wrth golwg360.
“O’r argyfwng hinsawdd i’r dirywiad sylweddol sydd wedi bod i’n cymdeithas, a’i ardrawiad ar y mwyaf bregus yn ein plith, ar ôl mwy na degawd o lymder y Torïaid, mae’n rhaid i rywbeth newid.
“Rwy’n credu bod yna obaith am newid.
“Penderfyniad ideolegol ydy llymder y Torïaid, a dylai unrhyw lywodraeth sy’n dewis rhoi cytundebau costus ac apwyntiadau anghyfreithiol i’w ffrindiau yn hytrach na darparu bwyd i blant difreintiedig, neu gyflog teg i weithwyr iechyd, gael eu dal i gyfrif.
“A dyna be’ rwy’ eisiau’i wneud.
“Rwy’ wir eisiau bod yn llais i drigolion Arfon yn galw am y tegwch a llywodraethu cydwybodol dwi’n credu ein bod ni eisiau ei weld.”
‘Egwyddorion yn brin’
Yn ôl Catrin Wager, mae egwyddorion yn brin yn San Steffan.
Mae hi’n rhan o gasglu a chydlynu danfon nwyddau hanfodol i ffoaduriaid a’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ryfel ym mhedwar ban byd.
Un o’r pethau mae hi’n credu’n gryf ynddo ydy “gwnewch y pethau bychain”, ac mae hi’n gweld bod pob gwahaniaeth bach yn effeithio unigolion a chymuned.
“Yn sylfaenol, tegwch cymdeithasol, teyrngarwch a charedigrwydd” yw’r pethau mae hi’n sefyll drostyn nhw, meddai.
“Rwy’n meddwl bod y rhain yn rhinweddau sydd yn brin yn San Steffan, a’n bod ni wedi cael digon o hynny.
“Nôl yn 2015, cefais fy sbarduno i geisio gwneud gwahaniaeth i’r rhai oedd yn ffoi rhyfel.
“Roeddwn wedi cael digon o weld plant a phobol yn boddi ar draethau Ewrop, tra’u bod yn cael eu pardduo gan wleidyddion a’r wasg.
“Roedd yn fraint cydweithio ag unigolion arbennig ar draws Arfon, ac ymhellach i gasglu a chydlynu danfon nwyddau hanfodol i ffoaduriaid a’r rhai oedd yn cael eu heffeithio gan ryfel cyn belled â Syria a Libanus, yn ogystal ag ynysoedd Groeg a Calais.
“Roedd yna stori oedd yn boblogaidd ymhlith gwirfoddolwyr oedd yn trio cefnogi ffoaduriaid yn y cyfnod yma, sef stori’r seren fôr, ac mae’r stori yn crisialu fy meddylfryd, a’m hagwedd at y byd gwleidyddol dwi’n meddwl.
“Yn ôl y stori, mae oedolyn yn mynd am dro ar lan y môr, ac yn gweld cannoedd o sêr mor wedi eu golchi fyny ar y traeth.
“Yn eu plith mae plentyn, sy’n casglu’r sêr fesul un a’u taflu ’nôl i’r môr.
“Mae’r oedolyn yn gweld pa mor enfawr yw’r dasg, ac yn mynd at y plentyn gan ddweud wrtho ei bod yn amhosib gwneud gwahaniaeth mawr – fod y nifer o sêr mor yn ormod.
“Ond mae’r plentyn yn edrych ar y seren fôr yn ei law ac yn dweud, ‘Dwi’n mynd i wneud gwahaniaeth mawr i’r un yma’.
“Dyna rwy’n sefyll drosto fo; y gobaith o wneud gwahaniaethau all ymddangos yn fach yn wyneb yr heriau niferus rydan ni’n eu hwynebu, ond fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i unigolion a chymunedau ein bro.
“Rwy’ eisiau rhoi llais a chefnogaeth i’r mwyaf bregus yn ein plith, a phrocio cydwybod Llywodraeth San Steffan, gan geisio gwthio, gam wrth gam, am well.”
Gwneud gwahaniaeth
Mae Catrin Wager wedi helpu unigolion yn y gorffennol, o faterion yn ymwneud â thai i arian a budd-daliadau.
Pryder sydd ganddi yw effaith Brexit ar drigolion rhyngwladol a busnesau.
Wedi ei hysbrydoli gan rai gwleidyddion yn San Steffan, mae hi’n gobeithio gwneud gwahaniaeth nid yn unig i unigolion ond i’r darlun mawr hefyd.
“Yn fy nghyfnod fel cynghorydd sir yng Ngwynedd, daeth y boddhad mwyaf i mi pan oeddwn yn gallu helpu unigolion hefo problemau neu sefyllfaoedd oedd yn effeithio ar eu bywydau bob dydd; o ganfod cartref neu gefnogaeth gyda phroblemau sŵn, pryder am grant, neu gais gynllunio,” meddai wedyn.
“Mae’n fraint pan mae pobol yn ymddiried ynddoch chi a’ch bod yn gallu eirioli ar eu rhan.
