Mae Mark Drakeford wedi cael ei feirniadu ar ôl dweud y gallai cau meddygfeydd “wella pethau”.

Daeth sylwadau Prif Weinidog Cymru wrth iddo ymateb i’r pryderon am ddyfodol meddygfa yn ardal Bedwas ger Caerffili.

Yn ôl Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd sy’n cynrychioli’r ardal, mae trigolion sir Caerffili yn cael eu siomi gan ddiffyg cynllunio gan Lywodraeth Cymru i helpu i gyflwyno gwasanaethau meddygon teulu.

Mae ymgynghoriad ynghylch dyfodol y feddygfa ar y gweill yn y bwrdd iechyd, gan nodi bod anallu i recriwtio meddygon teulu yn rhan o’r broblem, sydd wedi arwain at gau tair meddygfa.

Dywed Plaid Cymru fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gyfrifol am hyfforddi staff yn y maes meddygol ers dros ugain mlynedd.

Wrth grybwyll y mater yn y Senedd, dywedodd Delyth Jewell y gallai cau meddygfeydd leihau’r mynediad sydd gan bobol at wasanaethau meddygon teulu, gan “adael cleifion Bedwas, Trethomas a Machen yn mynd i feddygfeydd eraill, sydd ddim bob amser am fod yn deithiau syml os nad oes gennych chi gar”.

“Dw i’n poeni am batrwm pryderus yma – yng Nghaerffili yn sicr.

“Mae meddygfeydd Penyrheol, Lansbury Park a Gilfach wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf; mae’n ymddangos mai’r un yw’r stori dros y rhanbarth.

“Allwch chi werthfawrogi, Brif Weinidog, pam fod cynifer o bobol yn poeni y bydd y cau yma’n anochel yn arwain at anghyfleustra i gleifion, amserau aros hirach, a mwy o bwysau ar feddygon teulu?

“A beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud, os gwelwch yn dda, i gynghori byrddau iechyd am yr angen i wella, nid gwaethygu profiadau cleifion?

“Oherwydd, does bosib nad yw er lles neb i gynifer o feddygfeydd gau efallai?”

‘Newid yn anochel’

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford fod “newid yn y Gwasanaeth Iechyd yn anochel”.

“Mae rhai meddygfeydd yn cau, mae meddygfeydd newydd yn agor,” meddai.

“Mae wedi bod fel yna ers 1948.

“Mae gwasanaethau sy’n cael eu rheoli’n fwy uniongyrchol yng Nghymru nawr nag o’r blaen, ac mae hynny’n adlewyrchiad o natur newidiol y proffesiwn, wrth i’r hen fodel, sef yr egwyddor o fodel dan berchnogaeth practis, yn dod yn llai deniadol i feddygon newydd sy’n mynd i fod yn feddygon teulu.

“Mae patrymau mynediad yn newid hefyd, Lywydd.

“Yn y dyfodol, bydd cyfran lawer uwch o ymgynghoriadau’n cael eu cynnal o bell, dros y ffôn neu drwy alwadau fideo.

“Allwn ni ddim disgwyl i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael ei osod mewn asbig – dydy e erioed wedi bod.

“Mae’n rhaid ymdrin â newid yn sensitif, ond mae newid yn anochel, a gall newid wella pethau mewn gwirionedd, yn ogystal â gwneud pethau’n fwy anodd weithiau.”

‘Anallu i ddarparu gwasanaethau iechyd sylfaenol’

Wrth ymateb i sylwadau’r Prif Weinidog, dywed Delyth Jewell fod “cleifion yng Nghaerffili wedi’u siomi’n barhaus gan anallu Llywodraeth Lafur Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd sylfaenol”.

“Dyma’r pedwerydd achos o gau meddygfa leol dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.

“Yn groes i honiad y Prif Weinidog fod hyn yn ryw fath o ymgyrch fwriadol i foderneiddio, yn y rhan fwyaf o’r achosion hyn diffyg meddygon teulu sydd wedi gyrru’r cau hwn, yn bennaf o ganlyniad i’r ffaith fod Llafur wedi methu hyfforddi a recriwtio digon o feddygon teulu dros nifer o flynyddoedd.

“Mae’n annheg disgwyl i gleifion o Fedwas sydd eisiau aros o fewn yr un feddygfa i wneud dwy daith fws i weld eu meddyg teulu mewn taith yno ac yn ôl allai gymryd dwy awr, a disgwyl i bobol hŷn dderbyn, yn syml, eu bod nhw’n cael eu hamddifadu o’r cyfle i weld eu meddyg teulu a’r ysgrifenyddes wyneb yn wyneb wrth i apwyntiadau o bell ddod yn norm.

“Mae’r awgrym gan y Prif Weinidog y gallai hyn olygu newid er gwell, mewn gwirionedd, yn sarhaus.

“Yn hytrach na gwneud esgusodion, mae’n bryd i’w lywodraeth ymrwymo i hyfforddi a recriwtio digon o feddygon teulu i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn lleol, fel bod pobol leol yn gallu derbyn y gwasanaethau maen nhw’n teimlo bod ganddyn nhw’r hawl i’w disgwyl.”