Mae darn o waith gafodd ei gyflwyno i Ocsiwn Gelf i godi arian tuag at gronfa Celfyddydau Gweledol Eisteddfod 2023 wedi ei werthu am £1,000.
Cyflwynodd Siân Parri, artist o Lŷn, y darn er cof am ei ffrind Gwenan, fu farw’n 24 oed.
Mae’r llun amlgyfrwng ‘Tynged 1’, gafodd ei werthu yn yr ocsiwn yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, wedi ei seilio ar waith buddugol Siân Parri, ‘Tynged yr Iaith’, enillydd Gwobr Ifor Davies a Gwobr Joseff Herman (Dewis y Bobol) yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019.
Cloc ar y wal oedd hwnnw, yn ailgyflwyno rhybudd Saunders Lewis y bydd dwyieithrwydd yn arwain at “farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddi-alar i’r Gymraeg”.
Roedd y bysedd ar funudau cyn hanner nos a staen ar ei wyneb ar ffurf y rhannau o Gymru oedd ag 80% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn 1962, ac roedd llais Saunders Lewis yn atseinio ohono.
“Mi gyflwynais y gwaith er cof am fy ffrind Gwenan Tan y Ffordd a gollwyd yn 24 oed yn 1986,” meddai Siân Parri.
“Mi fyddai Gwenan yn dŵad efo fi i wneud lluniau yn y Morris Mil, eistedd am oriau yn siarad a chwerthin a Gwenan yn brolio bob llun ar y diwedd.
“Roedd yn hogan arbennig, yn garedig a chreadigol tu hwnt, yn llawn hwyl a sbortiau gwirion, yn licio blodau gwyllt (ymhell cyn ei fod yn ffasiynol), yn ymgyrchu dros Gymru a’r Gymraeg ac mi oedd y byd yn llawn lliw efo hi ynddo fo.
“Mi aeth fy myd i, a’i theulu, a’i gwr Merfyn, a’i llu o ffrindiau eraill yn llwyd iawn pan gollom ni hi a’i hogan fach Martha.
“Dydi creadigrwydd a galar ddim yn gyfeillion i’w gilydd ac addas felly oedd cyflwyno’r darn iddi hi ar ddiwedd blwyddyn go lwyddiannus, o ran fy ngwaith celf.
“Blwyddyn a ddechreuodd efo’r arddangosfa yng Nglyn y Weddw a gorffen wrth werthu’r darn ‘Tynged 1’ a diolch o galon i’r sawl a’i prynodd.”
‘Gwaith sy’n cyfleu ysbryd Cymru’
Yn dilyn llwyddiant ei gwaith yn Eisteddfod Llanrwst, cafodd wahoddiad i gynnal arddangosfa yn Oriel Glyn y Weddw rhwng Ionawr ac Ebrill 2022.
“Fe gymerodd y gwaith ei le yn dda ac mi fuodd yna adwaith rhyfeddol iddo, a phwrpas y gwaith oedd yn cyflwyno stad y genedl a’r iaith Gymraeg.
“Roedd pobol yn dŵad yn ôl dro ar ôl tro i’w weld, ac mi oedd rhai yn crio wrth edrych arno ac felly mi lwyddais i gyfleu’r neges a dyna bwrpas fy ngwaith.”
Roedd cyfres o dri darn yn cyflwyno digwyddiadau hanesyddol yng Nghymru sef ‘Brad’, ‘Penyberth’ a ‘Tryweryn’, ac mi werthodd y tri.
Mae gan Siân Parri bennod yn y gyfrol newydd Hon, lle mae deg o artistiaid benywaidd yn trafod sut y mae Cymreictod wedi dylanwadu ar eu celf.
Wedi’i gyhoeddi’n ddwyieithog, gwelodd Siân Parri gyfle i ddarbwyllo’r di-Gymraeg hefyd o werth a hanes yr iaith, ac yn ei ei phennod mae hi’n sôn am gyfnod o chwyldro celfyddydol yng Nghymru yn yr 80au.
“Yr oeddwn i yno yn ei yn ei ganol, y fi oedd y pedwerydd aelod o’r Grŵp Beca a fi oedd yr unig aelod benywaidd. Roeddwn i hefyd yn aelod o Gweled.
“Mae’r bennod yn sôn hefyd am gyfnod llosgi tai haf a sefydlu Cyfeillion Llŷn, a sefydlwyd gan fy nhad Gruffudd Parry ac R.S. Thomas, ac am benderfyniad R.S i beidio siarad Saesneg er mwyn gwarchod y Gymraeg, ac ymwrthod â chynigion i ddarllen ei farddoniaeth ei hun.”
Ar hyn o bryd, mae Siân Parri, ar y cyd ag Ifor Davies, yn paratoi trefniadau i ddathlu ugain mlynedd o gyflwyno’r wobr, ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
Fel rhan o hynny, maen nhw’n galw ar fwy o artistiaid i greu gwaith sy’n cyfleu ysbryd, hanes a brwydrau’r genedl a’r iaith Gymraeg, sef yr un alwad ag un y chwyldro celf yn Nghymru yn yr wythdegau.
“Dw i’n teimlo ym mêr fy esgyrn, ac yn gwybod yn fy isymwybod, fy mod yn perthyn i bobol y bryngaerau ac yn siarad iaith sydd yn perthyn i’w hiaith nhw.”
Bydd Hon yn cael ei lansio’n swyddogol yn y Llyfrgell Genedlaethol ar Fawrth 8.