Mae morâl gweithwyr ambiwlans yng Nghymru yn is nag erioed, meddai staff wrth undeb gwasanaethau cyhoeddus UNSAIN heddiw (dydd Iau, Ionawr 26).
Ar hyn o bryd, mae UNSAIN, sef yr undeb iechyd fwyaf yng Nghymru, yn cynnal pleidlais arall ar weithredu diwydiannol dros gyflog ac amodau ymysg aelodau sy’n gweithio i Wasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae staff yn y sector wedi dweud eu bod nhw’n gorweithio, gyda rhai yn cael eu gorfodi i wneud galwadau “poenus” i ddweud wrth gleifion na fydd ambiwlans ar eu cyfer.
‘Dinistriol i’r enaid’
“Mae criwiau, ar adegau, y tu allan i adrannau brys yn gofalu am gleifion am fwy na 12 awr,” meddai Carol Roberts, un gweithiwr ambiwlans.
“Wnaethon nhw ddim ymuno â’r gwasanaeth i wneud hyn.
“Mae eu radios yn canu yn barhaus ar gyfer y swydd nesaf, ond yn syml, fedran nhw ddim ymateb.
“Mae hyn yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl, gyda llawer yn gadael neu’n cymryd ymddeoliad cynnar.”
Gwaith Carol Roberts yw cynnal asesiadau cychwynnol dros y ffôn.
“Ein rôl ni yw ffonio cleifion yn ôl, rhai â symptomau strôc amlwg neu’n henoed sydd wedi cwympo, ac mae dweud wrthynt nad ydym yn anfon ambiwlans yn ddinistriol iawn i’r enaid,” meddai.
“Wnaeth nyrsys a pharafeddygon ddim ymuno â’r gwasanaeth i wneud hyn.
“Mae morâl Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar ei lefel isaf erioed.
“Mae’r amser ar gyfer siarad, yn amlwg wedi disgyn ar glustiau byddar ac yn syml iawn does gennym ni ddim dewis arall ond pleidleisio dros weithredu diwydiannol.
“Mae gweithwyr ein canolfannau cyswllt clinigol yn gorweithio, a chriwiau ffordd sy’n gorfod jyglo gofal plant â gweithio, ac yn poeni os oes ganddyn nhw ddigon o danwydd i yrru i’w gorsaf.”
‘Datrysiad brys a hirdymor’
Dywed Hugh McDyer, pennaeth iechyd UNSAIN Cymru, ei bod hi’n gadarnhaol gweld bod Llywodraeth Cymru’n barod i drafod gydag undebau iechyd “yn wahanol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig”.
“Ond mae’n rhaid cael datrysiad brys a hirdymor i’r argyfwng tâl ac amodau sy’n wynebu miloedd o weithwyr iechyd dros Gymru,” meddai.
“Gweithwyr ambiwlans yw’r union bobol rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw mewn argyfwng, ac eto maen nhw’n wynebu cyfuniad gwenwynig o dâl isel, yr argyfwng costau byw gwaethaf mewn cenhedlaeth, a galw digynsail am eu gwasanaeth.”