Mae gwleidyddion Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd yn galw am ddiogelu Plasdy Nannau, un o “adeiladau hanesyddol amlycaf Cymru”.

Daw’r alwad gan Aelod o’r Senedd ac Aelod Seneddol yr etholaeth yn sgil pryderon cynyddol bod yr eiddo’n adfeilio.

Mae’r safle yn Llanfachreth ger Dolgellau yn enwog am ymgais i ladd Owain Glyndŵr, wnaeth ddial drwy losgi’r tŷ gwreiddiol.

Cafodd Nannau, plasdy Sioraidd, ei gwblhau yn 1796 ar ôl cael ei adeiladu o leiaf bum gwaith yn ystod cyfnod y teulu Nannau yno.

Mae lladrad plwm o’r to wedi gwaethygu dirywiad yr adeilad yn dilyn difrod sylweddol, tra bod nenfydau’n disgyn, lloriau wedi’u gorchuddio â dŵr, a phaneli pren wedi’u tynnu o’r ystafelloedd.

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor bellach yn galw ar sefydliadau sy’n bartneriaid i ddod at ei gilydd i archwilio pa opsiynau sydd ar gael i ddiogelu’r tŷ, er bod y ddau yn cydnabod y byddai “cost ddifrifol yn gysylltiedig â thasg mor anferthol”.

‘Arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol’

“Mae Nannau’n prysur ddadfeilio i gyflwr truenus,” meddai’r ddau mewn datganiad.

“Nid yw’r adeilad yn dal dŵr bellach, gan fod ei do wedi’i waredu o blwm.

“Mae hyn wedi cyflymu dirywiad y tu mewn, sydd bellach yn gragen o’i ogoniant blaenorol.

“Mae amser yn prysur brinhau i’r hen gadarnle hwn i Madog ap Cadwgan, a ymladdodd ochr yn ochr â Gruffydd ap Cynan, Brenin Gwynedd a ffigwr allweddol yng ngwrthsafiad y Cymry i oresgyniad y Normaniaid.

“Yn fwy diweddar, bu Nannau dan sawl perchnogaeth tymor byr gyda llawer o’r tir wedi’i werthu tra bod y tŷ yn parhau i ddadfeilio.

“Mae pryderon dilys y bydd y tŷ, a alwyd unwaith y ‘strwythur mwyaf godidog yng ngogledd Cymru’ yn cael ei golli am byth.

“Does dim amheuaeth y byddai’r gwaith o adfer y plasdy hanesyddol hwn yn dasg sylweddol a waethygir gan bryderon cynyddol am ddiogelwch yr adeilad a chyfyngiadau cyfreithiol.

“Mae’r plasdy yn mynnu ac yn haeddu sylw ond mae goblygiadau cost ddifrifol yn gysylltiedig â thasg mor anferthol.

“Fodd bynnag, mae arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol yr eiddo a’i gysylltiad ag Owain Glyndŵr yn cyfiawnhau o leiaf astudiaeth dichonoldeb o’r opsiynau posibl sydd ar gael i ddiogelu’r adeilad.’

“Byddem yn awyddus i glywed gan sefydliadau partner sy’n ymwneud ag adfywio ac adnewyddu adeiladau hanesyddol, gan gynnwys unrhyw ddiweddariad gan APCE a Cadw, ynghyd a’u barn ar ddyfodol hirdymor Nannau.”