Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Dr J Elwyn Hughes, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “cymwynaswr ym myd iaith, llenyddiaeth a hanes yng Nghymru”.

Bu’n olygydd Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol am 30 mlynedd rhwng 1985 a 2015.

Yn wreiddiol o Ddyffryn Ogwen, roedd yn arbenigwr ar hanes Caradog Prichard, ac Un Nos Ola Leuad yn arbennig, gan ennill doethuriaeth am ei ddwy gyfrol Byd a Bywyd Caradog Prichard a Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad o Brifysgol Bangor yn 2009.

Bu’n brifathro ar Ysgol Dyffryn Ogwen, ac yn ogystal â’i waith ar Caradog Prichard roedd yn arbenigwr ar y Gymraeg, gan ysgrifennu sawl cyfrol ar y pwnc gan gynnwys Canllawiau Ysgrifennu Cymraeg.

Yn ddiweddarach, ymgartrefodd ym mhentref Bethel ger Caernarfon, a chafodd ei dderbyn i’r Orsedd yn 1993 am ei gyfraniad i’r Gymraeg.

“Mae heddiw’n ddiwrnod lle rydyn ni wedi colli cymwynaswr ym myd iaith, llenyddiaeth a hanes yng Nghymru,” meddai Gwyn Lewis, sydd wedi’i olynu i olygu’r Cyfansoddiadau, wrth golwg360.

“Mae fy adnabyddiaeth i ohono’n mynd yn ôl i’r dyddiau pan oedd y ddau ohonom ni’n gweithio ym myd addysg, a phan oeddwn i’n ymgynghorydd y Gymraeg i Awdurdod Addysg Gwynedd, mi ddaeth Elwyn yn gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Iaith gafodd ei sefydlu dan nawdd Awdurdod Addysg Gwynedd a’r Coleg Normal [ym Mangor], a dw i’n gofio fo’n rheolwr y Ganolfan Astudiaethau Iaith ym Mangor a Llangefni.

“Roedden ni’n gallu seiadu am nifer o bethau yn ymwneud â’r Gymraeg, a’r Gymraeg ym myd addysg.

“Roedd ei gyfraniad o fel cyfarwyddwr y Ganolfan yn gyfraniad mawr iawn, yn cyhoeddi, cyhoeddi darlithoedd a noddi darlithoedd, a llawer iawn o adnoddau yn cael eu cynhyrchu gan y Ganolfan i ysgolion.

“Roedd gen i adnabyddiaeth bersonol felly ohono fo, ac yn ei ystyried yn gyfaill a chydweithiwr.

“Fel un sydd wedi olynu Elwyn fel golygydd y Cyfansoddiadau, fyswn i’n edrych ar Elwyn fel un oedd yn burydd ieithyddol ac un oedd yn gwarchod y safonau uchel, ac roeddwn i yn teimlo dipyn o gyfrifoldeb i’w ddilyn o fel golygydd y Cyfansoddiadau gan ei fod o mor uchel ei safonau ac yn gofalu gwarchod yr hyn roedd o’n ei wneud.

“Mi gefais i lawer iawn o gynghorion ganddo fo, â dweud y gwir, wrth gychwyn ar y gwaith, cynghorion oedd yn werthfawr iawn a chynghorion dw i wedi’u trysori’n fawr iawn.

“Fuodd o’n gefn mawr i fi ers pan dw i wedi’i olynu fo fel golygydd y Cyfansoddiadau, bob amser yn barod ei gyngor ac yn barod iawn, iawn i roi help llaw yn y gwaith o olygu’r gyfrol.”

‘Ei gymwynas yn fawr’

Roedd J Elwyn Hughes yn “ddyn ei filltir sgwâr” ac yn meddwl y byd o Ddyffryn Ogwen, meddai Gwyn Lewis.