“Rydan ni gyd yn ymwybodol o heriau Credyd Cynhwysol, neu’r sefyllfaoedd anodd mae trigolion rhyngwladol a busnesau wedi eu hwynebu yn sgil Brexit – mae’r rhain i gyd yn faterion dan reolaeth San Steffan, a byddai gallu cefnogi trigolion ar faterion fel hyn yn bwysig i mi.
“Fel stori’r seren fôr, rwy’n gobeithio gwneud gwahaniaeth un wrth un, drwy wneud fy ngorau dros bob person sydd fy angen.
“Ond wrth gwrs dwi hefyd yn gobeithio y galla i gael dylanwad ar y darlun mawr.
“Rwy’n llawn ymwybodol na fyddwn mewn unrhyw sefyllfa lywodraethu pe taswn yn cael yr enwebiad ac yn cael fy ethol, ond rwy’ wedi fy ysbrydoli gan wleidyddion fel Mhairi Black a Caroline Lucas sydd yn gyson yn eu safiadau egwyddorol cryf, a rwy’n gobeithio y byddai fy mhrofiad gwleidyddol, fy nghefndir mewn cyfathrebu a fy sgiliau llefaru yn golygu y gallwn innau droedio llwybr tebyg, gan godi llais dros Arfon, a thros Gymru.”
Sefyll ar ôl Hywel Williams
Roedd gwaith Hywel Williams yn sylweddol, felly sut beth fyddai cael ei olynu?
Mae Catrin Wager yn credu ei fod wedi bod yn “gynrychiolydd arbennig, cydwybodol”, a bod pobol yn ymddiried ynddo a’i fod ar ochr gywir hanes.
Mae ganddi edmygedd o’i safiad mewn rali i gefnogi ffoaduriaid yng Nghaernarfon, ac mae hi’n gobeithio dilyn ei esiampl.
“Mae Hywel Williams wedi bod yn gynrychiolydd arbennig,” meddai.
“Yn weithgar a chydwybodol, fel etholwr roedd rhywun bob tro’n gallu ymddiried yn Hywel i fod ar yr ochr iawn o hanes yn ei benderfyniadau.
“Dwi’n cofio cwrdd â Hywel am y tro cyntaf ar ôl trefnu rali o gefnogaeth i ffoaduriaid yng Nghaernarfon.
“Roedd Hywel wedi cytuno i annerch y rali, a phan oeddwn yn diolch iddo am ei safiad, atebodd na fyddai fo’n cymryd unrhyw safbwynt arall.
“Arhosodd hynny hefo mi fel esiampl o wleidydd diymhongar, oedd yn gydwybodol heb ddim o’r sioe ac ego da ni di bod yn ei weld gan arweinyddion San Steffan!
“Dwi’n mawr obeithio y byddwn yn gallu dilyn esiampl Hywel, ac y byddai’r tân sydd ynof i gyflawni newid yn golygu mod innau’n gallu cyflawni i’n pobol fel mae o wedi gwneud.”
‘Byd hollol wahanol i Wynedd’
A hithau wedi bod yn gynghorydd cymuned ym Methesda, dydy Catrin Wager ddim yn credu bod rhai o brif wleidyddion San Steffan yn deall nac efo diddordeb ym mhroblemau cefn gwlad Cymru.
Er ei bod yn credu y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, mae hi’n credu ei bod yn bwysig cael cynrychiolaeth yn San Steffan i’w hatgoffa o hyn ac i bwyso am benderfyniadau gwell.
“Mae’n hawdd iawn teimlo fod San Steffan yn fyd hollol wahanol i Wynedd,” meddai wedyn.
“Ac mae yna gwestiwn sylfaenol – sut gall un o ddynion cyfoethocaf Prydain ddallt sut deimlad ydy magu teulu ar incwm isel yng nghefn gwlad Cymru?
“Tydy o ddim, a does gan wleidyddion fel [Rishi] Sunak, [Dominic] Raab, [Jeremy] Hunt a [Suella] Braverman ddim diddordeb ynddon ni chwaith.
“Ond dyna pam mae o mor bwysig cael cynrychiolaeth gref o Gymru sydd yn mynd i frwydro dros ein trigolion a’n gwerthoedd.
“Wrth gwrs, rwy’n credu y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, a rôl unrhyw Aelod Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan ydy atgoffa’r llywodraeth o hynny.
“Ond ar y funud, tydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud y penderfyniadau ar nifer o faterion sy’n effeithio ar ein trigolion megis y gyfundrefn budd-daliadau, y drefn gyfiawnder, materion rhyngwladol a mudo, ac felly ma’n rhaid cael Aelodau Seneddol sy’n amddifyn ein trigolion yn y meysydd yma.
“Rhaid hefyd cofio, yn anffodus, mai ar San Steffan mae llygaid y wasg, ac felly mae’n hollbwysig ein bod yno, yn lleisio’r dyfodol rydan ni eisiau ei weld, sydd yn dra gwahanol i’r hyn mae San Steffan yn ei gynnig i ni ar y funud.”