Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi manylion y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni newydd i fusnesau, elusennau a’r sector cyhoeddus, fydd yn dod i rym o fis Ebrill.

Bydd y cymorth yn berthnasol i gwsmeriaid annomestig cymwys sydd â chontract gyda chyflenwyr ynni trwyddedig.

O Ebrill 1 eleni hyd at Fawrth 31 y flwyddyn nesaf, bydd pob cwsmer annomestig cymwys sydd â chontract gyda chyflenwyr ynni trwyddedig yn gweld gostyngiad i bris uned o hyd at £6.97/MWh yn cael ei gymhwyso’n awtomatig i’w bil nwy, a gostyngiad pris uned o hyd at £19.61/MWh yn cael ei gymhwyso i’w bil trydan.

Bydd hyn yn amodol ar drothwy pris cyfanwerthu, sydd yn cael ei bennu gan gyfeirio at y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi ar gyfer defnyddwyr domestig, sef £107/MWh ar gyfer nwy a £302/MWh ar gyfer trydan.

Mae hyn yn golygu na fydd busnesau sydd â chostau ynni is na’r lefel hon yn derbyn cefnogaeth.

Does dim angen i gwsmeriaid wneud cais am eu gostyngiad.

Fel yn achos y cynllun presennol, bydd cyflenwyr yn cymhwyso gostyngiadau yn awtomatig i filiau pob cwsmer annomestig cymwys.

Diwydiannau Ynni a Masnach Dwys cymwys

Ar gyfer y diwydiannau ynni a masnach dwys cymwys, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd y busnesau hyn yn derbyn gostyngiad sy’n adlewyrchu’r gwahaniaeth rhwng trothwy prisiau a’r pris cyfanwerthu perthnasol.

Trothwy’r pris ar gyfer y cynllun fydd £99/MWh ar gyfer nwy, a £185/MWh ar gyfer trydan.

Bydd y gostyngiad hwn yn berthnasol i 70% o gyfansymiau ynni yn unig, a bydd yn amodol ar ‘fwyafswm o ostyngiad’ o £40.0/MWh ar gyfer nwy a £89.1/MWh ar gyfer trydan.