Mae Cadeirydd Pwyllgor Meddygol Teulu Cymru wedi croesawu’r newyddion y bydd modd cwblhau gradd feddygaeth lawn ym Mhrifysgol Bangor o 2024 ymlaen.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyd at 140 o leoliadau i fyfyrwyr meddygaeth bob blwyddyn yn yr ysgol feddygaeth newydd.
Mae’r cwrs presennol ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, gyda graddedigion yn treulio eu blwyddyn gyntaf yn y brifddinas cyn trosglwyddo i’r gogledd ar gyfer gweddill eu gradd.
Ond o’r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd modd astudio o’r cychwyn ym Mangor.
Dywedodd Dr Phil White, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a Meddyg Teulu yn y Felinheli, wrth golwg360 fod y datblygiad yn “gam mawr ymlaen”.
Bydd yr ysgol feddygaeth yn hyfforddi cannoedd o fyfyrwyr, gan sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi yn cael eu cynnig, a meddygon cymwys yn cael eu darparu mewn gwahanol ardaloedd o Gymru.
Cadw meddygon yn y gogledd
“Rydan ni’n croesawu’r cam yma heddiw,” meddai Dr Phil White.
“Gawsom ni drafodaeth ryw fis yn ôl am hyn efo Pennaeth newydd yr ysgol feddygol ac roedd o’n esbonio sut byddai o’n cynyddu’n raddol dros y pedair neu bum mlynedd.
Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n elwa ar dechnoleg o’r radd flaenaf ar gyfer astudio anatomeg.
“Rydan ni’n gwybod os ydy pobol yn hyfforddi yn lleol, maen nhw’n dueddol o aros yn lleol, yn enwedig o ran meddygon teulu.
“Byddan ni’n croesawu hyn achos siawns bydd sawl un o’r rhain yn bobol leol i ddechrau, ac os fedri di gael nhw i aros yn y cylch wedyn, siawns wnawn nhw gymryd swyddi yn y cylch hefyd.
“Mae yna lot o bractisiau Cymraeg yn hyfforddi myfyrwyr ac mae ein practis ni’n hyfforddi myfyrwyr yn y Felinheli ac ym Mhorthaethwy, felly maen nhw’n cael dod ar draws ymarfer meddygaeth yn y Gymraeg hefyd, sy’n bwysig.
“Mae cynyddu nifer y myfyrwyr meddygol yng Nghymru hefyd yn bwysig achos dydyn ni ddim yn hyfforddi digon o feddygon ar y foment.
“Dydy’r wlad i gyd ddim yn hyfforddi digon a dyna’r rheswm ein bod ni efo’r prinderau yma ar draws y Deyrnas Unedig.”
Hyfforddi meddygon y dyfodol
Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n elwa ar dechnoleg o’r radd flaenaf ar gyfer astudio anatomeg.
Cafodd y cyfleuster gymorth buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, a’r myfyrwyr yw’r garfan gyntaf o raddedigion Prifysgol Caerdydd i fod wedi derbyn y rhan fwyaf o’u haddysg yn y gogledd.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Bydd ein hysgol feddygaeth newydd yn y gogledd yn ein helpu i hyfforddi’r staff meddygol sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol.
“Rwy’n falch y bydd cymaint o fyfyrwyr yn gallu astudio yn y gogledd ac rwy’n gobeithio y byddan nhw’n aros i weithio yn y cymunedau hynny ar ôl iddyn nhw orffen astudio.
“Mae hyn yn newyddion da i’r myfyrwyr, i bobol y gogledd ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaeth iechyd sy’n darparu gofal mor agos at gartrefi pobol â phosibl.”