Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig “blinedig a chwerw” o ddefnyddio’r Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd fel “arf” i geisio “tanseilio datganoli”.

Daw hyn ar ôl i’r llywodraeth yn San Steffan geisio atal deddf Albanaidd fyddai’n ei gwneud hi’n haws i bobol drawsryweddol gael tystysgrif yn cydnabod eu rhywedd.

Dywedodd Adam Price, arweinydd y blaid yn y Senedd, fod gorchymyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “gosod cynsail peryglus iawn” ar gyfer datganoli yng Nghymru, ac mae’n annog Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, i gyflwyno’r chwip er mwyn gorfodi Aelodau Seneddol Llafur Cymru i wrthwynebu gweithred Llywodraeth Geidwadol San Steffan o gofio bod rhwyg o fewn y Blaid Lafur tros y mater.

Mae Mark Drakeford yn cytuno â Phlaid Cymru mewn egwyddor, gan ddisgrifio gweithred Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel “eiliad beryglus iawn”.

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, mae’r cam yn “broblem fawr i ddatganoli”.

Ond un sy’n anghytuno â safbwynt Llywodraeth Cymru yw Tonia Antoniazzi, Aelod Seneddol Llafur Gŵyr, sy’n croesawu’r hyn mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn ceisio’i wneud ac yn beirniadu Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, am “fethu â pharchu datganoli a’r Ddeddf Gydraddoldeb ledled y Deyrnas Unedig gyda’i gweithredoedd peryglus”.

‘Ymosodiad gofalus ar ddatganoli, democratiaeth a hawliau traws’

Wrth siarad yn San Steffan, dywedodd Liz Saville Roberts fod “hwn yn ymosodiad gofalus ar ddatganoli, democratiaeth a hawliau traws”.

“Mae’n gynyddol glir y bydd y Llywodraeth Dorïaidd flinedig a chwerw hon yn gwneud arf allan o unrhyw fater – waeth pa mor sensitif – er mwyn tanseilio datganoli,” meddai.

“Pe bai wir yn ymwneud â gwarchod y Ddeddf Gydraddoldeb, byddai gweinidogion yn cyfeirio’r mater hwn i’r llysoedd.

“Fydden nhw ddim yn dal eu cyngor cyfreithiol eu hunain yn ôl, yn hytrach na chymryd camau unochrog digynsail.

“Beth sydd ganddo i’w ddweud wrth y Gweinidog Llafur Cymru unoliaethol ddywedodd fod y Llywodraeth hon yn y Deyrnas Unedig yn tanseilio’r undeb?” meddai wedyn, wrth gyfeirio’i chwestiwn at Allister Jack, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban.

Atebodd hwnnw drwy ddweud y byddai’n cyhoeddi’r datganiad yn amlinellu ei resymau, ond fod y mater “yn ei hanfod yn ymwneud â gwarchod a diogelu menywod a phlant lle’r ydym yn credu bod effeithiau andwyol”.