Mae Jane Dodds yn dweud bod amserau aros diweddara’r Gwasanaeth Iechyd “yn gatastroffig i bobol ar hyd a lled Cymru”.

Daw hyn wrth i ffigurau ddangos bod 10,886 o gleifion wedi aros dros 12 awr mewn uned frys ym mis Mawrth, sy’n sylweddol uwch na’r targed o bedair awr.

A dim ond 51.1% o alwadau coch ambiwlansys, lle mae bywyd mewn perygl, gafodd eu hateb o fewn yr amser targed, ac roedd y ffigurau’n arbennig o wael yn y gogledd, y canolbarth a’r gorllewin.

Wrth ymateb i’r ffigurau, mae Jane Dodds wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o “fethu â mynd i’r afael â’r argyfwng hwn”, gan alw arnyn nhw i “weithredu rŵan”.

Ymchwiliad

“Rhaid i’r Llywodraeth gynnal ymchwiliad i’r argyfwng yn ein gwasanaethau ambiwlans, llenwi’r 3,000 o swyddi gwag yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, a mynd i’r afael â’r amserau aros canser truenus,” meddai Jane Dodds.

“Os ydyn ni am ddatrys yr argyfwng mewn unedau damweiniau ac achosion brys yn enwedig, mae angen i’r cynlluniau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol gael eu symud ymlaen.

“Mae un llywodraeth ar ôl y llall ar lefel Gymreig a’r Deyrnas Unedig wedi methu â mynd i’r afael â hyn, ond mae’n rywbeth y mae’n hanfodol i’w gael yn iawn os ydyn ni am leihau’r pwysau ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys.

“Mae angen hefyd i ni weld mwy o arian yn cael ei roi i wasanaethau gofal iechyd lleol gan gynnwys meddygon teulu; mewn rhai ardaloedd yn fy rhanbarth i fy hun, mae’r amser aros i weld meddyg teulu yn mynd y tu hwnt i fis yn rheolaidd, os nad yn fwy.”

‘Mynydd enfawr i’w ddringo’

Yn y cyfamser, mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, yn dweud bod y ffigurau’n “peri pryder mawr, gyda phwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol”.

“Mae staff rheng flaen yn parhau i weithio mor galed ag y gallant, ond mae angen i arweinyddiaeth ddod o’r lefel uchaf a dyna pam mae angen i ni weld cynllun Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros ym mhob sector gan gynnwys gofal, triniaeth a diagnosteg fel mater o frys,” meddai.

“Mae unrhyw welliant bach mewn amseroedd aros i’w groesawu, ond roedd bron i 44,000 o gleifion yn dal i aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer diagnosteg, sydd ddeuddeg gwaith yn fwy na chyn y pandemig.

“Mae adfer o Covid a lleihau’r rhestrau aros hyn yn fynydd enfawr i’w ddringo.

“Rhaid i gynllun adfer ganolbwyntio’n glir ar atal, nid dim ond drwy symud cleifion yn gyflym trwy’r system. Mae cyhoeddi’r cynllun wedi’i wthio’n ôl sawl gwaith, ond ni ellir ei ohirio bellach.

“Mae angen cynllun gweithredu Canser arnom hefyd i ymdrin yn benodol â diagnosis a thriniaeth. Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers y Datganiad Ansawdd ond does dim cynllun gweithredu o hyd.”

‘Bydd prinder staff yn parhau i gyfyngu ar gynlluniau i adfer y Gwasanaeth Iechyd’

“Ni fydd buddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gwella gofal cleifion os nad oes gennym ni’r staff i ofalu am gleifion”