Bydd prinder staff yn y Gwasanaeth Iechyd yn parhau i gyfyngu ar gynlluniau i adfer y gwasanaeth wedi Covid, yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon.

Mae’n rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ailystyried sut i lenwi bylchau mewn staff, meddai’r Coleg.

Yn ôl y Coleg, fyddai’r un swm o fuddsoddiad na’r un chynllun i adfer gofal wedi’i gynllunio’n gwneud iawn am y prinder meddygon, nyrsys ac arbenigwyr iechyd sydd ar gael i ofalu am gleifion.

Meddygon SAS

Un datrysiad fyddai dylunio swyddi abrenigedd newydd (SAS) o gwmpas unigolion, gan roi’r cyfle iddyn nhw greu eu cynllun swydd eu hunain a dilyn eu dioddordebau clinigol a dysgu, meddai.

Mae tua 800 meddyg SAS yng Nghymru, ac maen nhw’n feddygon sydd wedi cwblhau o leiaf bedair blynedd o hyfforddiant meddygol olradd, ond sydd heb ddilyn rhaglen hyfforddi benodol.

Er bod Coleg Brenhinol y Meddygon yn croesawu cynlluniau i gynyddu niferoedd myfyrwyr meddygol Cymru, mae hi’n cymryd bron i ddegawd i hyfforddi uwch-feddygon.

Yn y cyfamser, mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n gwario hyd at £200m y flwyddyn ar staff locwm.

Mewn adroddiad newydd, mae’r Coleg yn galw ar fyrddau iechyd i sicrhau bod meddygon SAS yn cael amser i ddatblygu eu gyrfa, amser i ddysgu ac ymchwilio, a bod eu llwyth gwaith a’u profiad clinigol yn cael cydnabyddiaeth ffurfiol.

Dylai cyrff y Gwasanaeth Iechyd archwilio eu siarteri SAS, a chefnogi tiwtoriaid SAS a hyrwyddwyr i sefydlu fforymau meddygon SAS hefyd, meddai.

Dylen nhw hefyd weithio’n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddod â meddygon SAS o gyda gwahanol arbenigrwydd, cyfarwyddiaethau, a thimau ynghyd mewn rhwydweithiau lleol.

Yn aml, mae swyddi SAS yn cynnig cydbwysedd bywyd-gwaith gwell na’r ffyrdd traddodiadol o hyfforddi i fod yn feddyg.

‘Penderfyniadau anodd’

“Gydag argyfwng recriwtio sylweddol a chynyddol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, mae’n rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau feddwl yn wahanol ynghylch sut i lenwi bylchau mewn rotas ysbytai,” meddai Dr Olwen Williams, Dirprwy Lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru.

“Un datrysiad yw dylunio swyddi arbenigedd newydd (SAS), gan roi cyfle i feddygon greu eu cynllun swydd eu hunain a dilyn eu dioddordebau clinigol a dysgu.

“Rydyn ni’n gwario cannoedd ar filoedd o bunnoedd ar feddygon locwm yng Nghymru, ond ni chafodd 59% o’r swyddi a gafodd eu hysbysebu ar gyfer ymgynghorwyr meddygol yng Nghymru eu llenwi eleni.

“Golyga hynny bod tri ym mhob pum swydd dal yn wag – ac yn 63% o’r achosion hynny, doedd dim ymgeiswyr o gwbl.

“Mae yna benderfyniadau anodd o’n blaenau i drio cwtogi rhestrau aros a rhoi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ôl ar sail gynaliadwy.

“Ond mae hi’n amlwg y bydd y diffyg gweithlu dros yr holl faes yn parhau i gyfyngu’r cynllun adfer wedi’r pandemig.

“Ni fydd buddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gwella gofal cleifion os nad oes gennym ni’r staff i ofalu am gleifion.”

‘Cydnabod a chefnogi meddygon’

“Mae meddygon SAS yn grŵp proffesiynol amrywiol iawn, rhai gyda pedair blynedd o brofiad tra bod gan eraill 40 mlynedd a mwy,” meddai Dr Jamie Read, arweinydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros y Deyrnas Unedig.

