Y Prifardd Ieuan Wyn sy’n cofio am yr ieithydd, awdur a’r hanesydd Dr J. Elwyn Hughes, ac yn manylu ar ei gyfraniad lleol yn Nyffryn Ogwen a’i gymwynas yn genedlaethol.
Mae hi’n chwith iawn meddwl ei fod o wedi’n gadael ni, ac mae rhywun yn meddwl am ei deulu o yn eu colled.
Mi ddaeth Elwyn yn athro Cymraeg ifanc tair ar hugain oed arnom ni yn Ysgol Dyffryn Ogwen, a hynny pan oeddwn i’n ddisgybl tair ar ddeg oed. Fel un oedd wedi ei eni a’i fagu yn y dyffryn, yng nghymdogaeth glòs Braichmelyn, roedd ei ddiddordeb o yn hanes cymdeithasol y fro yn amlwg bryd hynny. Roedd o hefyd yn hyrwyddo gwerthiant llyfrau Cymraeg yn yr ysgol ac yn y gymdeithas. Dyfnhaodd ei ddiddordeb yn hanes y fro, a datblygodd yn hanesydd lleol o’r radd flaenaf. Fel ymchwilydd, roedd o’n chwilotwr dygn a thrylwyr ac yn gofnodwr manwl a threfnus. Daeth yn Brifathro Ysgol Dyffryn Ogwen, ac yna’n Gyfarwyddwr CAI (Canolfan Astudiaethau Iaith). Yn 1984, cyhoeddwyd ei draethawd MA, Arloeswr Dwyieithedd: Dan Isaac Davies, 1839-1887.
Roedd o’n ramadegwr, ac yn pwysleisio yn ei wersi yn yr ysgol bod angen i chi feistroli cystrawennau’r iaith i fedru mynegi’ch meddyliau a’ch teimladau’n iawn waeth beth oeddech chi’n ei sgwennu, boed o’n waith creadigol neu’n adroddiad. Mae nifer helaeth wedi elwa o’i ddau lyfryn, Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu a Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg. Arddull uniongyrchol a ddefnyddiai yn ei weithiau ei hun, bob amser yn glir a rhwydd a hynod ddarllenadwy. Ni fyddai byth yn chwyddedig, yn flodeuog nac yn or-idiomatig. Roedd o’n pryderu am safon yr iaith, a dyna oedd ganddo yn ei erthygl olaf sydd yn rhifyn cyfredol Y Faner Newydd.
Pan sefydlwyd Llais Ogwan, papur bro Dyffryn Ogwen, yn 1974 roedd o’n barod iawn ei gymorth a’i gyfraniad, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma roedd o’n cyfrannu colofn hanes lleol yn fisol – a hynny hyd at ddau rifyn yn ôl.
Daeth yn ŵr llên hynod ddiwyd a sylweddol ei gyfraniad i’r bywyd diwylliannol Cymraeg. Oherwydd ei wybodaeth leol a’i adnabyddiadeth o Caradog Prichard, roedd o mewn sefyllfa ddelfrydol i lunio’r ddwy gyfrol ar y bardd a’r llenor, cyfrolau a enillodd iddo radd doethur gan Brifysgol Bangor. Yn fwy diweddar, mi gyhoeddwyd ei drydedd gyfrol ar Caradog Prichard – ar lythyrau coll a ganfuwyd. Bu’n rhoi sgyrsiau i gymdeithasau lleol ymhell ac agos ar fywyd a gwaith Caradog Prichard, ac yn tywys myfyrwyr Chweched Dosbarth a oedd yn astudio Un Nos Ola Leuad o gwmpas Bethesda a’r cyffiniau. Bu hefyd yn rhoi sgyrsiau ar hanes Dyffryn Ogwen – a hanes datblygiad Chwarel y Penrhyn a Bethesda yn arbennig.
Roedd o’n brif symbylydd a chyd-sylfaenydd Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen, ac yn un o’i Llywyddion Anrhydeddus. Ymhlith ei gynhyrchion ar hanes lleol mae’r gyfrol Canmlwyddiant Ysgol Dyffryn Ogwen 1895-1995, Canmlwyddiant Ysgol y Cefnfaes, ynghyd â Hanes Canolfan Gymdeithasol y Cefnfaes (gydag André Lomosik), llyfrynnau a llu o erthyglau ar wahanol agweddau ar hanes y fro. Yn gymharol ddiweddar, fo oedd yn gyfrifol am y rhan helaethaf o’r bywgraffiadau yn y gyfrol Rhai o Enwogion Llên Dyffryn Ogwen, fel golygydd y gyfrol a Chadeirydd Pwyllgor Coflechi Dyffryn Ogwen. Mae ei lyfrgell a’i archif bersonol yn drysorfa yn cynnwys casgliad helaeth a threfnus o ddeunydd yn ymwneud â gwahanol weddau ar hanes Ddyffryn Ogwen.
Bu’n olygydd Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol am ddeng mlynedd ar hugain – o 1985 hyd 2015 – ac oherwydd ei alluoedd golygyddol bu nifer dda o awduron yn gofyn am ei wasanaeth o, i daro llygad gramadegwr ar eu gwaith. Byddai sawl sefydliad a chymdeithas ar ei ofyn am wybodaeth a chyngor fel ieithydd, ac ymhlith ei gyfraniadau mae’r rhestr o dermau a fathwyd ganddo ar gyfer y Gymdeithas Ddeintyddol Gymraeg.
Roedd o’n ŵr hawddgar, hoffus ac annwyl – bob amser yn ddi-lol – ac er ei fod o’n treulio llawer o amser wrth ei ddesg yn ei studfa, roedd o’n gymeriad cymdeithasol ac yn mwynhau cwmnïaeth.