Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar y cyn-ysgrifennydd iechyd Matt Hancock ar reilffordd danddaearol Llundain.

Mae Geza Tarjanyi, 61 oed, o Swydd Gaerhirfryn, wedi cael ei gyhuddo o ymosod a dwy drosedd yn ymwneud â threfn gyhoeddus, meddai Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Bellach, mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos yn y llys fis nesaf.

Y gred yw na chafodd yr Aelod Seneddol ei anafu yn y digwyddiad.

Cafodd Geza Tarjanyi ei arestio’r diwrnod canlynol, ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiad o ddyn yn dioddef “ymosodiad ac aflonyddu” yng ngorsaf San Steffan, sy’n agos i Dŷ’r Cyffredin.

Ar hyn o bryd mae Mr Hancock, Aelod Seneddol Gorllewin Suffolk, yn eistedd fel aelod annibynnol a chyhoeddodd fis diwethaf nad yw’n bwriadu sefyll yn yr etholiad nesaf.

Cafodd ei wahardd fel Aelod Seneddol Ceidwadol y llynedd ar ôl ymddangos ar y rhaglen I’m a Celebrity… Get Me Out of Here.