Gallai Cymru annibynnol fforddio buddsoddi £3bn ychwanegol y flwyddyn mewn gwasanaethau cyhoeddus, megis gofal plant a thrafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb, yn ôl adroddiad gan y grŵp polisi Melin Drafod.

Mae ymchwil Melin Drafod yn dadlau y byddai’n ddarbodus gwella sefyllfa gyllidol Cymru o ryw 6-7% o GDP dros gyfnod o flynyddoedd drwy newidiadau polisi.

Fe ddaw’r papur trafod i’r casgliad bod “dadl gredadwy y byddai Cymru’n wynebu diffyg… fyddai’n [ei] gwneud yr un mor alluog â’r rhan helaeth o wledydd Ewrop i fod yn annibynnol.”

Mae’n awgrymu, pe bai negodi gyda gweddill y Deyrnas Unedig yn dilyn cynseiliau rhyngwladol a’i newidiadau polisi yn cael eu cyflwyno, y byddai gan Gymru oddeutu £3bn yn ychwanegol y flwyddyn i’w fuddsoddi mewn prosiectau megis gofal plant i bawb yn rhad ac am ddim a datgarboneiddio systemau trafnidiaeth, ynni a thai.

Bydd y Felin Drafod yn cynnal uwchgynhadledd annibyniaeth yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ddydd Sadwrn (Ionawr 28).

Newidiadau polisi

Byddai’r newidiadau polisi yn cynnwys:

  • cynyddu lefelau refeniw treth i gyfartaledd Ewrop, drwy ddiwygiadau treth, dad-droseddoli cyffuriau a threth ar landlordiaid;
  • newid y berthynas â gwaith a chynyddu canran y boblogaeth sydd o oedran gweithio, gan gynnwys drwy lacio rheolau mewnfudo;
  • lleihau gwariant ar amddiffyn i’r un lefel ag Iwerddon;
  • cyflawni arbedion drwy greu un gwasanaeth argyfwng integredig, llai o gynghorau sir a lleihau’n sylweddol canran y boblogaeth sydd yn cael eu carcharu.

‘Rhoi anghenion cymdeithas Cymru yn gyntaf’

“Gobeithio y bydd papur hwn yn ysgogi trafodaeth polisi manylach byth am y llwybr tuag at sefydlu Cymru fel gwladwriaeth annibynnol, lwyddiannus a blaengar,” meddai Talat Chaudhri, cadeirydd Melin Drafod.

“Caiff ei dweud yn aml mai sefyllfa gyllidol Cymru yw un o’r rhwystrau mwyaf wrth i fudiadau geisio argyhoeddi’r cyhoedd am yr achos dros annibyniaeth i Gymru.

“Mae’r papur rydyn ni’n cyhoeddi heddiw yn dangos nid yn unig bod dadl gref y gallai Cymru fforddio annibyniaeth, ond bod cyfle i greu cymdeithas newydd. Cymdeithas newydd fydd yn llawer tecach, gwyrddach a heddychlon na system economaidd ffaeledig a chwbl annheg y Deyrnas Gyfunol.”

‘Crynodeb ardderchog a man cychwyn ar gyfer trafodaeth lawer ehangach’

“Mae’r papur hwn nid yn unig yn grynodeb ardderchog o’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma ar gyllid Cymru, ond hefyd yn fan cychwyn ar gyfer trafodaeth lawer ehangach am yr hyn y dylai cymdeithas ac economi Cymru fod,” meddai Tegid Roberts, sylfaenydd Banc Cambria, Cadarn a Chyfarwyddwr Stiwdio Quantum Soup.

“Mae gan y drafodaeth ehangach honno’r fantais o wrthod uniongrededd San Steffan a dechrau o’r newydd.

“Gall ystyried banc canolog i Gymru ac arian cyfred a gall hefyd ddechrau â llechen lân wrth ystyried y system les a’n system dreth hefyd.

“Ar hyn o bryd dylen ni ystyried pob opsiwn gyda golwg ar greu economi sy’n rhoi anghenion cymdeithas Cymru yn gyntaf, yn hytrach na’r ffordd arall rownd.”

‘Cychwyn sgwrs bwysig’

“Mae’r papur hwn, i mi, yn gychwyn sgwrs bwysig,” meddai Mark Hooper, sylfaenydd IndyCube a Banc Cambria.

“Mae angen dadl ddofn a heriol ar Gymru ynghylch y math o gymdeithas sydd ei hangen arnom, a’r math o wladwriaeth sydd ei hangen felly.

“Mae’r economi y mae angen inni ei chreu angen ei hadeiladu ar sail yr atebion i’r cwestiynau hynny.

“Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous a bywiog i ni, wrth i ni adeiladu Cymru newydd; gadewch i ni osgoi cael ein cyfyngu yn ein ffordd o feddwl gyda’r pethau rydyn ni’n gwybod nad ydyn nhw’n gweithio.

“Rhaid i’r mudiad annibyniaeth alluogi’r sgyrsiau pwysig a diffiniol hyn nawr.”