Mae Uwch-ymarferwyr Parafeddygol ledled Cymru yn helpu i drin rhagor o bobol yn y gymuned er mwyn sicrhau na fydd pobol yn mynd i’r ysbyty yn ddiangen.

Yn ôl data gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, roedd angen i hyd at 70% yn llai o bobol fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys pan fyddai Uwch-ymarferydd Parafeddygol wedi ymateb i’r galw, o’u cymharu â chriwiau traddodiadol.

Parafeddygon yw Uwch-ymarferwyr Parafeddygol, sydd hefyd yn gofalu am gleifion mewn lleoliad gofal sylfaenol drwy fodel gweithio ar batrwm cylch, gan ddarparu dolen gyswllt rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd.

Maen nhw’n gweithio mewn meddygfeydd, canolfannau gofal cymunedol ac ar y ffyrdd mewn cerbydau ymateb cyflym yn y gymuned.

Byddan nhw wedi ymgymryd ag addysg ychwanegol drylwyr er mwyn ymateb i alwadau 999, gwneud penderfyniadau clinigol uwch, cynnal adolygiadau o feddyginiaethau ac, mewn rhai achosion, roi presgripsiynau am feddyginiaethau.

Ymhlith y galwadau cyffredin y bydd Uwch-ymarferwyr Parafeddygol yn ymateb iddyn nhw mae poenau yn y frest ac anawsterau anadlu.

Os daw penderfyniad mewn asesiad uwch nad oes angen clinigol i’r claf gael ei gludo i adran damweiniau ac achosion brys, gall Uwch-ymarferydd Parafeddygol roi triniaethau ar unwaith, gan weithio gyda llwybrau gofal sylfaenol neu lwybrau eraill i gynnal adolygiadau o feddyginiaethau yn ogystal â chynnig cymorth gofal cymdeithasol a chymorth iechyd meddwl ac ymyriadau eraill.

Yn dilyn adolygiad o’u rôl yn 2017, mae gwaith yn mynd rhagddo i adeiladu ar lwyddiant y model gweithio ar batrwm cylch.

Mewn nifer o Fyrddau Iechyd, mae Uwch-ymarferwyr Parafeddygol yn gweithredu fel ‘llyw-wyr’ yn y canolfannau gofal brys integredig, lle maen nhw’n rhoi cyngor i bobol sydd wedi galw 999, gan eu cyfeirio at wasanaethau priodol eraill er mwyn sicrhau na fyddant yn mynd i’r ysbyty yn ddiangen.

Mae cynyddu nifer yr Uwch-ymarferwyr Parafeddygol yn rhan o ymrwymiad Fframwaith Adsefydlu Llywodraeth Cymru i alluogi gwasanaethau adsefydlu i ddarparu cymorth a gofal yn nes at y cartref.

Drwy gadw pobol sydd wedi cwympo, neu bobol sy’n agored i niwed, neu bobol mae angen acíwt neu frys arnyn nhw i gael gwasanaethau adsefydlu allan o’r ysbyty, mae’n fwy tebygol y bydd y claf yn cael canlyniad cadarnhaol.

Drwy atgyfeirio cleifion i arbenigwyr adsefydlu am driniaeth, gan gynnwys ffisiotherapyddion, mae modd osgoi problemau fel gwanhau’r cyhyrau a’u colli, sy’n gallu codi os bydd y claf yn mynd i’r ysbyty.

‘Y gofal iawn, yn y lle iawn’

“Mae Uwch-ymarferwyr Parafeddygol ymhlith yr opsiynau a ddefnyddir gennym i sicrhau bod pobl yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf ac mor agos at y cartref â phosibl,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Drwy ymyrryd yn gynnar, mae’n bosibl sicrhau na fydd pobl yn mynd i’r ysbyty yn ddiangen er lles ein hadrannau brys sydd eisoes o dan bwysau, ac mae’n helpu pobl i aros yn eu cartrefi.

“Mae’r rôl uwch hon yn rhoi cyfle i barafeddygon weithio ym mhob rhan o’r system iechyd a gofal yn lle cael eu cyfyngu i’w rolau traddodiadol mewn criwiau ambiwlansys.

“Maen nhw’n darparu cymorth bywyd uwch, yn gwneud penderfyniadau am driniaeth brys ac yn asesu cleifion a’u cyfeirio at y rhan gywir o’r system iechyd er mwyn rhoi’r gofal sydd ei angen arnynt.

“Drwy nodi anghenion pobl pan fyddan nhw’n dod i gysylltiad â’r Gwasanaeth Iechyd gyntaf, a sicrhau eu bod yn cael gofal priodol, mae modd osgoi dyblygu gwaith a darparu dull sy’n canolbwyntio ar unigolion er mwyn sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau a helpu pobl i aros yn iach, ac i fyw yn iach.”

‘Uchelgais’

“Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gweithio’n galed i sicrhau ei bod yn gallu delio’n well â mwy o gleifion, yn nes at y cartref,” meddai Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Parafeddygaeth yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

“Mae’r newidiadau yn y math o alwadau rydyn ni’n eu cael gan gleifion yn y system 999 yn dangos, i nifer mawr o’n cleifion, na fyddai mynd â nhw i Adran Frys yn cynnig yr opsiwn gorau bob amser.

“Drwy weithio gyda’n Comisiynwyr, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi gallu cynyddu nifer ein Huwch-ymarferwyr Parafeddygol i sicrhau bod mwy o gleifion yn gallu elwa ar eu sgiliau.

“Ein huchelgais yw parhau i gynyddu ein niferoedd yn y ffordd hon, a sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar fuddion y rôl glinigol allweddol hon.”