Mae menter recriwtio newydd sy’n ceisio annog darpar ddeintyddion sy’n hyfforddi i fyw a gweithio yn ardaloedd gwledig Cymru wedi cael ei lansio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae’r rhan fwyaf o raddedigion deintyddol newydd yn dewis cwblhau eu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen blwyddyn mewn practis deintyddol.
Fodd bynnag, mae’r ystadegau yn dangos bod gwell gan lawer o raddedigion deintyddol wneud eu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen mewn ardaloedd mwy trefol, gan adael rhai practisau mewn rhannau gwledig o Gymru heb adnoddau digonol a swyddi heb eu llenwi.
Yn 2021/22, cafodd 6% o’r swyddi gwag eu gadael heb eu llenwi.
Fel ateb, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen Cynnig Recriwtio Estynedig Cymru, menter newydd i annog hyfforddeion i gwblhau eu hyfforddiant mewn practis gwledig a chynyddu gwasanaethau deintyddol i bobl yr ardal.
Menter newydd yw hwn sy’n cynnig pecyn cymorth estynedig i hyfforddeion sy’n cyflawni Hyfforddiant Deintyddol Sylfaen mewn bractisau deintyddol gwledig yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru.
Bydd modd gwneud cais ar gyfer y pecyn cymorth o Chwefror 1 ymlaen.
Mae’r pecyn newydd hwn yn cynnwys manteision megis:
- £5,000 grant byw mewn ardaloedd gwledig
- Diwrnod astudio wythnosol
- Aelodaeth coleg brenhinol ffioedd arholiadau dan sylw AaGIC
- Cyllideb astudio £600 tuag at baratoi ar gyfer arholiadau
- Adnoddau dysgu ar-lein rhad ac am ddim
- Cymorth lles
“Annog pobol i aros yng Nghymru”
“Annog pobol i aros yng Nghymru” yw’r nod, yn ôl Pushpinder Singh Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Swyddog Cyfrifol Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wrth golwg360.
“Yn gyffredinol yn y maes meddyginiaethau pan mae gennym ni bobol yn hyfforddi yma, rydyn ni’n dueddol o gadw’r staff yng Nghymru yn y tymor hir,” meddai.
“Ond gyda deintyddiaeth dydy hynny ddim mor wir.
“Yn gyntaf oll, dyw e ddim yn ofynnol i ddeintyddion wneud Cwrs Sylfaen Deintyddol ar ôl gorffen eu cwrs gwreiddiol.
“Fe alli di ddechrau gweithio yn syth ac mae nifer o ddeintyddion yn gwneud hynny.
“Dyna pam mae Cymru’n dioddef pan mae’n dod at bobol yn gweithio yn y maes deintyddiaeth yn y tymor hir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
“Felly’r syniad tu ôl i hyn ydy annog pobol i aros yng Nghymru a pharhau i hyfforddi.
“Rydyn ni eisoes wedi gwneud hyn mewn meysydd eraill megis seiciatreg a meddygaeth teulu, yn benodol mewn ardaloedd gwledig.
“Nawr rydyn ni’n ei wneud e yn y maes deintyddiaeth yma yng Nghymru.
“Yr holl syniad yw bod pobol yn hyfforddi, gweithio ac yna byw yma.”
“Cysylltiadau â Chymru”
Mae’r fenter yn ymweld â holl ysgolion deintyddiaeth y Deyrnas Unedig i edrych am bobol i gymryd rhan.
“Rydyn ni’n edrych yn benodol am bobol sydd â chysylltiadau â Chymru,” eglura Pushpinder Singh Mangat.
“Er enghraifft, efallai eu bod nhw wedi cael eu magu yng Nghymru, efallai eu bod nhw’n siarad Cymraeg neu wedi byw neu astudio yma yng Nghymru.
“Ond hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw’r un o’r rheiny, os oes ganddyn nhw gysylltiadau teuluol yng Nghymru rydym yn fodlon eu hystyried.
“Ond beth rydyn ni eisiau ydy pobol sy’n fwy tebygol o aros yng Nghymru os ydyn ni’n rhoi’r cynnig hwn iddyn nhw.
“Rhai o’r manteision i’r bobol fydd yn derbyn lle yw y byddan nhw’n gwybod yn union lle maen nhw’n mynd i fod yn gweithio ymhell o flaen pawb arall.
“Fe fydd ganddyn nhw sicrwydd, sy’n golygu y byddan nhw’n gallu cynllunio’n well.”
“Teimlad o gymuned”
Mae byw a gweithio yng Nghymru yn rhoi “teimlad o gymuned” nad sydd i’w gael yn Lloegr, medd Alex Rawlins, Cydymaith Arweinyddiaeth Glinigol Cymreig (Deintyddol) Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wrth golwg360.
Yn wreiddiol o Orllewin Sussex, astudiodd Alex Rawlins ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn gweithio Llanilltud Fawr.
“Dw i’n gwybod nad ydi Llanilltud Fawr mor wledig â rhai llefydd eraill,” meddai.
“Ond oherwydd ei bod hi’n gymuned fechan, roedd pobol yn adnabod ei gilydd yn dda iawn.
“Roedd y bobol oedd yn dod i mewn yn adnabod y staff yn bersonol, nid oherwydd eu bod nhw’n gleifion.
“Felly roeddet ti wir yn cael y teimlad nad dim ond rhif oedden nhw, eu bod nhw’n bobol go iawn oedd â straeon eu hunain ac roeddwn i wrth fy modd gyda hynny.
“Byddwn i’n argymell byw yng Nghymru i unrhyw un.
“Mae’r bobol yn ofnadwy o gyfeillgar ac mae yna deimlad o gymuned yma dw i ddim wedi’i brofi yn Lloegr.
“Dw i wedi bod yma ers naw mlynedd a dw i’n dal i gael y teimlad bod yna fwy o gymuned yma na Lloegr.
“Mae pobol i weld yn deall beth mae’n golygu i fyw yng Nghymru, ond rwyt ti’n llai tebygol o gael hynny yn Lloegr.”