Mae’r Cyfreithiwr Cyffredinol, sef cynrychiolydd cyfreithiol Sbaen yn achos llys arweinwyr refferendwm Catalwnia yn 2017, wedi cyflwyno cais i haneru dedfrydau arweinwyr yr ymgyrch.
Daw hyn o ganlyniad i ddiwygio’r cod troseddol y mis yma, sy’n golygu bellach fod rhaid lleihau’r cyfnod o waharddiad rhag bod mewn swydd gyhoeddus, sydd ar hyn o bryd yn amrywio o naw i 13 o flynyddoedd.
Mae’r newid hefyd yn golygu nad yw annog gwrthryfel bellach yn drosedd mewn perthynas ag annibyniaeth, ac mae’r gyfraith ar gamddefnyddio arian cyhoeddus hefyd wedi cael ei haddasu.
Mae’r Cyfreithiwr Cyffredinol wedi gwneud cais i ostwng y gwaharddiad yn achos Oriol Junqueras, y cyn-Ddirprwy Arlywydd, o 13 mlynedd i saith mlynedd.
Cafodd y cyn-weinidogion Raül Romeva, Jordi Turull a Dolors Bassa, waharddiad o ddeuddeg mlynedd yr un, a dylai eu gwaharddiad nhw gael ei ostwng i chwe mlynedd a naw mis.
Mae Joaquim Forn a Josep Rull, dau gyn-weinidog arall, wedi’u dedfrydu i ddeng mlynedd a chwe mis o waharddiad, ond dylai hwnnw hefyd gael ei ostwng i chwe mlynedd a thri mis.
Yn achos Carme Forcadell, cyn-Lefarydd Catalwnia, cafodd hi waharddiad o unarddeg o flynyddoedd a chwe mis, ond mae awydd i ostwng ei dedfryd i chwe mlynedd.
Pedair blynedd o waharddiad ddylai’r ymgyrchwyr Jordi Sànchez a Jordi Cuixart ei gael, yn hytrach na naw.
Cafodd yr holl arweinwyr ac ymgyrchwyr yr un ddedfryd o garchar hefyd, ond cawson nhw bardwn gan Lywodraeth Sbaen yn 2021, er nad oedd yn dileu eu gwaharddiadau.
Mae barn y Cyfreithiwr Cyffredinol, ar y cyfan, yn dra gwahanol i farn yr erlynydd cyhoeddus wrth i’r Goruchaf Lys ddadlau na ddylid gostwng hyd rhai o’r gwaharddiadau er bod y gyfraith bellach wedi newid.
Wrth dderbyn y dylid gostwng dedfrydau ambell unigolyn, maen nhw’n dadlau na ddylai’r gostyngiad fod mor hael.