“Rydyn ni hefyd yn cofio Elwyn fel cofiannydd, wir, Caradog Prichard, ac un ddaru wneud cymwynasau lu mewn gwirionedd yn dehongli gwaith Caradog Prichard ond hefyd yn rhoi dipyn o gig ar Un Nos Ola Leuad yn arbennig felly, a’r byd tu ôl i Un Nos Ola Leuad, yn dod â’r cymeriadau a’r gymdeithas yn fyw; adnabyddiaeth Elwyn ei hun, mae’n debyg, o Caradog Prichard hefyd yn cyfoethogi’r dehongliad hwnnw.

“Dyffryn Ogwen oedd popeth iddo ac roedd o’n gwybod bob dim, mewn gwirionedd, am hanes a thraddodiad Dyffryn Ogwen, a Dyffryn Ogwen yn agos iawn, iawn at ei galon.

“Roedd o bob amser eisiau dyrchafu’r gymdeithas oedd yn Nyffryn Ogwen, ac yn gallu rhoi ei slant personol o ar y diwylliant a’r gymdeithas oedd yn Nyffryn Ogwen.

“Mae ei gymwynas o’n fawr hefyd yn y llyfrau mae o wedi’u cyhoeddi yn ymwneud â’r Gymraeg a gramadeg, canllawiau iaith, sgrifennu.

“Mae llawer iawn ohonom ni’n troi atyn nhw, llyfrau rydyn ni’n eu cadw wrth ein penelin pan rydyn ni’n sgrifennu neu’n golygu.

“Mae o wedi gwneud cymwynas fawr yn rhoi canllawiau pendant mae rhywun yn gallu dibynnu arnyn nhw, ac yn gwybod eich bod chi ar dir go gadarn wrth ddilyn Elwyn.

“Mae heddiw’n ddiwrnod o golled i ni fel Cymry, ond mae’r golled yn gymaint mwy i’w deulu, ac rydyn ni’n cofio am ei deulu fo’n arbennig ar y diwrnod yma.”

‘Colled fawr ar ei ôl’

Ychwanegodd Lefi Gruffydd, Pennaeth Cyhoeddi gwasg Y Lolfa, y bydd “colled fawr” ar ôl J Elwyn Hughes.

“Mi oedd Elwyn yn gymwynaswr mawr i’r iaith Gymraeg ac i ddiwylliant dyffryn Ogwen,” meddai wrth golwg360.

“Bu’n bleser cydweithio ag e ar gyhoeddi Trysorau Coll Caradog Prichard – cyfrol arbennig oedd yn cynnwys gohebiaeth ryfeddol a ddaeth i’r fei yn gymharol ddiweddar – ei gyfrol olaf, a gyhoeddwyd yn 2020.

“Mi wnaeth gyfraniad pwysig gyda’i lyfrau niferus ar waith Caradog Prichard a gramadeg Cymraeg yn arbennig.”

‘Dyn iaith a gramadeg’

Roedd J Elwyn Hughes yn “ddyn iaith a gramadeg o’i gorun i’w sawdl”, yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae colli Dr J Elwyn Hughes yn ergyd drom i ni yma yng Nghymru,” meddai llefarydd.

“Yn ddyn iaith a gramadeg o’i gorun i’w sawdl, roedd o hefyd yn olygydd heb ei ail, a bu’n gyfrifol am gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer.

“Roedd ei ofal a’i lygad craff a manwl yn amhrisiadwy wrth dynnu cyfrol mor swmpus at ei gilydd mewn cyfnod mor fyr, ac roedd Elwyn bob amser yn barod i helpu a pharod am sgwrs wrth i’r gyfrol ddod ynghyd.

“Er iddo ymddeol ers rhai blynyddoedd, mae hon yn golled drom i’r Eisteddfod ac yn golled fwy i’n hiaith.

“Rydyn ni’n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at y teulu heddiw ac yn cofio’n annwyl am Elwyn a’i waith.”

‘Ieithydd o fri’

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd yr cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, ei fod yn “ieithydd o fri”.

“Newyddion trist iawn. Un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg,” meddai.

“Roedd ei allu gyda’r iaith yn beth mawr, a’r ffaith ei fod e’n gallu sgrifennu mor gywrain.”