Mae’r papur newydd The National yn adrodd bod yr actor Albanaidd Alan Cumming wedi dychwelyd ei OBE yn sgil “natur wenwynig” yr Ymerodraeth Brydeinig, gan ddweud ei fod e wedi cael “agoriad llygad”.

Mae e wedi ymddangos mewn rhai ffilmiau mawr gan gynnwys Goldeneye ac Eyes Wide Shut, ac ar deledu mewn cyfresi fel Doctor Who a Taggart.

Ond cafodd e’r anrhydedd yn 2009 am ei waith yn ymgyrchu tros hawliau cyfartal i gymunedau hoyw a lesbiaidd yn yr Unol Daleithiau.

Ond penderfynodd e ddychwelyd ei anrhydedd yn dilyn sgyrsiau am yr Ymerodraeth Brydeinig ac “ecsbloetio pobol frodorol” ar ôl marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr, meddai mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw (dydd Gwener, Ionawr 27).

“Dychwelais fy OBE,” meddai ar Instagram.

“14 o flynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n eithriadol o ddiolchgar am gael ei dderbyn ar restr anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2009, gan iddo gael ei roi nid yn unig am fy ngwaith fel actor ond am ‘ymgyrchu tros hawliau cyfartal i’r gymuned hoyw a lesbiaidd, UDA.

“Bryd hynny, roedd y Ddeddf Gwarchod Priodasau’n sicrhau na allai cyplau o’r un rhyw briodi na mwynhau’r un hawliau cyfreithiol sylfaenol â phobol heterorywiol, ac roedd Don’t Ask, Don’t Tell yn sicrhau bod pobol agored hoyw, lesbiaidd neu gyfunrywiol wedi’u gwahardd rhag gwasanaethau’r filwriaeth.”

Dywedodd pan dderbyniodd yr anrhydedd ei fod yn “falch o fod yn Brydeiniwr”, ond newidiodd hynny’n llwyr y llynedd, meddai.

“Fe wnaeth marwolaeth y Frenhines a’r sgyrsiau ddilynodd am rôl y frenhiniaeth ac yn enwedig y ffordd wnaeth yr Ymerodraeth Brydeinig elwa ar draul (a marwolaeth) pobol frodorol ledled y byd wirioneddol agor fy llygaid.

“Hefyd, diolch byth, mae’r amserau a’r cyfreithiau yn yr Unol Daleithiau wedi newid, ac mae’r da roedd yr anrhydedd wedi dod ag e i’r achos LHDTC+ yn 2009 bellach yn llai cryf na’r amheuon sydd gen i o fod yn gysylltiedig â gwenwyn yr ymerodraeth (mae OBE yn sefyll am Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig).

“Felly fe wnes i ddychwelyd fy anrhydedd, egluro fy rhesymau ac ategu fy niolchgarwch mawr am gael ei dderbyn yn y lle cyntaf.”