Mae gweinidogion yn San Steffan yn wynebu gwrthdaro ag aelodau seneddol y gwrthbleidiau a’r Blaid Geidwadol tros eu cynlluniau i gael gwared ar ddeddfau’r Undeb Ewropeaidd gafodd eu trosglwyddo i gyfraith y Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit.

O dan gynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae disgwyl i filoedd o ddeddfau ddod i ben yn awtomatig ar ôl mis Rhagfyr oni bai eu bod yn cael eu cadw neu eu disodli.

Mae wedi ysgogi pryderon y gallai deddfwriaethau pwysig gael eu diddymu yn anfwriadol.

Mae Llafur eisiau gwthio’r dyddiad cau, sef diwedd y flwyddyn, yn ôl i 2026 gan ddadlau y bydd yn sicrhau bod hawliau cyflogaeth yn cael eu cadw.

Ac mae nifer o aelodau meinciau cefn y Torïaid, gan gynnwys y cyn-ysgrifennydd Brexit, David Davis, yn galw am roi mwy o lais i aelodau seneddol tros yr hyn sy’n cael ei ddileu.

Bydd y newidiadau sy’n cael eu hargymell yn cael eu trafod yn ddiweddarach, pan fydd Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (Dirymiad a Diwygiad), gafodd ei gyflwyno yn ystod cyfnod Liz Truss yn Brif Weinidog, yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin.

Hyd yn hyn, mae’r llywodraeth wedi nodi dros 2,400 o ddeddfau allai gael eu diddymu neu eu disodli.

O dan eu cynllun, byddai gan y Llywodraeth tan ddiwedd mis Medi i lunio rhestr o ddeddfau maen nhw am eu dileu, gydag aelodau seneddol wedyn yn gallu pleidleisio i ychwanegu neu ddileu deddfwriaeth o’r rhestr.

Yna, fe fyddai gan y Llywodraeth tan fis Rhagfyr i ddiddymu neu ddisodli’r cyfreithiau, gydag amcangyfrifon yn awgrymu y byddai’n rhaid pasio oddeutu 1,000 darn newydd o ddeddfwriaeth.

Dywed y Llywodraeth fod y broses hon yn gyfle i wneud rheoliadau’n fwy cyfeillgar i fusnesau, gan wrthod yr awgrym y bydd amddiffyniadau amgylcheddol neu gyflogaeth yn cael eu heffeithio.

Bydd y mesur yn mynd drwy ei gamau olaf yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher (Ionawr 18).

Yna, bydd yn mynd i Dŷ’r Arglwyddi, lle mae disgwyl gwrthwynebiad sylweddol.

Gwrthwynebiad gan y llywodraethau datganoledig

Mae deddfau’r Undeb Ewropeaidd sy’n ymdrin â gwasanaethau ariannol wedi’u heithrio o’r dyddiad cau, gan eu bod nhw wedi’u cynnwys mewn bil arall sydd ar ei ffordd drwy Dŷ’r Cyffredin.

Mae disgwyl yr un peth ar gyfer deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sy’n effeithio ar Dreth Ar Werth a thollau.

Yn y cyfamser, mae rhai o ddeddfau’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar feysydd sy’n cael eu llywodraethu gan weinidogion yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru, ill dwy, wedi mynegi pryderon am y mesur, ac wedi argymell bod eu seneddau yn atal eu cymeradwyaeth.

‘Tasg aruthrol’

Ymysg y Gweinidogion sy’n gwrthwynebu’r bil hwn yng Nghymru mae Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Cyfansoddiad.

“Y peth cyntaf i’w nodi yw bod hwn yn fil sydd ar hyn o bryd ag amcanion sydd i raddau helaeth yn hollol amhosibl i’w cyflawni,” meddai Mick Antoniw wrth golwg360.

“Mae hyn oherwydd bod Liz Truss, yn ystod y ras i ddod yn Brif Weinidog, wedi dweud ei bod hi eisiau cyflawni hyn erbyn mis Rhagfyr 2023, felly mewn deuddeg mis i bob pwrpas.

