Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi talu teyrnged i “ddewrder eithriadol” y rhai wnaeth oroesi’r Holocost, wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddweud bod “cyfrifoldeb gan bawb ohonom i herio casineb a rhagfarn”.
Thema Diwrnod Cofio’r Holocost heddiw (dydd Gwener, Ionawr 27) yw pobol gyffredin, ac yn ôl Liz Saville Roberts “mae lleisiau o’r dyddiau tywyll hynny’n tyfu’n llai” gyda phob blwyddyn sy’n mynd heibio.
Wrth i’r byd nodi 78 mlynedd eleni ers rhyddhau goroeswyr o wersyll marwolaeth Auschwitz-Birkenau, mae hi’n galw am fwy o oddefgarwch a pharch.
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn cael ei nodi’n flynyddol ym mis Ionawr i gofio’r chwe miliwn o Iddewon gafodd eu llofruddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a’r miliynau o bobol eraill gafodd eu lladd o dan erledigaeth y Natsïaid a hil-laddiadau dilynol mewn gwledydd fel Cambodia, Rwanda, Bosnia, Armenia a Darfur.
Eleni, fe fydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, lle bydd y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd ac Olivia Marks-Woldman, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn siarad, a’r Cynghorydd Graham Hinchey, Arglwydd Faer Caerdydd, yn cyhoeddi’r Datganiad o Ymrwymiad.
Bydd darlleniad yn Hebraeg gan y Rabbi Michoel Rose o Synagog Unedig Caerdydd, a bydd Ellie Penaluna o Ysgol Gyfun Rhydywaun yn siarad am wersi o brosiect ar Auschwitz.
Roedd Joan Salter, fydd hefyd yn siarad, yn dri mis oed pan wnaeth y Natsïaid ymosod ar Wlad Belg, a bu farw teulu ei mam yng ngwersyll Treblinka, tra bod teulu ei thad wedi’u llofruddio yng ngwersyll Belzec.
Bydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn darllen o Lyfr Matthew 5; 1-12.
Ymhlith y siaradwyr eraill fydd cynrychiolwyr o gymunedau Rwanda, a Sipsiwn, Roma a Theithwyr; y bardd Gwyneth Lewis fydd yn darllen addewid arbennig; a Chôr Ieuenctid Caerdydd a’r Fro, fydd yn canu ‘Hafan Gobaith’.
“Neges bwerus” y thema
“Dydd Gwener yma, rydym yn cofio’r miliynau o bobol gafodd eu herlid a’u lladd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau dilynol,” meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
“Thema Diwrnod Cofio’r Holocost 2023 yw ‘Pobol Gyffredin’.
“Yn ystod yr Holocost a’r hil-laddiad dilynol, pobol gyffredin oedd yn canfod eu hunain yn cael eu herlid a’u llofruddio oherwydd eu bod nhw’n perthyn i gymuned o bobol.
“Pobol gyffredin weithredodd a helpu’r rhai oedd yn cael eu targedu.
“Pobol gyffredin wnaeth ddim byd a derbyn y propaganda atgas.
“Mae’r thema’n tynnu sylw at realiti difrifol hil-laddiad: mewn nifer o achosion, pobol gyffredin oedd wedi hwyluso’r erchyllterau hyn.”
‘Cyfrifoldeb gan bawb ohonom i herio casineb a rhagfarn’
Yn ôl Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, mae’r thema eleni “yn ein hatgoffa’n bwerus ac yn amserol fod cyfrifoldeb gan bawb ohonom i herio casineb a rhagfarn”.
Bydd yn darllen y gerdd ‘Belsen Silence’ gan Iolo Lewis, fu’n gwasanaethu’r catrawd oedd wedi rhyddhau carcharorion o wersyll Bersen-Belsen yn 1945.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n nodi’r achlysur blynyddol hwn ac yn cofio pawb gafodd eu lladd,” meddai yn ei Neges Groeso.
