Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, yn dweud mai “ffolineb” yw ceisio prynu mwy o amser i Boris Johnson ar drothwy pleidlais fawr.

Bydd aelodau seneddol yn pleidleisio heddiw i benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad i ddarganfod a oedd prif weinidog y Deyrnas Unedig wedi camarwain y senedd yn fwriadol tros bartïon Downing Street yn ystod y cyfyngiadau clo Covid-19.

Derbyniodd Boris Johnson a’r Canghellor Rishi Sunak ddirwyon gan Heddlu Llundain yr wythnos ddiwethaf am gynnal parti fis Mehefin 2020, ac mae’n bosib fod rhagor o ddirwyon eto i ddod.

Serch hynny, roedd y prif weinidog wedi bod yn mynnu nad oedd unrhyw reolau wedi’u torri, gan ychwanegu wedyn nad oedd e’n sylweddoli bod y digwyddiad dan sylw yn barti.

Pleidlais

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth (Ebrill 19) y byddai pleidlais yn cael ei chynnal heddiw (dydd Iau, Ebrill 21).

Pe bai mwyafrif o aelodau seneddol yn dewis cynnal ymchwiliad, bydd yn rhaid i bwyllgor seneddol benderfynu a oedd Boris Johnson wedi mynd ati’n fwriadol i gamarwain y senedd.

Ond gan fod gan y Ceidwadwyr fwyafrif sylweddol, dydy ymchwiliad ddim yn debygol, ac mae Boris Johnson yn mynnu y bydd e’n dal wrth y llyw adeg yr etholiad cyffredinol nesaf.

Byddai’n well gan y Ceidwadwyr aros tan ddiwedd ymchwiliad Sue Gray a Heddlu Llundain i’r partïon, medden nhw.

“Byddai gwelliant y llywodraeth heddiw’n golygu na fyddai’r Tŷ yn gwneud unrhyw benderfyniad p’un a fyddan nhw’n cyfeirio’r prif weinidog at y Pwyllgor Breintiau,” meddai Chris Bryant ar Twitter.

“Mae hyn i’r gwrthwyneb o’r cynnig.

“Dw i’n gwybod fod rhai Torïaid yn ofni cael eiliad Owen Paterson arall o amgylch eu gyddfau, ond dyma hi.

“Fodd bynnag, yr unig reswm mae chwipiaid wedi’i ddwyn gerbron yw oherwydd maen nhw’n gwybod fod amser ar ben i Johnson oherwydd fod cynifer o aelodau seneddol Torïaidd wedi dweud wrthyn nhw na fydden nhw’n cefnogi’r prif weinidog.

“Maen nhw’n ceisio prynu amser ond ffolineb yw clymu’u hunain i fast Johnson pan nad ydyn nhw’n gwybod pa ddyfroedd sydd o’u blaenau.”