Wel, mae’r Nadolig wedi hen fynd ac rydan ni bellach wythnos fewn i flwyddyn newydd sbon danlli.
Mae blwyddyn newydd i fod yn rheswm tros fod yn obeithiol, ond nid felly y mae hi yn y Brydain sydd ohoni.
Blwyddyn newydd, Prydain newydd? Dim gobaith, gyfaill!
Ymhlith y newyddion mwyaf digalon a brawychus yr wythnos hon oedd bod y Prif Weinidog Rishi Sunak yn cyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan i wahardd streicio.
Byddai’r ddeddfwriaeth yn rhoi’r hawl i gyflogwyr ddwyn achos yn erbyn undebau ac i ddiswyddo gweithwyr pe baen nhw’n gwrthod derbyn amodau.
Mae lle i gredu y byddai’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â chwe phrif faes, sef y Gwasanaeth Iechyd, ysgolion, rheilffyrdd, ffiniau, tân a niwclear.
Nid yn unig yw hyn yn ymosodiad ar yr hawl i streicio, yn ymosodiad ar weithwyr, ac yn ymosodiad ar un o’n hawliau sylfaenol. Mae’n dacteg hollol desperate gan y Llywodraeth.
Yn y cyfamser, mae sawl un wedi bod yn holi beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio mynd i’r afael â’r anghydfod gyda nyrsys yma yng Nghymru? Wedi’r cwbl mae Iechyd wedi ei ddatganoli.
Dw i’n credu mai ’dim llawer o ddim byd’ ydi’r ateb.
Y Deyrnas Unedig wedi torri
Roedd yna newyddion drwg i ffyddloniaid Brexit ddechrau’r wythnos wrth i’r Financial Times ddatgelu bod y Deyrnas Unedig yn wynebu un o’r dirwasgiadau gwaethaf ac adferiadau gwanaf yn y G7 yn y flwyddyn i ddod.
Brexit, ynghyd â methiannau polisi’r Llywodraeth oedd yn gyfrifol, yn ôl economegwyr, fu’n rhybuddio y bydd aelwydydd ar hyd a lled gwledydd Prydain ar eu colled.
Cafodd 101 o economegwyr blaenllaw’r Deyrnas Unedig eu holi ar gyfer arolwg blynyddol y Financial Times.
Roedd pedwar ymhob pump ohonynt yn disgwyl i economi’r Deyrnas Unedig ddisgyn y tu ôl i economïau gweddill gwledydd y G7, gyda Chynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) eisoes yn crebachu a’r gred ydi mai dyna fydd o’n ei wneud drwy gydol 2023.
Mae disgwyl i hyn oll wasgu’n ddwys ar incwm aelwydydd, wrth i gostau benthyca uwch ychwanegu at y boen sydd eisoes wedi’i achosi gan gynyddu prisiau bwyd ac ynni.
Cafodd sefyllfa Prydain ei grynhoi gan Ricardo Reis, athro yn Ysgol Economeg Llundain.
“Mae’r Deyrnas Unedig yn dioddef o broblemau ynni cynddrwg ag Ewrop, problem chwyddiant cynddrwg â’r Unol Daleithiau a phroblem unigryw o ddiffyg cyflenwad llafur o ganlyniad i gyfuniad o sgil effeithiau Brexit ac argyfwng y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai.
Mae’n anodd peidio dod i’r casgliad fod y Deyrnas Unedig wedi torri.
Rydym wedi colli mynediad llawn i’n partner masnachu mwyaf oherwydd Brexit.
Mae’r economi yn amlwg yn dioddef, tra bod yna fwy o fanciau bwyd ar yr ynys hon nag sydd yna ganghennau o McDonalds!
A bob tro mae rhywun yn gwylio’r newyddion, mae’r sôn i gyd am streiciau di-ri a sefyllfa enbyd y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’n anodd gweld sut mae adfer y llanast yma!