Bydd yr Athro Olivette Otele, hanesydd blaenllaw ar gaethwasiaeth o SOAS Prifysgol Llundain, yn traddodi darlith gyhoeddus ar gyfiawnder adferol ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Llun, Chwefror 6.
Bydd hi’n mynd i’r afael â’r ddadl sy’n cael ei chynnal mewn llawer o sefydliadau yn Ewrop a Gogledd America am iawndal am eu rhan yn y fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd.
Yn 2018, hi oedd y fenyw ddu gyntaf i gael ei phenodi’n Athro Hanes mewn prifysgol yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar hanes trawswladol, a’r cysylltiadau rhwng hanes, cof torfol a geowleidyddiaeth mewn cysylltiad â hanes trefedigaethol Prydain a Ffrainc.
Mae hi hefyd yn gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, wedi cyhoeddi erthyglau academaidd am hunaniaethau Affro-Ewropeaidd, gan gynnwys hunaniaeth Ffrengig, hunaniaethau Prydeinig yng Nghymru, a beth yw ystyr bod yn Brydeinig, Cymreig a Du.
Yn ogystal, hi yw awdur African Europeans: An Untold History, oedd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Orwell ar gyfer ysgrifennu gwleidyddol a Gwobr Llyfrau LA Times 2022.
Bydd ei haraith yn trafod ‘Restorative justice, the next step towards the world we want?‘.
‘Tro newydd ar hen ddadl’
“Mae llawer o sefydliadau yn Ewrop a Gogledd America wedi ceisio cyfrannu at ddadl eang am ddigolledu neu fathau o gyfiawnder adferol am eu rhan nhw wrth gaethiwo pobol i’r farchnad gaethweision ar draws yr Iwerydd o’r bymthegfed ganrif ymlaen,” meddai’r Athro Olivette Otele.
“Mae’r ddadl a gychwynnwyd gan bobol o dras Affricanaidd yn Affrica, y Caribî, Gogledd America ac Ewrop, yn cymryd tro newydd, ddwy flynedd ar ôl llofruddiaeth yr Americanwr Affricanaidd George Floyd.
“Wrth i oblygiadau athronyddol ac economaidd digolledu gael eu trafod, mae’n ymddangos bod y syniad o gyfiawnder adferol yn cael ei gydblethu â strategaethau gwrth-hiliaeth mewn sefydliadau yn y Deyrnas Gyfunol.
“Ar adeg pan fo rhai hanesion dadleuol o’r gorffennol yn dal i gael eu dileu neu eu hanwybyddu wrth i waddolion trefedigaethol gael eu herio, mae’n amserol gofyn a all cyfiawnder adferol ein harwain at fyd yr hoffem fyw ynddo.”
‘Anrhydedd fawr’
“Mae’n anrhydedd fawr fod yr Athro Otele wedi cytuno i siarad yma yn y Brifysgol,” meddai’r Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Y bydoedd a garem fu thema ein Gŵyl Ymchwil, a does dim amheuaeth y dylai’r pwnc hwn fod wrth wraidd y drafodaeth honno fel y mae yn ein cymdeithas yn fwy cyffredinol.
“Rwy’n siŵr y bydd y ddarlith yn helpu i ysgogi trafodaeth fywiog.”
Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Cynadledda Medrus, Penbryn ar Campws Penglais Mhrifysgol Aberystwyth am 5:30yh ddydd Llun, Chwefror 6.
Mae’r digwyddiad yn agored i’r cyhoedd, ac mae modd cadw tocynnau trwy fynd i wefan Prifysgol Aberystwyth.