“Y bwriad yw bod holl ddeddfau’r Undeb Ewropeaidd rydyn ni wedi’u hymgorffori i’n fframwaith cyfreithiol pan ddaru ni adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu diddymu.

“Mae hynny yn berthnasol i sawl maes o ddeddfwriaeth eilradd sy’n ymwneud â chyfrifoldeb datganoledig.

“Rydyn ni’n siarad am gyfrifoldebau amgylcheddol, safonau bwyd, diogelwch bwyd a’r mathau yna o bethau yn ogystal â meysydd eraill hefyd.

“Maent yn amcangyfrif y byddai yna oddeutu 2,400 darn o ddeddfwriaeth, felly mae’n dasg enfawr i asesu pob un o’r darnau yna o ddeddfwriaeth.

“Ond wedyn hefyd i asesu pa rai sy’n ymwneud â phwerau datganoledig yn o gystal â pha ddeddfwriaethau y mae mwy nag un llywodraeth yn gyfrifol amdanynt, oherwydd un o gymhlethdodau’r gyfraith yw bod yna gorgyffwrdd, problemau ffin, materion rheoleiddio cyffredin sydd weithiau’n berthnasol ac yn y blaen.

“Felly mae hi’n dasg aruthrol i lywodraethau’r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon yn ogystal â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Felly rydyn ni wedi gwneud y pwynt nad oes modd cyflawni hyn, mae’n hollol hurt gweithio tuag at y terfyn amser hwn (ym mis Rhagfyr 2023).

“Roedd y terfyn amser gwreiddiol ar gyfer y bil hwn wedi’i osod yn 2026, sydd dal yn dasg anferthol.

“Pe bai’n rhaid i ni wneud hyn, fe allai gael effaith andwyol ar ein capasiti i gyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol ac oherwydd hynny rydyn ni’n edrych ar ffyrdd y gallwn ni ddargyfeirio, neu edrych ar ffyrdd gwahanol y gallwn ni ddelio â’r bil hwn.

“Mae yna lot o feddwl yn mynd i mewn i sut y gallwn ni gyflawni hynny.”

‘Prosiect trahaus Brexit’

Does yna “ddim rheswm da” dros gyflwyno’r ddeddfwriaeth oni bai am “fodloni ideoleg Brexitaidd”, yn ôl Mick Antoniw.

“Dydyn ni ddim yn credu bod hyn yn angenrheidiol o gwbl,” meddai.

“Yr oll yw’r ddeddfwriaeth hon, i bob pwrpas, yw prosiect trahaus Brexit sy’n cyflawni llawer o ddim.

“Does yna ddim rheswm da, hyd y gwelwn ni, dros gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon oni bai am fodloni ideoleg Brexitaidd.

“Oherwydd, os yw pethau’n cael eu cadw fel ag y maen nhw nawr, yna fe allwn ni newid ac addasu Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a Gadwyd pryd bynnag mae’n briodol gwneud hynny.

“Fe allwn ni wneud hynny o fewn amserlen eithaf bychan.

“Felly yn y bôn, mae hyn yn gosod gorchymyn arnom sy’n bygwth goblygiadau difrifol i’n capasiti i gyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol, ac mae ein rhaglen ddeddfwriaethol yn rhywbeth rydyn ni’n benderfynol o’i chyflawni.

“Felly rydyn ni’n edrych ar ffyrdd o warchod y rhaglen honno.

“Rydw i’n defnyddio pob cyfle dw i’n ei gael i’w gwneud hi’n glir [i Lywodraeth y Deyrnas Unedig] fod y ddeddfwriaeth yma’n ddibwrpas a bod yn rhaid iddyn nhw gael gwared ar y terfyn amser chwerthinllyd yma oherwydd nad oes modd ei gyflawni a’i fod yn bygwth achosi niwed deddfwriaethol sylweddol.”