Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi herio’r Prif Weinidog Mark Drakeford ar ôl i amserau aros ar gyfer ambiwlans gyrraedd eu lefel uchaf erioed.

Mae’n dweud y gallai rhywun sy’n ffonio 999 â phoen yn eu brest orfod aros cyhyd â chwarter awr ym Mhowys pan fo’u bywyd yn y fantol.

Y targed ar gyfer galwadau coch o’r fath yw wyth munud.

O ran galwadau oren tebyg, gallai claf orfod aros dros awr.

Dydy’r targedau ddim wedi cael eu bwrw ers mis Gorffennaf 2020, ac mae Jane Dodds yn dweud bod y sefyllfa’n “argyfwng go iawn” bellach.

‘Pryd fyddech chi’n disgwyl i ambiwlans gyrraedd?’

“Brif Weinidog, dychmygwch fod rhywun newydd ffonio 999 â phoen yn eu brest,” meddai Jane Dodds yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 24).

“Pryd fyddech chi’n disgwyl i ambiwlans gyrraedd?

“Rwy’n siŵr y byddwch chi’n adnabod y cwestiwn hwnnw gan arweinydd Plaid Lafur y Deyrnas Unedig, Keir Starmer, oedd wedi gofyn yr un un cwestiwn i’r Prif Weinidog [yn y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak] yr wythnos ddiwethaf.

“Fe wrthododd y Prif Weinidog roi ateb go iawn iddo.

“Mi wna i roi’r ateb i’r cwestiwn hwnnw i Gymru i’r Prif Weinidog [Mark Drakeford]: I’r person sydd newydd ffonio 999 efo poen yn eu brest (galwad oren), byddan nhw fwy na thebyg yn aros dros awr i’r ambiwlans yna gyrraedd…

“Os yw’r person sydd newydd ffonio 999 mewn sefyllfa lle mae eu bywyd mewn perygl, gallen nhw aros cyhyd â 15 munud ym Mhowys.

“Y targed ar gyfer y galwadau coch hynny ydi wyth munud.

“Gorffennaf 2020 oedd y tro diwethaf i’r targedau hyn gael eu bwrw, ac mae’r ffigurau wedi bod yn cwympo ers hynny.

“Mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen am yn rhy hir, ac mae penderfyniad staff ambiwlans gweithgar i weithredu’n ddiwydiannol yn dangos bod yna argyfwng go iawn yn ein Gwasanaeth Iechyd.

“Maen nhw’n gweithio’n eithriadol o galed, ac rwy’n diolch iddyn nhw i gyd.

“Felly, Brif Weinidog, allwch chi ddweud wrthyf pryd rydych chi’n disgwyl i’r targedau hyn gael eu bwrw?

“A fydd hi’n ddwy flynedd a hanner eto cyn i chi allu bwrw targedau eich Llywodraeth eich hun?”

Ymateb y Prif Weinidog

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford mai’r amser aros cyfartalog ar gyfer galwad coch yr wythnos ddiwethaf – o’r alwad i gyrraedd stepen y drws – oedd saith munud 43 eiliad.

38 munud, 52 eiliad oedd yr amser cyfartalog yr wythnos ddiwethaf ar gyfer ateb galwad oren, meddai.

Er nad yw’r Gwasanaeth Ambiwlans wedi bwrw’r targed ers mis Gorffennaf 2020, dywedodd Mark Drakeford fod targedau wedi’u bwrw am y 48 mis blaenorol yn olynol.

Ychwanegodd mai canlyniad y pandemig oedd methu’r targed yn ystod y mis hwnnw wedyn, a dywed fod yr adferiad wedi bod yn araf ers hynny a bod mwy o alw am ambiwlans erbyn hyn na’r cyfnod o 48 mis.