“Mae pobol yn dod yn feddygon SAS am ystod eang o resymau a bydd nifer ohonyn nhw wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol a bwriadol i gymryd rôl SAS.

“Mae hi’n bwysig iawn ein bod ni’n cydnabod a chefnogi meddygon SAS fel unigolion.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae COVID-19 yn dal i effeithio ar amseroedd aros a lefelau staffio. Mae mesurau Atal a Rheoli Heintiau llymach yn dal i effeithio ar lefel y gweithgarwch y gall byrddau iechyd ymgymryd ag ef,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Er gwaethaf hyn, roedd gostyngiad o 10% yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 8 wythnos am brofion diagnostig o’i gymharu â mis Ionawr 2022 a gostyngiad o 30% o’i gymharu â’r adeg pan gyrhaeddodd y nifer hwn y pwynt uchaf ym mis Mai 2020. Mae’r sefyllfa wedi gwella ym mhob bwrdd iechyd.

“Er bod rhai pobol yn dal i aros yn hirach am driniaeth nag yr hoffem, gyda’r nifer sy’n aros dros 36 wythnos wedi cynyddu eto ym mis Chwefror, hwn oedd y cynnydd lleiaf ond un o fis i fis ers dechrau’r pandemig.

“Yn ogystal â hyn, gwelwyd gostyngiad yn y niferoedd sy’n aros dros 36 wythnos mewn pum bwrdd iechyd, sy’n well na’r sefyllfa ym mis Ionawr, pan welwyd gwelliant mewn dau fwrdd iechyd yn unig.

“Ym mis Chwefror 2022, roedd gostyngiad o 1% yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 52 wythnos o’i gymharu â mis Ionawr 2022.

“Ym mis Chwefror, o’i gymharu â mis Ionawr 2022, roedd gostyngiad o 583 (0.3%) yn nifer y llwybrau agored sy’n aros dros 26 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf. Roedd y sefyllfa wedi gwella ym mhedwar o’r saith bwrdd iechyd ym mis Chwefror.

“Mae’n anodd i wasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng ddarparu gofal yn amserol ac yn gyson – mae sawl ffactor yn gyfrifol am hyn. Ymhlith y ffactorau hynny y mae cyfraddau absenoldebau salwch uwch ac anawsterau wrth ryddhau pobol o’r ysbyty, gan olygu bod mwy o oedi wrth aros am welyau mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

“Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn y galw ac adroddodd y gwasanaethau ambiwlans brys am gynnydd o 10% yn nifer y galwadau ‘coch’, neu alwadau lle mae bywyd yn y fantol, bob dydd ym mis Mawrth o’i gymharu â mis Chwefror. Adroddwyd hefyd am 46% yn rhagor o alwadau coch ym mis Mawrth 2022 o’i gymharu â’r un mis yn 2021.

“Mae cynnydd sydyn wedi bod yn nifer y bobl sy’n mynd i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Ym mis Mawrth 2022, o’i gymharu â’r un mis yn 2021, adroddwyd am gynnydd o 23% yn nifer y bobl a oedd yn ymweld â’r adrannau hyn bob dydd. Adroddwyd hefyd am gynnydd o bron i 10% mewn derbyniadau brys i’r ysbyty ym mis Mawrth o’i gymharu â mis Chwefror.

“Diben y Chwe Nod Cenedlaethol ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng yw cefnogi byrddau iechyd a’u partneriaid i wella profiad, canlyniadau a gwerth, ac rydym wedi neilltuo £25m i gefnogi’r gwaith hwn.”

“Ym mis Chwefror, gwelwyd cynnydd o 2.5% yn nifer y bobol sy’n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn dilyn diagnosis newydd o ganser o fis Ionawr 2022 a chynnydd o 6.5% yn nifer y cleifion sy’n dechrau eu triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod.

“Yr wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi cynllun manwl i egluro sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r amseroedd aros ar gyfer y cleifion hynny y cafodd eu triniaeth ei hoedi dros dro yn sgil y pandemig.”