Bydd bron i 400 yn fwy o leoedd hyfforddi nyrsys yn cael eu creu yng Nghymru yn sgil cynnydd o 8% yng nghyllideb hyfforddiant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Fel rhan o gynllun newydd ar gyfer hyfforddi gweithwyr iechyd, bydd 527 o leoedd hyfforddi ychwanegol yn cael eu creu ar gyfer amrywiaeth o weithwyr, o wyddonwyr a fferyllwyr i barafeddygon.
Mae’r Cynllun Addysg a Hyfforddiant yn cynnwys cynnydd o 29% yn y lleoedd hyfforddi nyrsys iechyd meddwl yng Nghymru, cynnydd o 14.6% ar gyfer nyrsys oedolion a 9.7% ar gyfer nyrsys plant.
Bydd cynnydd o 66.7% yn y lleoedd ar gyfer hyfforddi technegwyr fferyllol, o 30 i 50.
Fe fydd ychydig yn rhagor o lefydd i hyfforddi bydwragedd, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, a pharafeddygon hefyd.
‘Ymateb i heriau’r dyfodol’
Dywed Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ei bod hi wrth ei bodd yn gallu cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi eto “er gwaetha’r pwysau ar ein cyllidebau oherwydd chwyddiant”.
Bydd £281m yn mynd tuag at y cynllun.
“Rhaid sicrhau bod aelodau gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi eu hyfforddi’n briodol ac yn meddu ar y sgiliau iawn er mwyn inni allu darparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel i bobol ledled Cymru a gwella’r safonau yn ein gwasanaeth iechyd,” meddai.
“Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol hyn yn helpu i greu gweithlu a fydd yn gallu ymateb i heriau’r dyfodol.
“Ar hyn o bryd, mae mwy o bobl yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, gyda ffocws ar atal afiechyd a darparu gofal ym mhob cymuned.”
‘Helpu yn yr hirdymor’
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod nhw wastad yn croesawu unrhyw newydd am leoedd hyfforddi ychwanegol ar gyfer parafeddygon a nyrsys.
“Fodd bynnag, mae’r grwpiau hyn yn streicio nawr, faint o hyder sydd gennym ni y bydd hyn yn denu ymgeiswyr newydd?” gofynna Russell George.
“Hyd yn oed oes yna ddigon o bobol yn cael eu perswadio i weithio i Wasanaeth Iechyd Gwladol sy’n cael ei redeg gan Lafur – sydd newydd gofnodi ei amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf ar record, sydd â’r amseroedd aros gwaethaf ar gyfer adrannau brys ym Mhrydain, a’r rhestrau aros hiraf – dydy hyn ond yn helpu yn yr hirdymor a dyw’n gwneud dim i fynd i’r afael â’r heriau presennol sy’n gwneud i gleifion a staff anobeithio.”