Mae sefydliadau dros annibyniaeth i Gatalwnia – gan gynnwys yr ANC, Òmnium Cultural a Consell per la República – yn galw am brotest dorfol wrth i arlywyddion Ffrainc a Sbaen gyfarfod yn Barcelona.
Mae grwpiau megis AMI, CIEMEN, Intersindical-CSC ac Intersindical Alternativa de Catalunya eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw’n mynd i’r brotest, ac mae Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol plaid Junts per Catalunya yn annog pobol, gan gynnwys yr arlywydd Pere Aragonès i gymryd rhan.
Mae disgwyl i’r brotest ddigwydd ochr yn ochr â chyfarfod rhwng Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, a Pedro Sánchez, prif weinidog Sbaen.
Mae’r mudiadau wedi beirniadu Pedro Sánchez am ddewis prifddinas Catalwnia fel ffordd o geisio profi bod yr ymgyrch tros annibyniaeth wedi colli tir a’i bod hi ar ben arnyn nhw, ac maen nhw’n ei gyhuddo o “brocio” ar adeg pan nad oes datrysiad i’r ffaith fod gwleidyddion yn dal yn alltud yn dilyn refferendwm aflwyddiannus 2017.
Maen nhw’n dweud hefyd fod oddeutu 500 o bobol yn aros i gael cynnal eu hachosion llys am eu gweithredoedd yn ymwneud ag annibyniaeth ac yn ôl yr ymgyrchwyr, “mae’r dyhead am annibyniaeth yn gryfach nag erioed”.
Ymhlith eu galwadau fydd cryfhau system drochi’r iaith Gatalaneg mewn ysgolion, a rhai mesurau’n ymwneud â gogledd Catalwnia.
Dydy hi ddim yn glir eto ym mle yn union fydd y brotest, gan nad yw lleoliad y cyfarfod rhwng Sbaen a Ffrainc wedi’i gadarnhau chwaith, ond mae disgwyl i gynhadledd y wasg gael ei chynnal dros y dyddiau nesaf er mwyn cyhoeddi’r manylion yn llawn.
Mae Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia, wedi cyhoeddi neges ar Twitter yn galw ar bobol i ddod ynghyd ar Ionawr 19.
Fe fu’n byw’n alltud yng Ngwlad Belg er mwyn osgoi cael ei erlyn am ei ran yn y refferendwm annibyniaeth sy’n cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.