Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi annog y cyhoedd i dderbyn brechlyn atgyfnerthu Covid-19 a dal ati i olchi eu dwylo er mwyn “parhau i ddiogelu Cymru a lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd”.

Daw hyn ar ôl i ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddangos bod cyfraddau Covid-19 yng Nghymru wedi codi o 2% i 5%.

Mae Dr Frank Atherton hefyd wedi rhybuddio pobol sydd â symptomau ffliw neu annwyd i beidio ymweld â lleoliadau iechyd a gofal, a gwisgo gorchudd wyneb.

“Dydyn ni ddim yn gwbl imiwn”

“Mae’n bwysig cofio nad yw Covid-19 wedi diflannu a bod lefelau uchel o ffliw a firysau anadlol tymhorol eraill ar led yn ein cymunedau o hyd, sy’n rhoi baich sylweddol ar ein system iechyd a gofal,” meddai Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru.

“Dydyn ni ddim yn gwbl imiwn i’r naill feirws na’r llall ac mae’n rhaid inni gynnal ein camau amddiffyn er mwyn parhau i ddiogelu Cymru a lleihau’r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd â symptomau annwyd, ffliw neu Covid i geisio aros gartref a pheidio ymweld â lleoliadau iechyd a gofal, ac i ddal i olchi eu dwylo’n aml.

“Os oes gennych symptomau ac os oes rhaid ichi fynd allan, gwisgwch orchudd wyneb.

“Os ydych chi’n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu Covid-19 neu frechlyn ffliw ac nad ydych chi wedi cael eich pigiad eto, manteisiwch ar y cynnig er mwyn diogelu eich hun, eich anwyliaid a’n cymunedau.

“Yn yr un modd, os oes gennych chi blant sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw drwy chwistrelliad trwyn, mae’n bwysig iawn eu bod yn eu cael er mwyn diogelu eu hunain a chyfyngu ar ledaeniad y feirws.

“Edrychwch ar wefan eich bwrdd iechyd i gael rhagor o wybodaeth.

“Mae ymateb y cyhoedd wrth ddelio â Covid-19 wedi bod yn rhagorol yng Nghymru ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb am weithio gyda ni i ddiogelu Cymru a diogelu ein gwasanaeth iechyd.”