Yr wythnos hon, mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi annog gweinidogion i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, gyda’r un tâl. Jack Sargeant, Aelod Llafur o’r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, yw cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Yma, mae’n dadlau’r achos dros gynnal cynllun peilot ar gyfer wythnos waith fyrrach.
(Sylwadau personol Jack Sargeant sydd yn fan hyn, ac nid yw ei sylwadau yn cynrychioli barn y pwyllgor).
Mae’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i chasglu gan amryw o sefydliadau ac undebau llafur sydd wedi mabwysiadu’r math hwn o bolisi yn dangos bod wythnos waith pedwar diwrnod yn arwain at gynhyrchiant uwch i ddechrau, sy’n arwydd da. Yn ail, mae’n cynnig gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i weithwyr, ac yn arwain at well llesiant meddyliol. Oll yn gamau cadarnhaol.
Mae yna nifer o ddadleuon drosto, a’r ddadl dros yr amgylchedd yw un ohonyn nhw. Mae’n bosib ein bod ni’n gweld y ddadl honno’n barod wrth i’n ffordd o weithio newid gyda mwy o bobol yn gweithio o gartref. Mae’n gam ymlaen, a bydd yn cael effaith ar yr amgylchedd. Os nad yw rhywun yn teithio i’r gwaith ar ddiwrnod penodol, yna bydd eu hallyriadau’n is.
Dyma un peth allai wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau hefyd, ac mae’n bwynt sy’n bwysig i’w wneud. Mae peth o’r dystiolaeth yn dangos bod cwmnïau sy’n caniatáu gweithio mwy hyblyg yn arwain at welliannau o ran gofal plant. Pe bai’r peilot yn dangos bod mantais o ran cydraddoldeb, a dw i’n meddwl y bydd yn dangos hynny, yna pam na fydden ni’n mabwysiadu’r fath bolisi?
Fel rhan o ymchwiliad y pwyllgor, a’r adroddiad rydyn ni wedi’i gyhoeddi, dydyn ni ddim eisiau gweld dim byd fydd yn effeithio’n negyddol am fusnesau a chwmnïau, nac ar y gweithwyr, wrth reswm. Mae adroddiadau am dreialon dros y byd yn awgrymu nad dyna’r achos, felly dyna un o’r rhesymau pam ein bod ni’n galw am beilot wythnos waith pedwar diwrnod i sector gyhoeddus Cymru.
Mae’r ffordd rydyn ni’n gweithio’n newid, a byddai hyn yn un ffordd o ailgydbwyso’r glorian tuag at weithwyr. Mae’n gynnig beiddgar, ond rydyn ni wedi gweld cynigion mwy beiddgar. Rydyn ni wedi clywed y math hwn o ddadleuon yn gymharol ddiweddar pan symudon ni o’r wythnos waith chwe niwrnod a mabwysiadu’r penwythnos.
Cymru sy’n gweithio’r oriau hiraf yn y Deyrnas Unedig, a’r Deyrnas Unedig sy’n gweithio’r oriau hiraf, fwy neu lai, yn Ewrop. Rydyn ni ymhell i lawr y tabl cynhyrchiant, oherwydd nad oes yna gysylltiad rhwng oriau gwaith a chynhyrchiant. Mae yna ffactorau eraill ar waith, a rhan ohono yw llesiant y gweithlu. Dros gyfnod sylweddol, rydyn ni wedi gweld gweithwyr yn colli allan, rydyn ni wedi gweld cyflogau’n gostwng mewn termau real, rydyn ni wedi gweld mwy o bwysau yn y gweithlu. Mae’r pwysau i gyd wedi mynd i un cyfeiriad, ac rydyn ni’n trio ailgydbwyso’r glorian er mwyn rhoi hwb sylweddol i bobol a chreu rhywbeth fyddai’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw a’u cyflogwyr.
Mae hi’n bwysig cofio bod y dadleuon yn erbyn y cynnig, gan gynnwys y rhai gan yr Aelod o’r Senedd Ceidwadol Joel James, yr union ddadleuon gafodd eu gwneud gan bobol debyg o’r un blaid yn erbyn penwythnosau, cyfnod tadolaeth â thâl, gwyliau â thâl, ac yn y blaen. Fedrwn ni fyth fforddio’r pethau hyn, medden nhw. Ond weithiau mae’n rhaid i ni eu hystyried nhw oherwydd mae’n rhaid i ni gydnabod yr hyn sy’n ein hwynebu, sef marchnad lafur sy’n cael trafferth recriwtio staff a gweithwyr sydd wedi colli allan yn sylweddol dros nifer o flynyddoedd. Os nad ydyn ni’n cael y sgwrs yma, pwy gaiff?
Am yn rhy hir o lawer, rydyn ni wedi gweld cwmnïau ar eu hennill, ac nid y rhai sy’n cefnogi cwmnïau ac yn gwneud i’r cwmnïau weithio. Mae hi’n bwysig ein bod ni’n cael y drafodaeth hon, a dw i’n gobeithio y bydd y pwyllgor yn cael ymateb gan Lywodraeth Cymru ac y bydd hwnnw’n un cadarnhaol.
Debyg bod y pandemig wedi chwyddo’r drafodaeth ac wedi’i chyflymu, ond mae hyn wedi digwydd yn barod mewn llefydd eraill. Mae’n amser i Gymru arwain y Deyrnas Unedig ar hyn. Rydyn ni wedi bod yn fentrus o’r blaen, mae sawl enghraifft o’r tymor hwn yn y Senedd – y peilot Incwm Sylfaenol i ddechrau – ynghyd ag esiamplau o’r gorffennol fel pan fuon ni’n fentrus yr holl flynyddoedd hynny’n ôl pan sefydlodd Aneurin Bevan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Does yna ddim rheswm pam na fedrwn ni fod yn feiddgar efo’r cynnig hwn, a mynd â fo ymlaen yn y Deyrnas Unedig hefyd.