Bydd Cymdeithas yr Iaith yn symud pwyslais yr ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ o wrthwynebu gormodedd o ail gartrefi ac AirBnBs at un sy’n ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo gyflawn.

Deddf Eiddo fydd un o saith galwad y Gymdeithas ar Lywodraeth Cymru, wrth iddyn nhw ymateb i ffigurau diweddar y Cyfrifiad, oedd yn dangos dirywiad pellach yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, a’r cwymp mwyaf yn Sir Gaerfyrddin.

Un fydd yn galw am Ddeddf Eiddo yn y rali yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn (Ionawr 14) yw Cai Phillips, myfyriwr ifanc o Flaen-y-coed yn Sir Gâr.

“Bydd y Gymdeithas yn parhau i bwyso ar Awdurdodau Lleol i ddefnyddio’r grymoedd newydd i reoli gormodedd ail gartrefi a llety gwyliau yn llawn, ond mae’r broblem dai yn ehangach yn Sir Gâr,” meddai.

“Bydda i’n chwilio am rywle i fyw yn y sir yn y dyfodol agos ond does dim posib i’r mwyafrif o bobol ifanc y sir gystadlu gyda phobol gyfoethocach sy’n symud i’r sir i fyw yn barhaol tra bod marchnad agored am dai.

“Byddwn felly’n troi’r pwyslais at fynnu Deddf Eiddo gyflawn a fydd yn rheoli’r farchnad, yn blaenoriaethu pobol leol, ac yn caniatáu gosod amodau lleol ar berchnogaeth tai a thir.

“Fel arall caiff pobol ifanc eu gorfodi allan o’u cymunedau ac ni bydd dyfodol i gymunedau Cymraeg.”

Ar ôl y rali wrth Neuadd y Sir am 2 o’r gloch, mae disgwyl i rai cannoedd o gefnogwyr orymdeithio trwy’r dref i swyddfa Llywodraeth Cymru yn Rhes Picton.

Bydd Mari Lwyd, fel sydd yn draddodiadol yn ystod Calan Hen, yn arwain yr orymdaith drwy’r dref, ac yn amrywio ar ddefod draddodiadol wrth geisio mynediad at Swyddfa’r Llywodraeth i gyflwyno saith galwad Cymdeithas yr Iaith.