Mae Plaid Cymru’n dymuno gweld argyfwng iechyd yn cael ei gyhoeddi yng Nghymru.

Daw hyn wrth i Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y blaid, rybuddio Llywodraeth Cymru i “beidio ag anwybyddu’r argyfwng iechyd ragor”.

Mae un ym mhob pump o bobol ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, mae’r rhestrau aros ar gyfer triniaeth yn hirach nag erioed, ac mae gweithwyr iechyd wedi dechrau streicio tros gyflogau ac amodau gwaith.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, nid adferiad ar ôl y pandemig Covid-19 sy’n achosi’r sefyllfa “ers peth amser”.

“Mae hyn yn fater o gydnabod fod ein Gwasanaeth Iechyd mewn argyfwng,” meddai.

“Mae Cymru angen i’w llywodraeth gamu i fyny i’r her, a chyflwyno’r datrysiadau sydd eu hangen ar gyfer y problemau hirdymor hyn.

“Rydyn ni wedi cael Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Natur yn cael eu cyhoeddi.

“O ystyried cyflwr presennol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, mae angen i Lywodraeth Cymru gyfaddef fod ein Gwasanaeth Iechyd dan bwysau difrifol i’r fath raddau fel ei fod mewn argyfwng ar hyn o bryd.

“Byddai gwneud hynny’n arwain at dri cham positif allweddol – helpu i ffocysu meddyliau ar ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o fynd i’r afael â’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu; ffocysu’r holl bwerau gwario, waeth pa mor brin ydyn nhw, ar y materion sy’n bwysig, a does dim yn bwysicach ar hyn o bryd na datrys yr anghydfod cyflogau; ac edrych eto ar strwythurau a phrosesau’r Llywodraeth i sicrhau eu bod nhw’n gallu ymdopi orau â’r argyfwng hwn, yn debyg i’r ffordd y cafodd newidiadau eu gwneud yn dilyn cyhoeddi’r Argyfwng Hinsawdd.”