Mae stiwdio ffilm a theledu newydd wedi cael ei hagor ar Ynys Môn heddiw (Ionawr 26) gyda’r bwriad o greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant newydd yn yr ardal.
Bydd Stiwdios Aria yn Llangefni ar gael ar gyfer cynyrchiadau o bob cwr o’r byd, ac maen nhw wedi ymrwymo i ddatblygu gogledd Cymru fel “canolbwynt cynhyrchu rhyngwladol”.
Trwy sefydlu Academi Hyfforddiant Aria, bydd ystod o gynlluniau hyfforddi a datblygu personol yn cael eu creu er mwyn hybu talent leol.
Cwmni Rondo Media a changen fasnachol S4C sy’n gyfrifol am y datblygiad, a hynny gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
‘Cynnwys o’r radd flaenaf’
Mae’r Stiwdios yn cynnwys dau lwyfan sain ar draws 16,000 troedfedd sgwâr o ofod ffilmio, ac yn ôl y datblygwyr bydd yn hwyluso cynhyrchu cynaliadwy ac yn pwysleisio’r potensial sydd gan ogledd Cymru i’w gynnig i’r maes.
Dywed Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo, bod y lansiad yn “arwyddocaol ar gyfer y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru”.
“Mae’r adnodd yn cynnig cymaint o gyfleoedd ac mae’r buddsoddiad hwn yn newyddion gwych i’r rhanbarth,” meddai.
“Mae gan Ogledd Cymru dirwedd ac arfordir syfrdanol a doniau cynhyrchu creadigol a thechnegol arbennig iawn.
“Rydym yn edrych ymlaen at fuddsoddiadau pellach yn y rhanbarth ac at weithio gyda phartneriaid ysbrydoledig i alluogi cynhyrchu cynnwys o’r radd flaenaf i gynulleidfaoedd byd-eang.”
Y bwriad, yn ôl llefarydd ar ran Rondo Media, ydy denu cwmniau cynhyrchu sylweddol i hurio’r stiwdio er mwyn ffilmio eu cynyrchiadau, gan ddefnyddio criwiau lleol i weithio ar “ystod eang o gynnwys”.
“Mae’r cynllun yn ymgorffori ymroddiad i ddatblygu gyrfaoedd mewn partneriaeth gyda cholegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant a fydd yn ei dro yn arwain at greu cyfleoedd a chyflogaeth newydd,” eglura.
“Mae Rondo eisioes yn llogi un o’r stiwdios ar gyfer cynhyrchu Rownd a Rownd sydd fel cyfres yn cyflogi dros 100 o bobol am ran helaeth o’r flwyddyn.”
“Er mai niferoedd cymharol fach fydd yn cael eu cylfogi’n uniongyrchol gan yn yr adnodd ei hunan i gychwyn, fe fydd yn sbardun i gynnal cyfleoedd gwaith eang a niferus dros y blynyddoedd i ddod.”
‘Meithrin talent leol’
Ychwanega Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, bod creu cyfleoedd i feithrin talent dros Gymru yn “flaenoriaeth allweddol i S4C”.
“Mae cael adnodd gwych fel hyn yn Ynys Môn – cartref un o gynyrchiadau mwyaf S4C, Rownd a Rownd – yn rhywbeth hynod gyffrous i ni.
“Rwy’n gweld menter Stiwdios Aria fel cyfle i feithrin talent leol ac adeiladu ar bresenoldeb S4C yng Ngogledd Cymru yn ogystal â denu mwy o gynyrchiadau proffil uchel i Ynys Môn.”
‘Tyfu’r diwydiant Cymreig’
Wrth ymweld â’r stiwdios heddiw, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei fod yn “gyfle gwych i dyfu’r diwydiant Cymreig a chryfhau ei safle yn y busnes adloniant byd-eang”.
“Mae llawer o gynhyrchwyr eisoes yn gwybod beth sydd gan ein gwlad i’w gynnig a bydd y math hwn o ddatblygiad safon uchel yn denu sylw rhagor o gynyrchiadau proffil uchel ac yn helpu i leoli’r rhanbarth fel canolbwynt ar gyfer datblygu talent, hyfforddiant a mynediad i’r diwydiant creadigol,” meddai.
“Mae Rondo ac S4C wedi dangos eu cefnogaeth i dalent a photensial Cymru.”