Mae clipiau fideo’n cael eu lansio gan Dîm Talaith y De-ddwyrain Mudiad Meithrin ddydd Iau (Ionawr 19), ac maen nhw wedi’u hanelu’n benodol at rieni di-Gymraeg er mwyn eu hanog nhw i ddewis gofal ac addysg Gymraeg i’w plant trwy’r Cylchoedd Ti a Fi a’r Cylchoedd Meithrin.

Mae’r clipiau fideo yn rhannu profiadau rhieni ac yn clywed gan rai sydd wedi bod ar y daith iaith gan ddechrau mewn Cylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin.

Cafodd y tîm y syniad i gynhyrchu sawl clip fideo sydd wedi eu ffilmio yng Nghylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin siroedd y de-ddwyrain, i dynnu sylw at y ffaith fod gofal ac addysg Gymraeg ar gael i bawb.

Mae nifer o rieni’n rhannu eu profiadau am eu penderfyniad i ddewis addysg Gymraeg i’w plant, a’r manteision mae eu plant wedi’u cael wrth dyfu’n ddwyieithog, gan gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwr erbyn 2050.

‘Mwy o gyfleoedd’

Laura Brown
Laura Brown

“Dydw i ddim yn siarad Cymraeg, ond rwy am i fy mhlant dderbyn bob cyfle, ac i fod yn un o’r Filiwn Siaradwyr Cymraeg,” meddai Laura Brown, sy’n rhiant i blentyn mewn Cylch Meithrin yn y de-ddwyrain.

“Dydw i ddim yn gwybod be’ hoffen nhw fod, yn nhermau swyddi na’r dyfodol… Ond rwy am iddyn nhw gael y fantais honno a dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i roi’r cyfle i blant fod y gorau gallan nhw fod.”

Mae Neneh-Jallow yn un o’r rhieni sydd â phlentyn yn mynd i Gylch Ti a Fi Bettws yng Nghasnewydd.

“Hoffwn iddi siarad Cymraeg,” meddai am ei merch.

“Credaf fod siarad mwy o ieithoedd yn rhoi mwy o gyfleoedd i ti.”

Neneh-Jallow
Neneh-Jallow

‘Rydych chi’n rhan o’r gymuned yn syth’

Dydy Alys a Tim Carter, sydd â’u plentyn yn mynychu Cylch Meithrin, ddim yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gadael allan am nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg.

“Maen nhw’n cael gymaint o hwyl… pethau bach fel yr wythnos hon roedd hi’n eistedd wrth fwrdd y gegin yn cyfri i ddeg yn Gymraeg a doedd gennym ni ddim syniad ei bod hi’n medru gwneud hynny!” medden nhw.

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn magu ein plant yn ddwyieithog i fynegi eu hunain yn Gymraeg ac yn Saesneg.

“Dydyn ni ddim teimlo ein bod yn cael ein gadael allan gan nad ydyn ni’n siarad Cymraeg – ry’ch chi’n rhan o’r gymuned yn syth ac mae pobl yn siarad Saesneg gyda chi os oes angen.

“Maen nhw’n dysgu ‘chydig o Gymraeg i chi, a ry’ch chi’n mynd adref gyda phytiau bach o Gymraeg i ymarfer gartref fel y gallwch chi ymuno.”

Defnyddio’r Gymraeg

Clywn hefyd gan oedolion sydd nawr yn defnyddio’u Cymraeg yn y gweithle a’u profiad nhw o ddechrau eu haddysg Gymraeg mewn Cylch Meithrin, ac yna parhau ar y continiwm ieithyddol ar hyd y daith addysgol gan orffen eu haddysg fel siaradwyr Cymraeg hyderus.

“Roedd fy rheini am i mi gael y cyfleoedd na chawson nhw wrth dyfu,” meddai Morgan Hart, sydd bellach yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghylch Meithrin Canol Dref, Pen-y-bont ar Ogwr.

“Roedden nhw am i bob drws fod ar agor i mi, a dyna wnaethon nhw.

“Dechreuais mewn Cylch Meithrin yn ddwy oed, ac os gwnei di ddechrau mewn Cylch Meithrin mae’n gychwyn cadarn i bopeth arall.”

Morgan Hart
Morgan Hart

Un arall o gefndir di-Gymraeg gafodd addysg Gymraeg yw Evie Wilkins, sydd bellach yn gweithio yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.

“Doedd neb yn fy nheulu wedi bod i ysgol Gymraeg felly penderfynon nhw ein danfon i Gylch Meithrin oedd yn agos i ni… wnaethon ni fwynhau’n fawr… Mae plant yn caffael ieithoedd mor hawdd mae’n gwbl ddiymdrech,” meddai.

Bydd modd gwylio’r fideo isod ddydd Iau (Ionawr 19):