Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn lansio pecyn adnoddau ‘Croeso i Bawb’ heddiw (dydd Gwener, Ionawr 27), sy’n cyflwyno’r Gymraeg a Chymru i bobol sydd ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf neu sydd ddim yn siarad llawer o Saesneg.

Mae’r modiwl hunanastudio digidol yn rhad ac am ddim, trwy gyfrwng yr ieithoedd Wcreineg, Cantoneg, Arabeg Syria, Farsi a Pashto.

Bydd yn cyflwyno dysgwyr i bobol a llefydd Cymru, hanes yr iaith, y celfyddydau, chwedlau a chwaraeon.

Mae un o bartneriaid y Ganolfan, SaySomethinginWelsh, hefyd yn cynnig cyrsiau Dysgu Cymraeg ar-lein trwy gyfrwng Arabeg Syria, Pashto, a Dari.

Mae cwrs blasu Dysgu Cymraeg, sydd ddim yn defnyddio unrhyw Saesneg, eisoes ar gael o dan arweiniad tiwtor ac mae’n cael ei ddefnyddio gan y Groes Goch ac Addysg Oedolion Cymru.

Yr iaith yn “perthyn i bawb yng Nghymru”

“Mae Cymru’n falch o groesawu pobol o wahanol ddiwylliannau, crefyddau a chefndiroedd a dw i’n falch iawn bod pob un yr ydym yn ei groesawu i Gymru yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg – ein hiaith ni,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.

“Hoffwn ddymuno pob hwyl i bawb sy’n defnyddio’r adnoddau hyn i ddysgu’r Gymraeg.

“Mae’r iaith, wedi’r cyfan, yn perthyn i bawb yng Nghymru.”

“Ein nod yn y Ganolfan yw creu cyfleoedd newydd i oedolion ddysgu a mwynhau’r Gymraeg, a bydd yr adnoddau hyn yn hwyluso’r dysgu i bobol nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt neu nad ydynt yn siarad llawer o Saesneg,” meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Edrychwn ymlaen at groesawu hyd yn oed yn fwy o bobol i ddysgu gyda ni a dod i wybod mwy am Gymru.”

‘Lledaenu’r neges’

“Rydyn ni wedi cydweithio’n agos gyda gwahanol bartneriaid a chyfieithwyr i lunio’r adnoddau hyn, ac mae’r Ganolfan yn ddiolchgar iddynt am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad,” meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Ein nod ni nawr yw i ledaenu’r neges, fel bod pobol yn gwybod bod yr adnoddau hyn ar gael.”