Roedd y rhan fwyaf o bobol â chanser yng Nghymru gafodd driniaeth yn ystod y pandemig yn fodlon gyda’r gofal gawson nhw, yn ôl arolwg newydd o filoedd o gleifion canser gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Ionawr 18).

Roedd 92% o’r bobol â chanser gafodd eu holi wedi rhoi sgôr o saith neu fwy allan o ddeg ar gyfer y gofal canser gawson nhw yn ystod blwyddyn gynta’r pandemig, gyda 45% yn sgorio eu gofal yn dda iawn neu’n ddeg allan o ddeg.

Fe wnaeth dros 6,000 o bobol gafodd driniaeth am ganser yng Nghymru yn 2020 gymryd rhan yn y trydydd Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru.

Fe wnaeth llawer o bobol â chanser hefyd ganmol iddyn nhw gael eu trin ag urddas a pharch yn yr ysbyty (90%), preifatrwydd yn ystod archwiliadau a thriniaeth (94%), a bod ganddyn nhw ymddiriedaeth a hyder yn y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol oedd yn eu trin (84%).

Ond roedd yr arolwg hefyd yn dangos meysydd i’w gwella.

Dywedodd 36% nad oedden nhw’n cael cynnig gwybodaeth am sut i gael cymorth neu fudd-daliadau ariannol, a dylai pob person sy’n cael ei drin am ganser yng Nghymru gael ei gynnig oherwydd yr effaith ariannol y gall diagnosis o ganser ei gael.

Er bod hyn yn welliant ar ganlyniadau’r arolwg blaenorol (48%), mae hwn yn faes lle mae angen mwy o welliant.

Ac fe ddywedodd 70% nad oedden nhw wedi cael cynnig cynllun gofal ysgrifenedig, ddylai gael ei gynnig yn rheolaidd i bob person â chanser yng Nghymru.

Dim ond 23% o gleifion wnaeth ateb ddywedodd eu bod nhw wedi cael gwybodaeth am sut i gadw’n heini yn gorfforol wrth aros am driniaeth neu tra eu bod nhw’n cael triniaeth, a dim ond 24% o gleifion gafodd wybodaeth am fwyta’n dda a maeth cyn i’w triniaeth ddechrau.

‘Testament i waith caled’

“Rwy’n croesawu’r canfyddiadau hyn, sy’n destament i waith caled ac ymroddiad ein staff Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ystod yr amser mwyaf heriol mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi’i wynebu erioed,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Mae diagnosis o ganser yn un o’r pethau anoddaf y bydd yn rhaid i unrhyw un ohonom ni ddelio ag ef erioed, felly mae’n gysur gweld bod y mwyafrif llethol o bobol wedi cael profiad cadarnhaol gyda’u tîm clinigol.

“Rwy’n arbennig o falch o weld cyfraddau mor uchel o fynediad at weithiwr allweddol dynodedig ac rwy’n disgwyl i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ddefnyddio’r canfyddiadau hyn i barhau i chwilio am gyfleoedd i wella profiad cleifion.”

Wedi’i ariannu gan Gymorth Canser Macmillan a Rhwydwaith Canser Cymru, a’i gynnal gan IQVIA, roedd yr arolwg yn gofyn i bobol am sawl agwedd ar eu gofal canser o sut y cawson nhw ddiagnosis i’r gofal gawson nhw pan ddaeth eu triniaeth i ben.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a lle mae angen gwelliannau ym maes gofal canser.

‘Dealltwriaeth gyfoethog’

“Roedd Macmillan yn falch o ariannu trydedd Arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru gyda Rhwydwaith Canser Cymru i gael dealltwriaeth gyfoethog o’r hyn mae pobol â chanser yng Nghymru yn ei feddwl am y gofal maen nhw wedi’i dderbyn,” meddai Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau ar gyfer Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru.

“Mae’n galonogol clywed bod cymaint o’r 6,259 o bobol a ymatebodd wedi bod yn hapus iawn gyda’r rhan fwyaf o elfennau o’u gofal, sy’n destament i waith caled ein staff gofal canser gwych ledled Cymru.

“Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod ni hefyd yn canolbwyntio ar feysydd i’w gwella, fel cynyddu nifer y bobol sy’n cael y wybodaeth gywir, y cyngor ariannol a chynnig cynllun gofal ysgrifenedig, felly bydd Macmillan yn defnyddio’r canlyniadau hyn i ymgyrchu dros well gofal personol fyth i bobol â chanser ar draws y wlad.”

‘Rhoi profiad cleifion ar flaen y gad’

“Mae rhoi profiad cleifion ar flaen y gad ym mhopeth a wnawn yn hanfodol er mwyn ein helpu i gynllunio a gwella’r ddarpariaeth a chysondeb yn ein gwasanaethau canser yng Nghymru,” meddai Claire Birchall, Rheolwr Rhwydwaith Canser Cymru.

“Rydym ni’n falch ein bod ni wedi cydweithio â Macmillan ar yr arolwg hollbwysig hwn.

“Roeddem ni wrth ein boddau o weld bod 90% o gleifion yn nodi eu bod wedi cael gweithiwr allweddol canser a dywedodd 89% bod ganddyn nhw fynediad at arbenigwr nyrsio clinigol.

“Mae’r rhain wedi bod yn agweddau mor bwysig ar ofal canser yn ystod cyfnod mor anodd.

“Bydd Rhwydwaith Canser Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu camau gwella ymatebol ac ystyrlon er mwyn mynd i’r afael â chanfyddiadau’r arolwg, gan ganolbwyntio’n benodol ar y meysydd hynny lle gwelsom amrywiadau o ran profiad cleifion fel y gallwn adeiladu ar y llu o enghreifftiau o ymarfer a gofal rhagorol.”