“Eleni, rydym yn dod ynghyd yn rhithiol unwaith eto.
“Mae’r thema eleni – ‘Pobol Gyffredin’ – yn ein hatgoffa’n bwerus ac yn amserol fod cyfrifoldeb gan bawb ohonom i herio casineb a rhagfarn.
“Roedd pobol gyffredin ynghlwm wrth bob agwedd ar yr Holocost a hil-laddiadau dilynol.
“Ond, fel pobol gyffredin, gallwn fod yn anghyffredin yn ein gweithredoedd ein hunain a herio casineb neu erledigaeth lle bynnag y byddwn yn ei weld, ei brofi neu ei ddirnad.
“Fel unigolion, cymunedau a ffrindiau, dangoswn solidariaeth â phawb sy’n parhau i oddef erledigaeth.”
“Brwydro yn erbyn gwrth-semitiaeth”
“Rhaid i ni byth anghofio’r erchyllterau a wynebodd miliynau o bobl yn ystod yr Holocost,” meddai Altaf Hussain, llefarydd cydraddoldeb y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae’r miliynau o Iddewon, Sipsiwn, Roma, pobol anabl ac aelodau o’r gymuned LHDT wynebodd erledigaeth o’r gyfundrefn ddieflig hon yn haeddu bod eu straeon yn cael eu hadrodd fel gwers i ni i gyd.
“Mae’n gywilydd i’r byd nad yw gwersi’r Holocost wedi eu dysgu. Rwy’n annog pawb i frwydro yn erbyn gwrth-semitiaeth a phob math o hiliaeth lle bynnag y byddwn yn dod ar ei draws.
“Wrth i ni nesáu at 80 mlynedd ers rhyddhau’r gwersylloedd, nawr yn fwy nag erioed mae’n rhaid i ni adlewyrchu ar straeon pwerus gaiff eu rhannu gyda ni gan y goroeswyr sy’n weddill.
“Boed i’w dewrder a’u hymrwymiad i siarad yn erbyn yr erchyllterau gafodd eu cyflawni yn ystod yr Holocost barhau i ysbrydoli’r newid sydd ei angen arnom, fel y gallwn i gyd fyw mewn cymdeithas sy’n gwbl barchus o grefydd pobol, hil, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.”
‘Cadw fflam gobaith yn fyw’
“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ein hatgoffa’n gryf na ddylai’r frwydr yn erbyn rhagfarn ac anoddefgarwch fyth ddod i ben,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’n gyfle pwysig i gofio dioddefwyr a goroeswyr ac i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu hanghofio.
“Gyda phob blwyddyn sy’n mynd heibio, mae lleisiau o’r dyddiau tywyll hynny’n tyfu’n llai.
“Dyna pam mae’n rhaid i ni gyd weithio i gadw fflam gobaith yn fyw a herio gwrth-semitiaeth a rhagfarn yn ei holl ffurfiau.
“Gobeithio y bydd etholwyr yn Nwyfor Meirionnydd yn ymuno â mi i fyfyrio ar ddigwyddiadau trasig yr Holocost a’r hil-laddiadau dilynol wrth i ni gofio un o adegau tywyllaf hanes Ewrop.
“Waeth beth yw ein credoau, ein lliw neu ein cenedligrwydd, mae’r diwylliant o barch yn un y dylem ei gael at bawb, ac mae’n bwysig ein bod ni fel cymuned yn dod at ein gilydd i ddangos undod.”
Bydd adeiladau Caerdydd yn cael eu goleuo’n borffor yn ystod y dydd, gan gynnwys Castell Caerdydd, y Senedd a Llywodraeth Cymru, a Neuadd y Ddinas.
Mae gwahoddiad i bobol ledled Cymru i gynnau cannwyll yn eu ffenestri am 4 o’r gloch, gan rannu llun ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #HolocaustMemorialDay a #LightTheDarkness.