“Wyt Ionawr yn oer”, meddyliais nos Fercher, wrth geisio perswadio fy hun i godi o fy nyth bach clud, lle roeddwn yn swatio dan flanced gynnes. Roedd yn bryd i mi gael fy hun yn barod i fynd.
Cafodd ‘Jam Night’ gynta’r flwyddyn ei gohirio’r wythnos ddiwethaf oherwydd y rhew oedd yn achosi amodau gyrru peryglus. Felly roeddwn wedi bod yn edrych ymlaen drwy’r dydd at gael mynd draw i’r Saith Seren, a pherfformio yn yr awyrgylch cyfeillgar.
Ond wrth iddi dywyllu tu hwnt i’r ffenest, roedd pob cam angenrheidiol yn teimlo’n ormod o strach. Brwsio gwallt? Diflas. Ffeindio bŵts cynnes a chau’r carreiau? Och, rili?! A beth am y ‘barrug gwyn’ ‘na?
Fues i a’r gŵr draw yn ‘Dyffryn moss’ y diwrnod o’r blaen, ac mi roedd y llyn wedi rhewi, a gwelon ni ‘iâr fach yr hesg’ yn cwatio’n druenus, a’i blu’n edrych yn ddigon blêr, rhaid dweud. Mae yna lot o wirionedd yn nhelyneg eiconig Eifion Wyn.
Ac eto, mae’r pennill olaf hefyd yn llawn doethineb ac yn peri i rywun gofio pa mor ffodus ydyw fod ganddo/i dŷ, aelwyd, tân, bara… a chân. Pwy a wŷr am faint fydd hyn yn wir? Felly gwisgais, a stwffiais fy nghyfieithiadau diweddaraf i mewn i fag y music stand, a ffwrdd â fi.
Llwyfan i bawb
Sail nosweithiau ‘Jam nights’ yn y Saith Seren, yw fod y cerddorion Brian, Peter ac Elin yn cyflwyno’r noson, gan roi llwyfan a chefnogaeth i unrhyw un sydd mo’yn perfformio y noson honno. Mae’r criw yn chwarae gitâr, bâs, a drymiau (yn y drefn honno) ac maen nhw’n cymryd enwau ar ddechrau’r noson, tua 9yh. Maen nhw wedyn yn galw pobol fyny i berfformio.
Mae rhai pobol yn chwarae gitâr, gan ymuno â’r criw ar y llwyfan i jamio, gyda Brian yn canu. Diléit eraill yw arwain y gân, tra bod y criw yn chwarae’r gerddoriaeth. Mae rhai yn canu’r gitâr ac yn canu, ar ben eu hunain… anything goes.
Y gerddoriaeth fwyaf poblogaidd yw roc clasurol, gyda chymysgedd go lew o gerddoriaeth y 90au hyd at y cyfoes. Yna mae yna rai ohonom sy’n cyrraedd o’r cae chwith ac o bob pegwn.
Fi a MastaRatt
Mi roeddwn i wedi paratoi cyfieithiad o’r gân ‘Tom’s Diner’ gan Suzanne Vega. Dwi dal wrthi’n ei pherffeithio, ond mi aeth hi’n o lew, a ges i hefyd sylwadau calonogol gan rai o’r ‘criw ifanc yng nghefn y pyb’ am hon, felly roeddwn yn fodlon fy myd.
Mae cyfieithu yn reit heriol, felly dwi wedi dechrau cymysgu fy mherfformiadau hefo caneuon Cymraeg sydd yn bodoli yn barod. Adeg y ’Dolig, wnes i ganu ‘Nadolig Llawen i chi gyd’ gan Caryl Parry Jones. Wythnos yma, wnes i ganu ‘Sŵn’ (Twm Morys).
Cyflwynais ‘Sŵn’ gan esbonio taw cerdd gan Iwan Llwyd oedd hi, wedi ei hanfon ar gerdyn post at Twm Morys, oedd wedyn wedi ei throi’n gân. Roeddwn wedi gyrru’r fideo YouTube at Brian yn y p’nawn, ond wnaethom benderfynu y byddwn yn ei chanu’n a cappella y tro hwn.
Aeth pethau o chwith braidd, a stryglais i newid pitch, gan lithro i ryw octave lawer iawn rhy uchel. Ond fel Eurig Salisbury ym Mragdy’r Beirdd Eisteddfod Tregaron, esboniais a dechreuais eto.
Ar ddiwedd y noson, wnaeth MastaRatt chwarae cerddoriaeth ‘Hotbox’ (enw’r slot radio ar Calon FM). Dyma rywbeth cwbl newydd i Jam night – cerddoriaeth synau technegol hefo teimlad rave a hardcore punk iddi.
Difyr oedd cael sgwrs, gan werthfawrogi cyfraniad ein gilydd. Mi wnaeth MastaRatt ddweud eu bod nhw wedi mwynhau fy marddoniaeth, gan ei gweld hi’n ddiddorol clywed rhywun yn gwneud rhywbeth fel yna hefo’i llais (gan gyfeirio at y warblo ar ddiwedd pob llinell).
Yn hynny o beth, wrth gwrs, roedd fy mherfformiad i yn gwbl wahanol i un MastaRatt, ac eto roedd modd i ni fwynhau gwaith ein gilydd. Dyna’r peth neis am Jam Night, a’r cyfeillgarwch mae’n ei feithrin.
Y Gymraeg yn Jam Night
Waeth i mi gyfaddef, mi roeddwn wedi fy nhemtio jyst i ganu rhywbeth Saesneg – fysa fo’n haws, debyg yn fwy at ddant pawb, yn enwedig gan fod cyn lleied o bobol yn deall y Gymraeg yn yr ardal. Ond cadwais at yr hyn roeddwn wedi’i baratoi, a da o beth oedd hynny.
Wrth gerdded oddi ar y llwyfan yn ôl at fy sedd, dywedodd rhywun ‘Da iawn’ wrtha i. A chyn i mi gael cyfle i siarad ag e, daeth rhywun arall ataf a dechrau siarad Cymraeg hefo fi – a finnau heb wybod fod o ene (bu’n canu yn Saesneg).
Carwyn oedd enw fy nghyfaill newydd, a chawsom sgwrs ddifyr am y Cyfrifiad, diffyg Cymraeg yn Wrecsam, a’r profiad o fynychu ysgolion Cymraeg lle nad oedd y Gymraeg yn ‘cŵl’ ar y buarth. Braf iawn oedd cael sgwrs o’r fath yn y Saith.
Ac fel hyn, felly, y dechreuodd raglen Jam Night y Saith Seren i mi, un noson oer ym mis Ionawr…