Mae Croeso Cymru wedi cyhoeddi mai Blwyddyn Llwybrau fydd 2023, ac maen nhw’n gwahodd ymwelwyr i ddilyn a chreu eu llwybrau eu hunain dros y flwyddyn.

Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae corff twristiaeth Llywodraeth Cymru wedi gosod gwahanol themâu – Antur, Chwedlau, y Môr, Darganfod, a’r Awyr Agored – ar gyfer hyrwyddo’r wlad.

Y nod ydy defnyddio’r thema i ehangu twristiaeth, cynyddu gwariant a denu ymwelwyr ym mhob tymor drwy gyflwyno Cymru fel cyrchfan gynhwysol sydd ar agor drwy’r flwyddyn, meddai Croeso Cymru.

Yn ogystal ag annog pobol i gerdded llwybrau enwog fel Llwybr Arfordir Cymru, mae’r thema’n perswadio ymwelwyr i greu eu teithiau eu hunain.

Wedi’r pandemig, mae ymchwil yn dangos bod pobol yn chwilio am brofiadau sy’n eu hailgysylltu ag elfennau fel treftadaeth, diwylliant, natur a’r gymuned.

Amrywiaeth y llwybrau

Mae rhai o’r teithiau sy’n cael eu hyrwyddo gan Croeso Cymru’n cynnwys llwybrau cerdded, beicio, rhedeg a marchogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a Llwybrau Seryddol Mynyddoedd Cambria.

Ynghyd â llwybrau cerdded traddodiadol, mae’r gwaith yn cynnwys awgrymu llwybrau mwy masnachol.

Siân Roberts yw perchennog Loving Welsh Food, busnes sy’n hyrwyddo bwyd a diod Cymru drwy deithiau bwyd, gweithdai coginio a chyflwyniadau bwyd o amgylch Caerdydd a thu hwnt.

“Mae amrediad ein teithiau wedi cynyddu gydag amser, ac rydyn ni’n falch o’r ffordd rydyn ni bob amser wedi gweithio gyda busnesau lleol, annibynnol yn unig,” meddai.

“Rydyn ni bellach yn cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded, yn ogystal â theithiau car, bws mini a choets.”

‘Dathlu llwybrau Cymru’

Wrth lansio Blwyddyn Llwybrau 2023, dywed Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, mai’r nod eleni ydy “darganfod trysorau coll, ymgymryd â theithiau’r synhwyrau a chreu atgofion ar hyd llwybrau sy’n gysylltiedig ag atyniadau, digwyddiadau, tirweddau a’r arfordir”.

“Rydyn ni’n dechrau 2023 gydag ymgyrch newydd i wneud yn siŵr bod Cymru yn weladwy, ac i gefnogi’r sector mewn adeg sy’n parhau i fod yn heriol ar gyfer y diwydiant,” meddai.

“Mae 2023 yn gyfle inni ddathlu llwybrau Cymru, o’r hen rai i’r rhai newydd sbon, ac i agor ein gwlad i bawb ei mwynhau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at annog pobol i ymweld â rhannau gwahanol o’r wlad drwy gydol y flwyddyn nesaf.”