Ffisiotherapyddion yw’r un o’r grwpiau diweddaraf o staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i gyhoeddi eu bod nhw am streicio.

Mae’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapyddion yn dweud y bydd gweithredu diwydiannol yn mynd rhagddo ar Chwefror 7.

Mae’r gymdeithas yn cynrychioli 1,500 o staff ffisiotherapi o fewn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, ac roedden nhw wedi pennu dyddiad ar ôl i aelodau bleidleisio dros weithredu diwydiannol.

Hwn fydd y tro cyntaf i staff ffisiotherapi yng Nghymru streicio dros gyflog.

Daw’r newyddion wrth i staff ambiwlans streicio ledled Cymru, ac yn Lloegr hefyd, heddiw (dydd Llun, Ionawr 23).

“Hanfodol” bod yna gynnig cyflog “teilwng”

Cymerodd y Gymdeithas Siartedig Ffisiotherapyddion ran mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar Ionawr 12, ynghyd ag wyth undeb iechyd arall.

Fodd bynnag, er eu bod nhw’n croesawu’r cyfle i drafod cyflogau gyda’r Llywodraeth, doedden nhw ddim yn teimlo bod cynnig clir i’w roi i’r aelodau, sy’n golygu na fydd streic yn cael ei hatal.

“Pleidleisiodd ffisiotherapyddion a gweithwyr cymorth dros streic oherwydd nad oedd y codiad cyflog presennol yn ddigon i’w helpu drwy’r argyfwng costau byw,” meddai Adam Morgan, uwch swyddog negodi’r gymdeithas yng Nghymru.

“Nid yw’n benderfyniad y mae unrhyw un o’n haelodau yng Nghymru yn ei wneud yn ysgafn ond nid yw’r codiad cyflog presennol yn mynd yn ddigon pell i fynd i’r afael ag argyfwng y gweithlu.

“Does neb eisiau streicio ond mae staff ffisiotherapi wedi cael eu gadael heb ddewis.

“Mae cleifion yn cael trafferth cael y gofal sydd ei angen arnynt oherwydd bod degawd o danfuddsoddi yn y GIG wedi arwain at brinder gweithlu cronig.

“Mae’n hanfodol bod yna gynnig cyflog teilwng, nid yn unig i gadw staff presennol ffisiotherapi ond i ddenu pobl newydd i’r proffesiwn.”

Pobol Cyrmru yn parhau i ’dalu’r pris’

“Mae’n drueni nad oedd y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn gallu atal y datganiad hwn o streic gan ffisiotherapyddion,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae’r un peth yn wir am nyrsys. A bydwragedd. A gweithwyr ambiwlans. Ac athrawon.

“Rwy’n gwybod bod hon yn sefyllfa anodd ar draws y Deyrnas Unedig, ond mae’n rhaid i ni gofio, mai cyfrifoldeb Llafur yw hwn ac, o’i gwyliadwriaeth, mae Cymru wedi’i gadael mewn sefyllfa waeth – rydym newydd gofnodi’r amseroedd ymateb gwaethaf i adrannau damweiniau ac achosion brys ac ambiwlansys, ac mae gennym ni restr aros hiraf Prydain.

“Rwy’n ofni hyd nes y bydd gweinidogion Llafur yn ymddeol y llawlyfr hindreuliedig sy’n dweud ‘beiwch San Steffan’ pryd bynnag y cânt eu herio am ei record wael wrth y llyw, na fydd y streiciau hyn yn dod i ben, ni fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gwella, a bydd pobol Cymru yn parhau i dalu’r pris.”